Ymchwil Dysgu ac Addysgu
Peidiwch â chuddio'ch goleuni dan lestr! Cyhoeddwch dystiolaeth eich ymyriadau addysgu. Dywedwch wrth y byd pa mor wych yw Prifysgol Bangor!
Mae rhan flaenllaw Prifysgol Bangor fel un o'r 10 sefydliad addysg gorau yn y Deyrnas Unedig yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014, i'w phriodoli i'r gymuned ddysgu egnïol lle mae gan fyfyrwyr ac academyddion lais cyfartal.
Swyddogaeth allweddol CELT yw hwyluso'r gwaith o ddatblygu ymchwil addysgol ar draws y sefydliad.
Beth yw Ymchwil Addysgol?
Yn gryno, ymchwil addysgol yw'r dull trefnus o ofyn cwestiwn, ei ateb, ac adrodd ar gwestiwn yn effeithiol, wedi'i seilio ar dystiolaeth.
Os yw eich gwaith yn gwella ymarfer, yn ychwanegu gwybodaeth am sut mae pobl yn dysgu neu'n addysgu, yn datblygu unedau addysgu arloesol neu'n defnyddio technolegau newydd, bydd yr adnoddau ar y we-dudalen hon yn eich helpu i gael cyllid a chyhoeddi'ch canfyddiadau.
Gall eich ymchwil fod yn feintiol gan ddefnyddio, er enghraifft, ystadegau. Gall fod yn ansoddol wrth ddisgrifio astudiaethau achos, neu gall fod yn ddull gweithredu aml-ddull integredig. Ceir cyfnodolion pwrpasol ar gyfer pob math o ymchwil addysgol, a gellwch eu gweld yma ar wefan CELT.
Helpful tips about publication and grant writing are available under 1-2-3 Published! and 1-2-3 Got the Grant!