Ein Lleoliad

Mae ein lleoliad, rhwng mynyddoedd Eryri a’r môr, yn golygu fod cyfle i’n myfyrwyr brofi antur ar garreg eu drws. Gallwch gymryd rhan mewn bob math o weithgareddau awyr agored, crwydro ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ymweld â chestyll a phentrefi hanesyddol neu ymlacio ar draethau hardd yr ardal. Os ydych chi'n un am antur, mae Bangor yn ddelfrydol i chi!