
Mae’r Ysgol Busnes wedi sicrhau’r hawl i’w holl fyfyrwyr i weld y Financial Times am ddim.

Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi trefnu i’r holl fyfyrwyr sy’n treulio blwyddyn dramor gael cyfarfodydd Skype gyda thiwtoriaid personol.

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth wedi newid ei ffurflen adborth fel bod 50% ohoni’n ei gwneud hi’n ofynnol i staff awgrymu ffyrdd o gael marc uwch.

Mae Ysgol y Gyfraith wedi creu rhagor o leoliadau gwaith ac wedi datblygu Ffair y Gyfraith, gan ddod â 39 o gyflogwyr i’r campws.

Mae’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg wedi agor Lolfa i Fyfyrwyr gydag adnoddau TG.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi datblygu sesiynau galw heibio sgiliau astudio academaidd ac o dan arweiniad myfyrwyr bob wythnos.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi llunio ffurflen safonol sy’n ymddangos ar safle Blackboard ar gyfer pob asesiad i roi gwybodaeth glir i fyfyrwyr am ddyddiadau cau, dyddiadau adborth disgwyliedig a deilliannau dysgu.

Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi sefydlu dau amser cyflwyno gwaith yr wythnos i atal myfyrwyr rhag cyflwyno sawl darn o waith ar yr un diwrnod.

Ysgol Seicoleg yn rhoi dosraniadau aseiniadau ar Blackboard er mwyn i fyfyrwyr weld eu safle yn y dosbarth.

Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg yn rhoi meini prawf marcio cliriach i bob aseiniad yn seiliedig ar dempled newydd.

Mae’r Ysgol Peirianneg Electroneg wedi newid enwau modiwlau mathemateg ac electroneg analog yr ail flwyddyn i adlewyrchu cynnwys y modiwl yn well.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi datblygu sesiynau galw heibio sgiliau astudio academaidd ac o dan arweiniad myfyrwyr bob wythnos.

Mae’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn gwneud copïau o draethodau hir da o flynyddoedd blaenorol a’u rhoi ar Blackboard.

Mae’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig adborth un i un ar yr holl waith a asesir.

Mae’r Ysgol Addysg wedi adolygu a lleihau baich gwaith ymarfer dysgu (TGAU Uwchradd).
.jpg)
Mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi ymestyn oriau agor yr ystafell olygu tan hanner nos yn ystod y tymor.

Mae’r Ysgol Dysgu Gydol Oes wedi datblygu rhwydwaith cyflogwyr ac yn trefnu ymweliadau â lleoliadau gwaith posibl.

Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau cymdeithasol i staff a myfyrwyr.
Cyhoeddiadau yn y gorffennol
Cyhoeddiadau Rhannu ac Ysbrydoli
Caiff Rhannu ac Ysbrydoli ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, i rannu hanesion llwyddiannau ac ymarfer gorau staff addysgu Prifysgol Bangor. Os hoffech chi gyfrannu, cysylltwch ag un o Dîm CELT.