Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Medi 2020
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Rhagfyr 2013
- Holl Newyddion A–Y
Holl Newyddion A–Y
12 Mis o greu argraff yn M-SParc
Mae busnesau sydd wedi'u lleoli yn M-SParc yn arwain y ffordd mewn arloesedd a datblygu economaidd. Edrychwn yn ôl dros y flwyddyn a'r effaith a gawsant.
Ers i’r Parc agor ym mis Mawrth 2018, mae’r 24 busnes wedi creu 24 swydd newydd, rhoi profiad gwaith i 6 myfyriwr, rhoi cyfleoedd cyflogaeth i 4 o raddedigion ac wedi cynyddu trosiant eu cwmni er budd y rhanbarth. Newyddion da a chychwyn da ar gyfer gwneud 2019 yn flwyddyn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019
£30 million investment in Combined Food and Power facilities in Wales announced
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ
Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Ad industry may gripe about adblockers, but they broke the contract – not us
Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Adnoddau Newydd ar gyfer Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg
Yn ystod 2015-2016 bu tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Mae hon yn dechnoleg sy’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Ai thus, a roddwyd gan y doethion, yw’r cynnyrch naturiol nesaf i’w ail-ddarganfod?
Ystyriwyd thus yn ddigon drudfawr i’w roi’n rhodd gan y doethion i’r baban Iesu, ynghyd ag aur a myrr. Roedd yn ddeunydd naturiol a ystyrid yn werthfawr gan ddiwylliannau hynafol.
Ond pa briodoleddau oedd yn ei wneud yn rhodd ddrudfawr yn yr hen fyd. Beth oedd ei wneud yn addas fel rhodd werthfawr i frenin?
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2016
Antur a Thu Hwnt: Cynhadledd Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru, 2018
Wrth i rai sy'n chwilio am wefr anelu am Ogledd Cymru, 'canolbwynt' twristiaeth antur, bydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor a Go North Wales yn cynnal cynhadledd flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn Pontio ar 6 Rhagfyr. Teitl y gynhadledd yw "Antur a Thu Hwnt/Adventure and Beyond".
Mae'r prif siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Ellis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, y cyflwynydd teledu, Kate Humble, yr awdur a siaradwr cyhoeddus, John Thackara, yn ogystal ag Ash Dykes, o Ogledd Cymru, yr anturiaethwr ac athletwr eithafol a ddaeth i amlygrwydd drwy fynd ati i gerdded ei hun ar hyd Afon Yangtze. Bydd ef yn ymuno drwy gynhadledd fideo.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018
Ap defnyddiol i bobol efo dementia
Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd i gefnogi datblygiad ac effeithiolrwydd ‘Book of You’, sef ap sy’n cael ei groesawu fel rhywbeth sydd â’r potensial i chwyldroi therapi atgofion yn achos pobol efo dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
Arloesi â defnydd newydd o Wlân
A ydych chi erioed wedi ystyried sut mae defaid yn goroesi ar y bryniau oer a gwlyb? Mae gan eu gwlân nodweddion insiwleiddio anhygoel sy’n eu cadw’n gynnes, ac mae’r ddynoliaeth wedi gwneud yn fawr o’u cnu ers miloedd o flynyddoedd. Ond a ellir ei ddefnyddio i gadw pethau’n oer?
Mae gwyddonwyr ymchwil yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor wedi bod yn cyfrannu at ehangu ein dealltwriaeth o briodweddau anhygoel gwlân fel defnydd insiwleiddio yn y diwydiant cludo nwyddau oer, ac wedi rhoi prawf ar ei berfformiad at ddibenion newydd a gwerthfawr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016
Astudiaeth yn dangos fod effaith economaidd prifysgolion Cymru yn tanio’r economi ym mhob rhan o’r wlad
Mae’r astudiaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr addysg yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015
BEACON Cymru yn gyd-sylfaenydd cynghrair newydd lansio i gefnogi twf bio-economi'r DU
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn rhan o gynghrair newydd yn y Deyrnas Unedig- BioPilotsUK, sy’n cael ei lansio i gefnogi twf bio-economi’r DU.
Mae Canolfan Biogyfansoddion y Brifysgol yn bartner ym mhroject arobryn BEACON Cymru, sydd yn un o bum canolfan Ymchwil a Datblygu sefydlog ar draws y DU sydd yn dod ynghyd i ffurfio’r gynghrair newydd, BioPilotsUK. Bydd y gynghrair yn ceisio gosod Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu technoleg bio-buro, a chynhyrchu cynnyrch bioseiliedig - dwy elfen allweddol o'r bio-economi.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016
BEACON yn ennill gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd
Dyfarnwyd gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd 2014 i Ganolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, partneriaeth ymchwil arloesol o Gymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014
Biotechnoleg ar gyfer Plaleiddiaid
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill grant i ddatblygu plaleiddiad organig gan gyfuno'r arbenigedd a geir yn y Brifysgol Bangor a dau gwmni masnachol. Gwneir y gwaith yng Ngholeg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014
Buddsoddiad £36m sy’n cael cymorth gan yr UE mewn ymchwil ac arloesi ar gyfer busnesau yng Nghymru
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun newydd £36m sy’n cael cymorth gan yr UE i ddatblygu sgiliau ymchwil ac arloesi ar gyfer graddedigion, a fydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig (BBaCh).
O dan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS II), bydd academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gweithio mewn partneriaeth â mwy na 500 o fusnesau. Byddant yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol gyda’r nod o ysgogi twf mewn busnesau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016
Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015
Bwyd a Diod Gogledd Cymru yn mynd yn wyrdd gyda Cynnal Cymru
Mae pobl o'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru, sector sy’n ffynnu, yn ehangu ac yn bwysig i’r economi leol, yn dod ynghyd am y tro cyntaf ddydd Mercher 5 Gorffennaf, 2017 ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ‘digwyddiad dysgu a rhwydweithio’ gan Cynnal Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2017
Bwyta'n iach yn ysgolion arbennig Sir Ddinbych
Cyngor Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i arbrofi’r rhaglen bwyta’n iach Food Dudes. Gyda chymorth gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor fe lansiwyd y rhaglen mewn dwy ysgol arbennig yn y sir, Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl ac Ysgol Plas Brondyffryn.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2014
Canfod Cregyn Gleision cynaliadwy ym Môr Iwerddon
Pan fydd llynges fwyaf Prydain o gychod pysgota cregyn gleision yn mynd allan i'r môr yn ddiweddarach y mis hwn, eu nod fydd chwilio am had gwerthfawr cregyn gleision. Byddant yn dod â'r rhain yn ôl i'r Fenai i dyfu cyn eu casglu i'w hallforio.
Os bydd y project ymchwil newydd hwn ym Môr Iwerddon yn llwyddiannus, efallai mai hwn fydd un o'r troeon olaf y bydd angen i'r llynges fynd allan o Borth Penrhyn ym Mangor i chwilio am had cregyn gleision.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017
Carafan yn sbarduno ffordd greadigol o feddwl
Am yr ail flwyddyn nododd Ilan Wyn Davies, myfyriwr peirianneg electronig 19 oed o’r Bala, mai cynllunio carafán foethus addas ar gyfer ei ddiweddar dad anabl er mwyn rhoi’r cyfle iddo fwynhau gwyliau i’r teulu oedd wrth wraidd y Prosiect Draig a enillodd wobr Arloesi Innovation Pontio eleni iddo ef a’r tîm gyda nawdd gan y rhaglen Menter trwy Ddylunio.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Cipolwg ar y gorffennol i dwristiaid o Ewrop
Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017
Creu Canolfan Syrffio o Ragoriaeth yn Eryri
Mae Prifysgol Bangor a Surf Snowdonia wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn paratoi’r ffordd i gydweithio ar amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015
Cydweithio ar ddeunyddiau i sgriniau hyblyg electronig yn cael dyfarniad 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg
Mae'n bleser gan SmartKem Ltd., datblygwr arweiniol ym maes deunyddiau lled-ddargludol organig, perfformiad uchel i sgriniau hyblyg ac electronig, A Phrifysgol Bangor gyhoeddi y dyfarnwyd gradd 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar rhyngddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2014
Cyflogwyr - a oes gennych ddiddordeb mewn uwchsgilio'ch gweithlu?
Mae gan Brifysgol Bangor ynghyd â Grŵp Llandrillo Menai bortffolio o gymwysterau wedi'u hariannu'n llawn yn cynnwys Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch, Gwyddor Data a Pheirianneg Fecanyddol a Drydanol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020
Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith
Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn “Wythnos Caffael”, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol Bangor (SCAC, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015
Cyhoeddi Gŵyl Newid Ymddygiad o bwys
Ystyrir bod newid ymddygiad yn gyfrwng hanfodol bwysig i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau i ymateb i'r newidiadau cyfoes cymdeithasol a demograffig sylweddol rydym yn eu gweld yng Nghymru a thu hwnt.
Cynhelir Gŵyl Newid Ymddygiad (#BehFest16) bwysig am bythefnos ym Mhrifysgol Bangor rhwng 9-20 Mai. Bydd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf ym maes newid ymddygiad i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwybod am y technegau newid ymddygiad hyn a'u rhoi ar waith er budd eu sefydliadau neu'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016
Cynghrair Meddalwedd Cymru'n cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor
Bu Cynghrair Meddalwedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg yn ddiweddar. Yn ystod y digwyddiad roedd 50 o israddedigion cyfrifiadureg gorau Bangor yn cyflwyno prosiectau eu blwyddon derfynol i SMEs lleol a allai fod yn bwriadu recriwtio graddedigion TG ar gyfer eu busnesau.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng Ngogledd Cymru
Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng ngogledd Cymru. Bydd Academi Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi twf busnes a chystadleurwydd yn y rhanbarth trwy gyflwyno cymwysterau arwain a rheoli wedi eu hachredu gan brifysgol i dros 1,000 o weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Caiff Academi Talent Ifanc hefyd ei sefydlu i ddatblygu a chadw'r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2016
Cynllun newydd i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn ariannu 75% o bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth. Cysylltwch â Phrifysgol Bangor heddiw i gael gwybod mwy am sut y gall fod o fantais i chi.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn rhan greiddiol o'r ddarpariaeth ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru i fusnesau, a nod y fenter hon yw gwneud projectau KTP yn fwy hygyrch a chost-effeithiol i fusnesau bach a chanolig ac annog mwy o fusnesau i fanteisio ar y rhaglen.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2020
Cynnal Ysgol Haf ar Gychwyn Busnesau
Cymerodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor a graddedigion lleol ran mewn Ysgol Haf ysgogol ar Gychwyn Busnesau a drefnwyd yn ddiweddar gan dîm Byddwch Fentrus.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014
Dadorchuddio dyluniadau Parc Gwyddoniaeth Menai gydag ymweliad y Gweinidog i’r safle
Cymerodd datblygiad Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) gam arall ymlaen heddiw gyda dadorchuddio'r dyluniadau pensaernïol ar gyfer yr adeilad cyntaf arfaethedig ar y safle yng Ngaerwen yn ystod ymweliad gan y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015
Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau
Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.
Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol Bangor
Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Cynhadledd PVSAT 13 (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig.
Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017
Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (M-SParc) wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Datblygu system siarad â chyfrifiaduron yn Gymraeg
Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor newydd gael grant gwerth £56,000 gan gronfa Technoleg a’r Gymraeg Lywodraeth Cymru a buddsoddiad gan gronfa ddigidol S4C i ddatblygu mwy ar adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 2013
Datgelu'r hyn sydd o dan y dyfroedd
Have you ever looked out to sea from somewhere on the Welsh coast and wondered how that view would seem if the water was somehow magically taken away? Well, thanks to recent results from a Bangor University project called SEACAMS, part financed through the Welsh European Funding Office, this has become a reality for some iconic coastal locations across Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2016
Dathlu Diwrnod Ewrop
Ar 9 Mai, bydd Prifysgol Bangor yn dathlu Diwrnod Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018
Deall ein Moroedd
Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017
Digwyddiad Ymgynghori yn dod a'r Parc gam yn nes
Mae prosiect Parc Gwyddoniaeth Menai yn parhau i symud ymlaen a bydd yn ymgynghori ar gynlluniau yn y Gaerwen ar y 1af o Fedi. Mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddod draw i weld y syniadau cychwynnol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014
Dull ‘Plane Easy’ yn gwneud golff yn hawdd
Er gwaethaf manteision ymarfer corff ysgafn i gymedrol a rheolaidd i iechyd, mae lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru’n dal i fod yn isel. Mae’n bosib i golff lenwi’r bwlch hwnnw ac arwain at nifer o fanteision; fodd bynnag, mae’r niferoedd sy’n chwarae golff wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r hyfforddwr golff, Matthew Wharton (o The Golf Performance Studio ym Mangor), un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ceisio mynd i’r afael â hyn gyda’i ddull chwarae golff “Plane Easy”.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014
Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach.
Dyfarnwyd dros £670,000 i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU.
Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Dyfodol ffermio mynydd tu hwnt i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfleoedd yn ogystal â sialensiau i ffermwyr mynydd Cymreig. Dyna neges trefnwyr cynhadledd lle bydd ffermwyr, academyddion, cyrff cadwriaethol a swyddogion o'r llywodraeth yn dod at ei gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol polisi defnydd tir yn ucheldiroedd eiconig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2017
Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth
Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017
Dyma Shân mewn Cwmni Da!
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Shân Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth KESS i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i’r ysgoloriaeth arbennig hwn, caiff Shân y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis ‘Dyma Fi’.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015
Dysgu byw yn well gyda dementia trwy dechnoleg: apiau newydd ar brawf heddiw yn cysylltu pobl a effeithir gan ddementia ag ymchwilwyr
Mae project a gefnogir gan Brifysgol Bangor yn un o ddau i'w fabwysiadu mewn menter newydd i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016
Entrepreneuriaid Santander Bangor
Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Ffair Swyddi Cymraeg
Dydd Iau, 19 Mawrth am y tro cyntaf bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg. Fel y prif ddarparwr Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn paratoi ei myfyrwyr ar gyfer ystod o swyddi sydd yn gofyn am y gallu i weithio yn y Gymraeg. Bydd tua 30 o gyflogwyr yn mynychu’r Ffair - yn sefydliadau cyhoeddus a busnesau preifat, yn gwmnïau lleol a rhyngwladol - a bydd eu cynrychiolwyr yn trafod gyda’r myfyrwyr sut mae eu sgiliau nhw fel siaradwyr Cymraeg yn berthnasol i’r byd gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2015
Ffenomen #HunlunDigolur
Mae seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gyfareddu gan y ffenomen #nomakeupselfie (#hunlundigolur) a welwyd yn cael cymaint o sylw'r wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2014
Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg
Yn ôl ymchwil a wnaed ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014
First investigation of eye-tracking in Electronic Gaming Machine play
Gan mai datganiad gan gorff allanol (GambleAware) yw hwn, nid yw ar gael yn Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2017
Graddedigion Prifysgol Bangor yn uchel eu parch ymysg prif gyflogwyr
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU o ran cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl arolwg rhyngwladol a gyhoeddwyd gan gylchgrawn y Times Higher.
Datgelodd yr arolwg, a ganolbwyntiodd yn bennaf ar fusnesau a chwmnïau technoleg gwybodaeth a pheirianneg, pa brifysgolion yw’r rhai mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch o ran darparu myfyrwyr o safon uchel i’w recriwtio.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015
Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau
Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes.
Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu.
Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017
Gwaith yn parhau ar Barc Gwyddoniaeth Menai
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos hon wrth i waith archeoleg gychwyn ar y safle. Bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio sydd i’w gyflwyno yn yr hydref. Mae’r cynllun, a fydd yn creu darpariaeth wyddonol o safon uchel ar gyfer busnesau a mentrau ymchwil yn gweithio at agor y drysau yn 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014
Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor
Ymwelodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC, ag Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor ddydd Iau (16 Chwefror). Yn ystod yr ymweliad, tywyswyd y Gweinidog o amgylch labordai arloesol yr ysgol a chafwyd arddangosiad o waith Yr Athro Jianming Tang a’r Optical Communications Research Group (OCRG).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2017
Gweinidog yn torri’r tir mewn datblygiad sy’n torri tir newydd
Cymerodd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) gam mawr ymlaen yr wythnos yma yn y gwaith o adeiladu’r Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, y Gweinidog Ken Skates ddod i'r safle ar Ynys Môn i dorri’r tir.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear
Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear. Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
Gwella bridio pysgod trofannol o ganlyniad i gydweithio newydd
O ganlyniad i gydweithio newydd, bydd technegau arloesol yn galluogi rhai o’r prif acwaria sydd hefyd yn gyrchfannau twristiaeth fridio eu pysgod trofannol eu hunain.
Mae larfae nifer o rywogaethau pysgod mor fach fel na ellir ei gweld gyda’r llygad, ac mae eu bwyd hyd yn oed fwy meicrosgopig ei natur. Mae hyn yn ei gwneud yn her i’w bridio mewn tanc.
Ond mae arbenigwyr dŵr amaethu (aquaculture) ym Mhrifysgol Bangor yn credu y gallent helpu’r diwydiant acwaria i ddatblygu technegau i fagu eu pysgod riffiau cwrel eu hunain o larfae y maent wedi ei gasglu o’u acwaria.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2019
Gwella gofal canser trwy ofal sylfaenol
Mae'r ddau ohonom yn hynod o ffodus i weithio fel meddygon teulu yng ngogledd Cymru ac fel ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor, lle'r ydym yn arwain projectau ymchwil i wella gofal canser yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos â meddygon a nyrsys mewn meddygfeydd teulu ac yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar raglen waith o'r enw "Diagnose Quickly, Follow Up Safely". Cawn ein hysbrydoli'n barhaol yn ein gwaith gan ein cysylltiad â chleifion yn ein meddygfeydd. Mae ein holl waith yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar ymarfer clinigol neu bolisïau sy'n ymwneud â chanser.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2014
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.
Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Gwobrwyo datblygu Economi Werdd
Mae pedwar cwmni lleol sydd wedi bod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd eu busnesau wedi ennill gwobrwyon gan Brifysgol Bangor.
Dewiswyd y pedwar cwmni buddugol o blith dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru a fu’n cymryd rhan mewn project i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
Gwobrwyo Effaith a Menter ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo ei hacademyddion gorau a mwyaf blaengar yn ail Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi flynyddol y Brifysgol.
Mae’r Gwobrau’n cydnabod gwaith ymchwil a mentergarwch o ragoriaeth ar draws y sefydliad cyfan, sydd wedi gwneud cyfraniad o bwys tuag at wella lles economaidd a chymdeithasol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2014
Gwyddoniaeth M-SParc; Cyflawnwyd ar amser ac o fewn y gyllideb
Agorwyd drysau M-SParc, Parc Gwyddoniaeth penodedig cyntaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, ar amser ac o fewn y gyllideb.
Bu’r cyfleuster £20m, a ariannwyd yn rhannol gan Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn cael ei ddatblygu ers 5 mlynedd ac ar Fawrth 1af daeth yr weledigaeth yn realiti - y cyfan ar amser ac o fewn y gyllideb.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2018
Gwyliwch y gofod hwn! Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio
'Y gallu i greu prototeip o bron iawn unrhyw beth’
Ochr yn ochr â’n digwyddiadau celfyddydol, bu Pontio hefyd yn brysur yn gweithio tuag at gynnal digwyddiadau a chyfleoedd newydd mewn gofod arloesi.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2015
Help gan Blizzard
Gallai siacedi arbennig sydd wedi’u gwneud yng Nghymru helpu i gadw athletwyr Cymru’n gynnes pan fydd y gystadleuaeth yn poethi yn Glasgow.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014
Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
HPC Cymru i arwain rhwydwaith HPC Ewropeaidd
Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, gyda chymorth gan Brifysgol Bangor, wedi ei ddyfarnu â grant gan y Comisiwn Ewropeaidd dan raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd i arwain Rhwydwaith Canolfannau Cymhwysedd HPC Ewrop ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig.
Bydd y Rhwydwaith unigryw’n hyrwyddo mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol, yn cronni arbenigedd ac adnoddau ledled Ewrop ac yn rhannu arferion gorau o ran defnydd diwydiannol HPC, yn codi ymwybyddiaeth o fanteision HPC ac yn cyfrannu tuag at weithrediad y Strategaeth HPC Ewropeaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
Hwb £10 miliwn gan yr UE i’r Parc Gwyddoniaeth newydd ar y Fenai
Mae hwb gwerth £10 miliwn ar gyfer datblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi’i gyhoeddi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015
Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE.
Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
Hwb o £1m o’r Undeb Ewropeaidd i Ganolfan Môr Cymru
Bangor University Vice-Chancellor John G Hughes has welcomed the news that the £23.6m SEACAMS project, which it leads, has been given a £1m EU boost.
SEACAMS is an EU scheme pioneering collaborative research projects in marine science between business and universities delivered by Bangor University in partnership with Aberystwyth and Swansea Universities. The project is helping to develop the coastal marine economy in Wales and has already worked with more than 60 companies on R&D projects ranging from developing new products to studying marine life to determining management strategies for rising sea levels.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2014
Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal
Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017
LEAD Cymru'n dathlu pum mlynedd lwyddiannus gyda busnesau blaenllaw
Mae perchnogion busnesau a fu'n rhan o raglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi cael eu gwahodd i ginio arbennig ar 14 Mai yn Venue Cymru i ddathlu llwyddiant y rhaglen bum mlynedd. Mae dros 250 o berchnogion busnesau lleol wedi ymuno â'r rhaglen ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi bod o gymorth i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth ac, yn y pen draw, i dyfu eu busnesau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015
LEAD Cymru yn Dathlu gyda Chinio Gwobrwyo
Cynhaliwyd Gwobrau LEAD Cymru yn Venue Cymru ar 14eg Mai. Roedd 268 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y seremoni wobrwyo arbennig hon - pob un ohonynt wedi cwblhau rhaglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru
Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018
Llwyddiant Myfyrwyr Mentrus Bangor yng Nghystadleuaeth FLUX
Daeth tîm o Brifysgol Bangor yn ail drwy Brydain yn y Gystadleuaeth FLUX bwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar. Hon yw'r gystadleuaeth entrepreneuriaeth fwyaf yn y sector addysg uwch. Gosodwyd eu her iddynt gan Costain, grŵp adeiladu a pheirianneg rhyngwladol, gyda'r bwriad o roi prawf ar eu sgiliau busnes a masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014
Llwyddiant yr Orsaf Arloesi
Aeth deuddeg o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai ar siwrnai ddeuddydd i ymchwilio i'r broses o ddechrau busnes. Roedd dull gwaith rhaglen eleni yn wahanol i ysgolion dechrau busnes blaenorol ac yn canolbwyntio mwy ar ymddygiad a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chreu busnes trwy ennill profiad wrth wneud tasgau.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015
Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce, cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn.
Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Lucy Owen yn cyflwyno Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru
Cymerodd le yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth 20, 2015. Wedi ei drefnu gan Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffel, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cafodd y Gwobrau eu cyflwyno gan Lucy Owen, BBC, gydag anerchiad gan Weinidog Cyllid & Busnes Llywodraeth, Jane Hutt AC. Yn cadeirio y Panel Beirniaid Rhyngwladol roedd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015
Mae Byddwch Fentrus yn cyhoeddi enillydd Gwobr Prifysgolion Santander - Rhagoriaeth mewn Menter.
Trwy Brifysgolion Santander, mae tîm Byddwch Fentrus yn falch o gyhoeddi bod myfyriwr israddedig Bl. 3 mewn Busnes a Rheolaeth, Bogdan Pop, wedi ennill gwobr o £1,000 am ei gyfranogiad mewn gweithgareddau menter ac arloesi trwy gydol ei amser ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall
Cynhaliodd y tîm Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor y 7fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol yn Neuadd PJ cyn y Nadolig.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Menter newydd i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i arloesi er mwyn adfer
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu hyd at 75% o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (a elwir hefyd yn KTPs) i fusnesau bach a chanolig, gan alluogi mwy o fusnesau i fanteisio ar raglen arloesi fwyaf blaenllaw'r DU.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2020
Merched Cymreig yn ennill gwobr am lwyddiannau mewn menter gymdeithasol
Mae Victoria Burrows, Sandy Ackers, Annie Donavan ac Alison Hill wedi ennill y wobr bwysig Network She Women in Education Award 2014. Maent ymysg y myfyrwyr cyntaf i gwblhau gradd Meistr mewn Menter Gymdeithasol gan ragori yn eu swyddi prysur yr un pryd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014
MSc newydd ym Mangor yn cynhyrchu trydan a swyddi ym maes ynni môr adnewyddadwy
Mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor wedi datblygu MSc 1 flwyddyn mewn Ynni Môr Adnewyddadwy.
Mae ynni môr adnewyddadwy yn defnyddio grym naturiol y tonau a'r llanw i gynhyrchu trydan. Mae'n ddiwydiant uwch-dechnoleg gyffrous sy'n tyfu'n gyflym ac sydd â'r potensial o fod yn un o'r diwydiannau uwch-dechnoleg fwyaf y gellir ei hallforio yn economi'r DU. Amcangyfrifir y bydd datblygu morlyn Bae Abertawe'n creu 70,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu'n unig, ac mae yna nifer o fentrau eraill yn y maes yng Nghymru fel parthau arddangos Ystâd y Goron ym Môr Iwerddon, a phroject Deep Green Minesto i'r gorllewin o Ynys Môn, lleoliad Ysgol Gwyddorau'r Eigion.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015
M-SParc ar pwl lwcus
Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth gyntaf ymroddedig Cymru, a agorodd ar y 1af o Fawrth 2018 yng nghanol pwl lwcus! Yn ddiweddar, enillodd y prosiect Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn 2018 yn y Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Genedlaethol, contract newydd i sefydlu Canolfan Fenter mewn partneriaeth â Menter Mon, a hefyd threfnwyd a chynhaliodd yr Uwchgynhadledd Ynni cyntaf ar gyfer dathlu llwyddiant cwmnïau ynni yn y rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2018
Mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio gyda busnesau a mudiadau lleol
Mae mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi cwblhau rhaglen gradd Meistr lwyddiannus, sydd yn cynnwys elfen wedi ei lleoli yn y gweithle, ac yn cwmpasu’r holl bynciau a ddysgir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r holl raddau ATM: Mynediad i Radd Meistr hefyd yn gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2015
Myfyrwyr Bangor yn dechrau busnes y gyfraith yn Canary Wharf
Mae Kawa, Guimaraes and Associates Solicitors, cwmni o gyfreithwyr a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaergybi, wedi agor chwaer gwmni mewn adeilad adnabyddus yn One Canada Square, Canary Wharf, Llundain.
Sefydlwyd y cwmni gan yr entrepreneuriaid, Mehedi Rahim a Kate Kawa. Mae Mehedi Rahim yn fyfyriwr PhD yn ei flwyddyn olaf yn ymchwilio i gyfraith Islamaidd ac Yswiriant Morol y DU yn Ysgol y Gyfraith ac mae Kate wedi graddio gyda MBA o Ysgol Busnes Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014
Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib
Mae'r tîm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol.
Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach
Mewn hacathon a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Southampton fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor ennill y dosbarth 'Hac Gorau'.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014
Myfyrwyr yn creu cysylltiadau hollbwysig â chyflogwyr yn Ffair Yrfaoedd y Gyfraith
A chanran syfrdanol o 90% o’i graddedigion mewn gwaith chwe mis ar ôl graddio, a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam y mae Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur yGuardian.
Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar-gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rhai o du allan i’r sector gyfreithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
New Training body to support £20BN UK Agri-food industry
Datganiad gan gorff allanol nad yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017
Offer gwerth £1M ar gael i fusnesau yng Nghymru am y tro cyntaf
Yn ddiweddar mae project CLARET Prifysgol Bangor wedi derbyn system Time of Flight Secondary Ion Mass Spectrometer neu ToF-SIMS. Y system ddatblygedig hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru a dim ond dyrnaid sydd ar gael at ddefnydd masnachol yng ngwledydd Prydain. Mae'r offer hynod dechnegol, a'r arbenigwyr sy'n ei weithredu, wedi'u lleoli yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014
Partneriaeth Prifysgol Bangor ar restr-fer Gwobr
Mae Pŵer Niwclear Horizon ar restr fer ar gyfer gwobr fawreddog Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd i Raddedigion.
Maent wedi eu rhestru am y cydweithio a gwaith ymgysylltu strategol rhyngddynt a Phrifysgol Bangor, gyda chymorth gan bartneriaid eraill megis y 'National Skills Academy for Nuclear', Rhaglen 'Nuclear Graduates’ a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, er mwyn codi proffil y diwydiant Niwclear, a'r cyfleoedd sydd ar gael ynddo i raddedigion, ymysg staff a myfyrwyr yn y Brifysgol
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2016
Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn
Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor
Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi bod yn profi deunydd lled-ddargludydd SmartKem, truFLEX®, ac wedi dangos sut mae gweithredu mewn ffurf electronig ar yr amleddau sydd eu hangen i wireddu gwneud deunyddiau electroneg hyblyg cyflym iawn. Mae hyn yn agor y drws i ystod eang o bosibiliadau yn y maes hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016
Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn rhoi meddalwedd allweddol i ddatblygu technoleg yn yr iaith Gymraeg
Bydd adnoddau meddalwedd allweddol a ddisgrifir fel y blocau adeiladu ar gyfer llunio technoleg cyfrifiadurol yn y Gymraeg yn cael ei ryddhau am ddim i gwmnïau, codwyr a haciwyr iaith yn dilyn eu datblygiad gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015
Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon yn llofnodi memorandwm i gydweithio
Mae Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon, sy'n eiddo i un o brif gwmnïau electroneg y byd Hitachi, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015
Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics yn llofnodi memorandwm i gydweithio yn y dyfodol
Mae Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015
Prifysgol Bangor a Waitrose yn ymestyn allan i becynnu gwyrdd
Roedd project cydweithredol a arweiniwyd gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth a Waitrose, yn cael ei arddangos yn Waitrose Porthaethwy yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac i gymryd rhan fel partneriaid mewn dau archwiliad arall.
Bydd deuddeg Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn mapio cryfderau ymchwil, arloesi ac isadeiledd lleol. Bydd Prifysgol Bangor yn arwain archwiliad i'r North West Nuclear Arc Consortium, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, North West England LEPs, Dalton Institute Prifysgol Manceinion, a'r National Nuclear Laboratory.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter
Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan Santander Universities.
Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015
Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru
Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru..
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes. Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016
Prifysgol Bangor yn croesawu cyfle i weithio gyda darparwyr hyfforddiant niwclear
Croesawodd Prifysgol Bangor gyhoeddiad diweddaraf Horizon Nuclear Power o bartneriaeth gyda Tecnatom, darparwr gwasanaethau hyfforddiant niwclear byd-eang, wrth iddo feddwl am gynyddu nifer y gweithwyr gweithredol yn y dyfodol ar gyfer ei broject adeilad newydd Wylfa Newydd ar Ynys Môn, gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Prifysgol Bangor yn Cynnal Seminar i drafod Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch
Mae Bangor yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal seminar technegol ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch - y dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio gan Horizon Nuclear Power yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015
Prifysgol Bangor yn cynorthwyo llywodraeth Ynys Manaw i ddeall pysgodfeydd sy'n hanfodol i’r economi
Bydd gwaith syn arwain at well dealltwriaeth o bysgodfeydd pwysig oddi ar Ynys Manaw yn parhau wedi i Lywodraeth yr ynys ail-benodi Prifysgol Bangor i ddarparu cyngor gwyddonol arbenigol i Adran Llywodraeth Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth Ynys Manaw (DEFA).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015
Prifysgol Bangor yn gwobrwyo effaith eithriadol ei gweithgareddau ymchwil a menter
Dyfarnwyd gwobrau i brojectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi rhoi budd i gymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei thrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi ar 3 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015
Project a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi hwb sylweddol i’r Economi Werdd
Mae dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol wedi cael budd o broject i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014
Project arloesol Prifysgol Bangor yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
Mae project arloesol a luniwyd ar y cyd gan Ganolfan Bedwyr ac ymchwilwyr Newid Ymddygiad yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle wedi derbyn sylw arbennig gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2018
Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG
Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf.
Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015
Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl
Mewn byd lle mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o'n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy'n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno. Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno. Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016
Prosiect newydd yr Undeb Ewropeaidd i helpu i gynyddu maint y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon
More than €1m of EU funds will be invested in a new project to support the growth of the shellfish industry in Wales and Ireland.
The Irish Sea Portal Pilot will investigate patterns of movement of shellfish in the Irish Sea to help reduce the costs of locating shellfish seed and help increase the volume of mussels and shellfish available to the industry.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2017
Rhaglen wedi’i gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd yn barod i greu mwy o arweinyddion
Mae rhaglen arweinyddiaeth blaenllaw ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi sicrhau ffynhonell o £2.7m drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
“ION leadership” fydd enw’r rhaglen newydd ac mae’n darparu cyrsiau arweinyddiaeth wedi’u rhan-ariannu ar gyfer 600 o berchnogion busnes ac arweinyddion newydd yn Ardal Cydgyfeiriant Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2016
Rhannu gwersi project Celf Dementia
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015
Rhoi gwyddoniaeth ar y blaen yng Nghymru yn 2016
Yn dilyn cyflwyno’r cais cynllunio manwl ffurfiol ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arfaethedig Menai (M-SParc), sef project dan arweiniad Prifysgol Bangor, i Gyngor Ynys Môn ym mis Rhagfyr, mae Cyfarwyddwr M-SParc, Ieuan Wyn Jones, yn edrych yn ôl ar flwyddyn arwyddocaol i’r parc gwyddoniaeth penodol cyntaf yng Nghymru, sy’n ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n addo bod yn ddyfodol cyffrous i ymdrech wyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru yn 2016 a thu hwnt.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2016
Rhowch gartref i ‘Fwydydd Hyll’!
Mae cysyniad newydd mewn siopa yn dod i Fangor yr wythnos hon. Ddydd Iau Mawrth 5ed bydd ‘Siop Bwydydd Hyll’ yn agor er mwyn gwerthu’r holl ffrwythau a llysiau a wrthodwyd lle iddynt ar silffoedd yr archfarchnadoedd a siopau mawrion oherwydd nad oeddynt yn ddigon hardd o ran eu golwg ond sydd yn hollol iawn i’w bwyta.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2015
Rhwydwaith gwybodaeth newydd i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy o’r môr
Rydym i gyd yn ymhyfrydu yn y golygfeydd godidog a’r cyfleoedd chwaraeon awyr agored sydd ar gael ar hyd arfordir ysblennydd Cymru. Ond mae’r arfordir sy’n ein hamgylchynu ar dair ochr hefyd yn cynnig cyfleoedd eraill. Yn bwysig iawn gellir ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a chyfleoedd cyflogaeth o ganlyniad i hynny.
Mae SEACAMS 2, project £17M tair blynedd ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd, yn fuddsoddiad ym mhotensial economi’r môr ac ynni adnewyddadwy. Trwy SEACAMS, gall cwmnïau sydd eisiau defnyddio pŵer y môr i greu diwydiant ynni cynaliadwy yng Nghymru gael gafael ar y gefnogaeth ymchwil hanfodol y byddant eu hangen i’w galluogi i symud ymlaen â’u datblygiadau a fydd yn costio rhai miliynau o bunnau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2016
Rhyl Scoops yn cynnig profiad Parlwr Hufen Iâ traddodiadol
Ydych chi’n mwynhau’r tywydd braf? Os ydych chi yng nghyffiniau'r Rhyl, yna pam na wnewch alw heibio am hufen iâ bendigedig ym mharlwr hufen iâ Rhys Scoops, a fydd ar agor am wythnos yn unig rhwng 23-30 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014
RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill
Mae Prifysgol Bangor wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol.
Fel rhan o broject Macsen, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.
Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i alw yn ‘RoboLlywydd’.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017
Rondo Media yn cyflogi myfyriwr yn dilyn lleoliad â Phrifysgol Bangor
Mae Rondo Media, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, ar gyrion Caernarfon, wedi cyflogi cyn fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Rhys Gwynfor o’r Bala yn dilyn lleoliad â’r cwmni o dan y Rhaglen Mynediad at Radd Meistr (ATM).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015
Santander yn gwobrwyo syniadau busnes myfyrwyr
Cynhaliodd Prifysgol Bangor rowndiau terfynol cam cyntaf Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn ddiweddar.
Ar y diwrnod, cyflwynodd pump o fyfyrwyr israddedig a phum myfyriwr ôl-radd eu syniadau i banel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, gan obeithio mynd ymlaen i gynrychioli Bangor yn rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol Santander ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014
SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr
Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd. Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017
Siemens Healthcare Diagnostics yn ymweld â’r Brifysgol ar gyfer hyfforddiant
Yn ystod mis Ebrill 2015 llofnododd Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol yn ymrwymo’r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2015
Staff a myfyrwyr Bangor yn cael profiad o Hyfforddiant Sgiliau Niwclear
Horizon Nuclear Power (a wholly owned subsidiary of Hitachi Ltd), is currently looking to invest over £10bn in a new nuclear power station at their Wylfa Newydd site, Northern Anglesey. It will provide 2,700MW of new power station capacity to the UK, enough to power around 5 million homes. Given its proximity to the University, Bangor University and Horizon have signed a Memorandum of Understanding which will enable both organizations to collaborate and work more closely together in future years.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016
Tanio Uchelgais ledled Gogledd Orllewin Cymru - Parc Gwyddoniaeth Menai yn derbyn caniatâd cynllunio llawn
Ar ôl i’r cais cynllunio amlinellol gael ei gymeradwyo’n unfrydol ym mis Mai 2015, mae Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf bellach wedi sicrhau caniatâd cynllunio llawn ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arbennig cyntaf Cymru, a hynny ar Ynys Môn. Drwy weithio gyda’r Penseiri, FaulknerBrowns Architects a’r prif gontractwyr sydd wedi’u penodi’n ddiweddar, bydd modd cwblhau'r prosiect cyffrous hwn gan Brifysgol Bangor. Mae M-SParc yn bwriadu gorffen y gwaith adeiladu yn 2017/18.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2016
Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi
Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg. Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017
Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU
O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd garddwyr Prydain yn medru tyfu tomatos sy’n medru gwrthsefyll malltod, yn dilyn gwaith ar y cyd gyda Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014
Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).
Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Why foraging for free is food for the soul
Dyma erthygl yn Saesneg gan Elisabeth S. Morris-Webb Ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta
Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a’u bwyta, yn dilyn Symposiwm rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017
Wythnos Busnes Gwynedd 2014 - Dathlu a hyrwyddo busnesau’r sir
Bydd Digwyddiad Brecwast Busnes yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor yn lansio Wythnos Busnes Gwynedd ddydd Llun, 19 Mai. Bydd y Lansio yn cynnig cyfle i rwydweithio a mwynhau araith gan Ieuan Wyn Jones ar y Parc Gwyddoniaeth Menai dros frecwast.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014
Wythnos Gwynedd yn dathlu’r goreuon mewn busnes
Am y nawfed flwyddyn yn olynol mae Wythnos Busnes Gwynedd wedi dathlu llwyddiannau busnesau lleol a chynnig cyfle gwych i bob math o gwmnïau lleol i ddod ynghyd i rwydweithio a chyfnewid syniadau.
Yn ystod yr wythnos trefnwyd rhaglen o ddigwyddiadau cefnogi busnes mewn canolfannau ar draws Gwynedd gan gynnwys Bangor, Dolgellau, Caernarfon a Phwllheli.
Uchafbwynt yr wythnos oedd Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd a gynhaliwyd ar nos Iau, 22 Mai yn y Ganolfan Reolaeth, Prifysgol Bangor. Roedd y Cinio yn gyfle i arweinwyr busnes ledled Gwynedd gyfarfod gyda phobl debyg iddynt i rannu syniadau a phrofiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Y Brifysgol yn cofio’r Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad â Phrifysgol Bangor ddydd Iau, 27 Mawrth, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Y cyfarfod cyntaf i ddatblygu diwydiant pysgod cregyn Cymru
Mae cynhyrchwyr, gwyddonwyr a rheoleiddwyr pysgod cregyn yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor heddiw (4 Rhagfyr) ar gyfer y gweithdy cyntaf i ddatblygu Canolfan Pysgod Cregyn newydd. Bydd y ganolfan yn darparu anghenion ymchwil ac arloesedd y diwydiant, ac yn sicrhau twf cynaliadwy'r sector gwerthfawr hwn yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2018
Ymchwil newydd yn dangos sut y gall rheoli maetholion wella proffidioldeb ffermydd ac effeithiau amaethyddiaeth ar yr amgylchedd
Mae cynnydd mawr ym mhris gwrteithiau a phwysau ar y diwydiant amaeth i leihau ei gyfraniad i lygredd dŵr yn golygu nad yw gwneud y defnydd gorau o faetholion erioed wedi bod yn bwysicach. Ar hyn y canolbwyntiodd ymchwil a wnaed ar ffermydd ar draws Conwy gan wyddonwyr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r darganfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd blaenllaw, "Agriculture, Ecosystems & Environment".
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC
Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu’r Gynulleidfa yn #newsHack: Languge Technology y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog er mwyn manteisio ar newyddion a gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, a darllen cynnwys mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2016
Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r môr
Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?
Mae egni'r môr yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua £76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor wedi ennill dau grant mawr gwerth £230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017
Yr Athro enwog Bim Bhowmick yn agor cyfres VI o Ddarlithoedd Cyhoeddus Iechyd a Lles Gogledd Cymru ar 20 Hydref 2015
Mae'r Athro Bim Bhowmick, a adwaenir gan lawer fel 'The Prof' wedi mwynhau gyrfa hir a nodedig fel meddyg ymgynghorol yn gofalu am yr henoed yn y GIG yng ngogledd Cymru. Mae wedi gweithio'n ddiflino i wella gofal cleifion ac addysg feddygol, ac wedi datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer cleifion strôc.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2015