Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth

Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau.

Dr Alexandra Plows, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yw awdur yr astudiaeth gwmpasu a gyflwynwyd i gyfarfod diweddar Pwyllgor Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r gwaith hwn, gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael i aelodau’r Cynulliad, i hwyluso’u gwaith craffu ar ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu economi gogledd Cymru.

Mae Dr Plows yn un o ddau academydd, y ddwy o Brifysgol Bangor, sy’n rhan o broject peilot i rannu eu harbenigedd gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad o dan Gymrodoriaeth Academaidd newydd sy’n cael ei threialu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd Dr Alexandra Plows yn awyddus i dreiddio o dan yr wyneb i ymchwilio i’r heriau economaidd sy’n wynebu gogledd Cymru, yn enwedig Cynllun arfaethedig Twf Gogledd Cymru. Bu’n cyfweld nifer o ran-ddeiliaid i edrych ar syniadau am ymdriniaethau economaidd amgen, a fyddai’n gweddu, gyda’r nod o wella economi gogledd Cymru.

Meddai Dr Plows:

“Wedi holi barn a beirniadaethau sy’n aml ‘o dan y radar’, mae argymhellion eraill gen i yn cynnwys agenda ‘ymchwil gweithredol’ benodol i lenwi bylchau yn ein gwybodaeth, yn enwedig mewn perthynas â busnesau bach iawn a’r hunangyflogedig. Mae dwy ran o dair o weithwyr gogledd Cymru’n disgyn i mewn i’r grŵp pwysig hwn. Mae angen rhagor o wybodaeth am ba fusnesau sydd yno, beth maent eu hangen, sut gallent dyfu i gwrdd â chyfleoedd a gynigir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru; ac a oes angen polisïau eraill er mwyn cynnal y busnesau y tu allan i’r Cynllun Twf.

Rydym hefyd angen sicrhau bod yr holl bolisïau a mentrau yn dod â buddiannau’n i’r holl ranbarth.  Byddai hyn yn ymateb i’r consyrn a leisiwyd, sef ei bod yn aneglur a fyddai mentrau’r Cynllun Twf fel y mae ar hyn o bryd yn dod â buddiannau wedi eu rhannu’n gyfartal ar draws y rhanbarth; mae’n bosib y bydd y gogledd ddwyrain yn cael mwy o fudd na gogledd orllewin Cymru.”

Mae Dr Plows hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod cynlluniau ar raddfa fawr yn ddibynnol ar ffactorau allanol fel newid yn y farchnad; mae gohirio ar rai mentrau eisoes wedi effeithio ar  gynlluniau gan ran-ddeiliaid i ddatblygu ymateb o ochr y darparwyr, i gyfleoedd ar yr ochr  galw sydd i ddod.

Ychwanegodd Dr Plows:

“Mae sawl rhan-ddeiliad wedi nodi ei fod hefyd yn bwysig canolbwyntio ar ddatblygu swyddi o ansawdd yn y sectorau sy’n sail i farchnad lafur y rhanbarth, fel gofal, twristiaeth ac amaeth. Mae’n bwysig datblygu swyddi o ansawdd yn y sectorau a ddisgrifiwyd fel sylfaenol i’r economi.”

Bydd Dr Plows hefyd yn cyd-ysgrifennu blog gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn rhannu a thrafod rhai o’r syniadau hyn yn ehangach.

Cyllidir y Cynllun Peilot gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017