PGCert – Trosolwg
Cofrestru
- Staff: cwblhewch y ffurflen gais ar-lein i staff (cliciwch ar y cyswllt o dan ‘Staff PB’) a phan ofynnir i chi uwchlwytho dogfennau ategol, dim ond dogfen wag sydd angen i chi ei huwchlwytho gan nad oes arnom angen tystiolaeth o gymwysterau
- Ôl-raddedigion: cwblhewch y ffurflen gais ar gyfer Ôl-raddedigion a’i hanfon drwy e-bost at PGCertTHE@bangor.ac.uk. Rhaid i fyfyrwyr ôl-raddedig hefyd ddarparu llythyr gan eu Pennaeth Ysgol yn cadarnhau o leiaf 100 awr o weithgaredd cysylltiedig ag addysgu ar fodiwlau SA er mwyn eu hystyried ar gyfer cam 1 y cwrs.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28 Medi 2022, ac eithrio yn achos staff newydd sydd dan reidrwydd cytundebol i ymgymryd â’r PGCertTHE.
Cynefino
Amserlen
Bydd cwrs y flwyddyn academaidd hon yn gyfan gwbl ar-lein. Bydd deunyddiau ar gael ar Blackboard o 7 Hydref. Ar gyfer cam 1 (modiwl XVE-4008), bydd adnoddau a gweithgareddau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar gyfer astudio hunan-gyfeiriedig, a chynhelir gweithdai byw ar-lein bob ychydig wythnosau. Ymhellach, bydd un o arweinwyr y rhaglen ar gael trwy drefniant i ddarparu cefnogaeth diwtorial 1:1 trwy gydol y cwrs. Ar gyfer cam 2 (XVE-4009) darperir arweiniad ar lunio’r portffolio, sydd i’w gwblhau dros y flwyddyn academaidd. Bydd cefnogaeth diwtorial 1:1 unwaith eto ar gael trwy drefniant.
Strwythur
Mae dau Gam i gwblhau'r dyfarniad llawn sy'n cynnwys dau fodiwl 30 credyd:
1. Bydd Cam 1 (modiwl XVE4008 Addysgu a Dysgu mewn Addysg Uwch) yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol addysgu i'ch helpu chi i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd y cam hwn yn cynnwys gweithdai rheolaidd i gefnogi'ch datblygiad a bydd y gweithdai hyn yn cael eu mapio ar weithgareddau academaidd trwy gydol y flwyddyn. Bydd yr asesiad ar gyfer y cam hwn yn bortffolio terfynol sy'n tystio i'ch profiad addysgu, a rhaid i hyn gynnwys o leiaf 100 awr o addysgu Addysg Uwch neu gefnogi dysgu (gan gynnwys 25 awr mewn cysylltiad â myfyrwyr) ar fodiwlau mewn Addysg Uwch, sy'n ddarostyngedig i Ansawdd Prifysgol Bangor Gweithdrefnau sicrhau.
2. Bydd Cam 2 (modiwl XVE4009 Gwella Ymarfer Academaidd) yn canolbwyntio ar ymchwil addysgeg i archwilio arloesiadau newydd a datblygu eich ymarfer addysgu ymhellach. Bydd y cam hwn yn cynnwys ysgolheictod annibynnol a bydd yr asesiad yn bapur academaidd.
Mae’r PGCertTHE wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer staff academaidd newydd sydd dan reidrwydd cytundebol i gwblhau’r cwrs. Dim ond i staff sydd â chyfrifoldeb sylweddol dros addysgu neu gefnogi dysgu y mae’n addas. Ei nod yw meithrin gwybodaeth a sgiliau ym meysydd addysgu, dysgu ac asesu, a helpu unigolion i ddatblygu yn ymarferwyr adfyfyriol.
Mae cwblhau’r PGCertTHE yn rhoi cyfle i gael statws Cymrodoriaeth Gyswllt (Cam 1) a Chymrodoriaeth (Cam 2) gyda’r Academi Addysg Uwch. Mae’n cyd-fynd yn agos â Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig. Mae Cam 1 a 2 yn orfodol i staff ar gontractau addysgu academaidd ym Mangor sydd â llai na 3 blynedd o brofiad addysgu di-dor mewn addysg uwch neu nad ydynt eisoes yn Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch. Mae’r cymhwyster wedi’i achredu gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r Academi Addysg Uwch.
Gan weithio ochr yn ochr ag Ymgynghorydd Addysgu profiadol, mae’r rhai sy’n dilyn y rhaglen yn tynnu ac yn adeiladu ar brofiadau a enillir yn ystod eu dyletswyddau addysgu arferol i baratoi portffolio sy’n dangos ymarfer proffesiynol arloesol ac adfyfyriol sy’n seiliedig ar gysyniadau damcaniaethol.
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddatblygu eich addysgu a gwella profiad myfyrwyr, ac mae wedi’i seilio ar fodel o ymarfer adfyfyriol.