Cymrodoriaethau'r Academi Addysgu Uwch (AAU)
Mae Cymrodoriaeth AAU yn gymhwyster addysgu gydnabyddedig yn genedlaethol, gan roddi cydnabyddiaeth bod yr unigolyn yn 'gymwys i ddysgu' mewn Addysg Uwch, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach. Mae Prifysgol Bangor wedi'i hachredu gan Advance HE (yr Academi Addysg Uwch yn ffurfiol) i roddi Cymrodoriaethau AAU i'r myfyrwyr a'r staff trwy ddau lwybr achrededig.
Gan ddibynnu ar brofiad ac arbenigedd, mae pedwar categori i'r Gymrodoriaeth AAU:
- Cymrawd Cysylltiol
- Cymrawd
- Uwch Gymrawd
- Prif Gymrawd
Pam y dylwn wneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU?
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl staff academaidd sy'n addysgu ac yn cefnogi myfyrwyr yn 'gymwys i addysgu' mewn addysg uwch. Mae hyn yn golygu y dylai fod gan unrhyw aelod staff sydd â dyletswyddau addysgu neu gefnogi dysgu gymhwyster addysgu Addysg Uwch perthnasol neu gymrodoriaeth addysgu trwy Advance HE. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i'n myfyrwyr ein bod wedi ymrwymo i ragoriaeth addysgu ac, yn bwysicach fyth, ein bod yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol i'n staff addysgu wella eu hymarfer.
Sut mae gwneud cais am Gymrodoriaeth AAU?
Gallwch wneud cais am Gymrodoriaeth AAU trwy raglen astudio hyfforddedig neu wneud cais trwy'r Cynllun Cydnabod DPP.
Sut mae ennill Cymrodoriaeth AAU trwy raglen astudio hyfforddedig?
Mae gennym dair rhaglen hyfforddedig a all arwain at Gymrodoriaeth AAU ym Mhrifysgol Bangor.
Mae ein PGCert THE wedi'i llunio ar gyfer darlithwyr newydd a hefyd, ond yn fwy anaml, i fyfyrwyr PhD sydd ag ymrwymiadau addysgu sylweddol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer PGCert THE, bydd angen bod gan ymgeiswyr lai na thair blynedd o brofiad o addysgu mewn Addysg Uwch a llwyth addysgu cyfredol, sylweddol ym Mhrifysgol Bangor. Mae dau gam i'r cwrs ac mae'n rhoi cyflwyniad i addysgu mewn AU ac mae'n cefnogi darlithwyr sy'n dysgu am y tro cyntaf ym Mangor. O gwblhau Cam 1 yn llwyddiannus cewch statws Cymrawd Cyswllt yr AAU ac o gwblhau Cam 2 yn llwyddiannus cewch statws Cymrawd AAU. Am wybodaeth bellach am y PGCert THE, dilynwch y cyswllt hwn at dudalen wybodaeth PGCert THE.
Mae rhaglen fentora TPHE wedi'i llunio ar gyfer myfyrwyr PhD sy'n Addysgu Seicoleg mewn Addysg Uwch ym Mangor. Mae'r cwrs hwn yn cynnig arweiniad pwnc-benodol i gynorthwyo myfyrwyr yn eu rôl fel Hyfforddwyr Graddedig. O'i gwblhau'n llwyddiannus cewch statws Cymrawd Cyswllt. I gael rhagor o wybodaeth am y TPHE, cysylltwch â Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu'r Ysgol Seicoleg.
Mae'r PGCMEP (sy'n rhan o MAMEP) yn rhaglen fentora a luniwyd ar gyfer ymarferwyr meddygol sy'n dysgu'r Gwyddorau Meddygol ym Mangor. Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr at achrediad addysgu proffesiynol i weithwyr meddygol proffesiynol sy'n cefnogi ein rhaglenni meddygol hyfforddedig. O'i gwblhau'n llwyddiannus cewch statws Cymrawd. I gael rhagor o wybodaeth am y PGCMEP, cysylltwch â Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Ysgol y Gwyddorau Meddygol.
Sut mae ennill Cymrodoriaeth trwy'r Cynllun Cydnabod DPP?
Os ydych chi'n athro profiadol mewn Addysg Uwch, gallwch ennill cydnabyddiaeth am eich arbenigedd addysgu cyfredol trwy'r Cynllun Cydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Fel rheol byddai'r cynllun hwn yn briodol ar gyfer darlithwyr a fu'n dysgu mewn AU am o leiaf dwy flynedd lawn ac sy'n gallu cyflawni holl feini prawf Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig.
Rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais yn brawf o'r profiad sydd ganddynt mewn gwahanol feysydd o weithgareddau addysgu, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu a dysgu, ac ymrwymiad i werthoedd proffesiynol academaidd addysgu mewn Addysg Uwch. Gan ddibynnu ar brofiad ac arbenigedd, gall ymgeiswyr wneud cais am unrhyw un o bedwar categori Cymrodoriaeth yr AAU.
Os hoffech ddysgu mwy am y Cynllun Cydnabod DPP neu os oes gennych ddiddordeb cyflwyno cais, e-bostiwch celt@bangor.ac.uk i fynegi diddordeb. Cewch eich ychwanegu at safle Blackboard Cymrodoriaethau'r AAU, ac mae'r holl wybodaeth ynghylch gwneud cais am Gymrodoriaeth AAU trwy'r Cynllun Cydnabod DPP ar y safle Blackboard hwnnw, gan gynnwys llawlyfr y Cynllun, arweiniad ynglŷn â gwneud cais o dan bob categori, a ffurflenni cais. Mae'r safle hefyd yn cynnwys fodlediad sy'n cyflwyno'r cynllun ac arweiniad ynglŷn â sut mae gwneud cais am y gwahanol lefelau. Mae'r safle hefyd yn cynnwys cyhoeddiadau am ddyddiadau cau'r ceisiadau a dyddiadau'r sesiynau cymorth un i un wythnosol yn ystod y tymor, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Dr Caroline Bowman.
Gyda phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf unrhyw gwestiynau pellach am Gymrodoriaethau AAU?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y Rheolwr Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu a Dysgu, Dr Caroline Bowman, ar c.bowman@bangor.ac.uk.