Gwobrau Addysgu
Mae'r Brifysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i sicrhau nid yn unig bod rhagoriaeth yr addysgu'n cael ei datblygu a'i hachredu, ond ei bod hefyd yn cael ei chydnabod a'i gwobrwyo. Ar hyn o bryd mae yna dri phrif gynllun gyda'r nod o gefnogi'r egwyddor hon.
Y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol (NTFS)
Mae bri i'r cynllun hynod hwn sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo dysgu ac addysgu rhagorol, ac mae hyd at 55 o wobrau ar gael yn flynyddol i ddarparwyr addysg uwch cymwys yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a'r Alban. Mae nifer o gydweithiwr ym Mangor wedi ennill y wobr bwysig hon ac mi welwch chi'r cyfeirlyfr o enillwyr blaenorol yma.
Mae Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol yn wobrau o fri i'r rhai sy'n ymwneud ag addysgu neu gefnogi addysgu mewn addysg uwch. Gall pob darparwr addysg uwch cymwys enwebu hyd at dri o'r staff i'w hystyried bob blwyddyn.
Mae'r gwobrau'n gystadleuol a rhaid i'r ymgeiswyr fedru dangos effaith ragorol ar ddeilliannau'r myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu.
Mae Cais am Gymrodoriaeth yn cynnwys datganiad 5,000 o eiriau ynghylch sut mae’r unigolyn yn arddangos rhagoriaeth sy’n berthnasol i’r tri phrif faen prawf:
- Rhagoriaeth unigol: gwella a thrawsnewid deilliannau'r myfyrwyr a/neu'r proffesiwn addysgu, dangos effaith sy'n gymesur â chyd-destun yr unigolyn a'r cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig.
- Codi proffil rhagoriaeth: cefnogi cydweithwyr a dylanwadu ar y gefnogaeth i fyfyrwyr a'u dysgu; dangos effaith a dylanwad y tu hwnt i swyddogaeth academaidd neu broffesiynol uniongyrchol y sawl a enwebir.
- Datblygu rhagoriaeth: ymroddiad y sawl a enwebir i ddatblygiad proffesiynol parhaus o ran addysgu a dysgu a/neu gefnogi dysgu.
Os hoffech gael eich ystyried yn enwebai o Fangor ar gyfer Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, cysylltwch â'r Rheolwr Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu a Dysgu, Dr Caroline Bowman, am sgwrs anffurfiol.
Gweler manylion y cynllun yma.
Cymrodoriaethau Addysgu Bangor
Dyfernir Cymrodoriaethau Addysgu'r Brifysgol bob blwyddyn i hyrwyddo, gwobrwyo a dathlu rhagoriaeth mewn addysgu a gweithgareddau cysylltiedig sy'n cefnogi ac yn cryfhau profiad y myfyrwyr ym Mangor.
Amcanion
- Cydnabod pwysigrwydd addysgu ardderchog, gwella profiad dysgu'r myfyrwyr, a'r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr.
- Cydnabod unigolion a ddylanwadodd yn helaeth ar addysgu ym Mangor.
- Dathlu ymrwymiad y Brifysgol i ragoriaeth dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Cymhwysedd
Gellir enwebu unrhyw aelod o'r staff sy’n cyfrannau at addysgu a dysgu mewn unrhyw Ysgol.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais yma.
Gwobrau Dysgu o dan Arweiniad Myfyrwyr ym Mangor
Mae'r gwobrau blynyddol yma'n llwyddiant mawr ac maent yn gynllun ar y cyd rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Mae'r cynllun hwn yn rhoddi gwobrau mewn amryw o gategorïau ac fe'u rhoddir i ystod eang o staff ledled y Brifysgol.