Newyddion: Medi 2014

Myfyrwyr Bangor yn dechrau busnes y gyfraith yn Canary Wharf

Mae Kawa, Guimaraes and Associates Solicitors, cwmni o gyfreithwyr a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaergybi, wedi agor chwaer gwmni mewn adeilad adnabyddus yn One Canada Square, Canary Wharf, Llundain.

Sefydlwyd y cwmni gan yr entrepreneuriaid, Mehedi Rahim a Kate Kawa. Mae Mehedi Rahim yn fyfyriwr PhD yn ei flwyddyn olaf yn ymchwilio i gyfraith Islamaidd ac Yswiriant Morol y DU yn Ysgol y Gyfraith ac mae Kate wedi graddio gyda MBA o Ysgol Busnes Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014

Offer gwerth £1M ar gael i fusnesau yng Nghymru am y tro cyntaf

Yn ddiweddar mae project CLARET Prifysgol Bangor wedi derbyn system Time of Flight Secondary Ion Mass Spectrometer neu ToF-SIMS. Y system ddatblygedig hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru a dim ond dyrnaid sydd ar gael at ddefnydd masnachol yng ngwledydd Prydain.   Mae'r offer hynod dechnegol, a'r arbenigwyr sy'n ei weithredu, wedi'u lleoli yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014