Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r môr

Mae cynnwrf y llanw i weld yn glir ar wyneb Y Fenai.Mae cynnwrf y llanw i weld yn glir ar wyneb Y Fenai.Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?

Mae egni'r môr yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua £76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor wedi ennill dau grant mawr gwerth £230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.

Gwella asesu risgiau

Mae'r projectau newydd yn cysylltu'r tîm ym Mangor gyda Nortek, gwneuthurwyr offer eigionegol, a Partrac, y cwmni sy'n arolygu ynni adnewyddadwy'r môr. Bwriad y tîm  Mae'r cerrynt sy’n llifo drwy Bwll Fanogl ymysg y cryfaf i'w brofi o amgylch ein glannau Mae'r cerrynt sy’n llifo drwy Bwll Fanogl ymysg y cryfaf i'w brofi o amgylch ein glannauhwn o arbenigwyr yw gwella asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynnwrf ac felly helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw.

"Mae'r moroedd bas o amgylch y DU yn cynrychioli un o'r adnoddau ynni llanw gorau yn fyd-eang, yn cyfrif am oddeutu 10% o gyfanswm y byd. O ganlyniad, mae'r diwydiant ynni llanw yn sector o economi'r DU sy'n datblygu ac yn tyfu'n gyson", meddai Dr Martin Austin o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor.

Mae eigionegwyr ffisegol ym Mhrifysgol Bangor yn cael eu cydnabod fel arweinwyr y byd mewn ymchwil i gynnwrf y môr.

Galluogi arloesi mewn dulliau newydd o fesur

Caiff y canfyddiadau o'r projectau hyn eu hintegreiddio i ddatblygu cynnyrch arloesol Nortek. Fodd bynnag, nid dyma'r project ynni llanw cyntaf i Nortek, cwmni sy'n arbenigo mewn ADCP.

"Mae Nortek wedi bod yno ers y dechrau i helpu'r diwydiant ynni llanw. Roedd y gosodiad cyntaf gyda chwmni ynni adnewyddadwy Norwy, Hammerfest Strom, yn weithredol dros ddeng mlynedd yn ôl", meddai Atle Lohrmann, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Nortek.

Bydd Eigionegwyr y Brifysgol yn defnyddio dyfais AWAC Nortek i fesur cyflymder a chyfeiriad y cerrynt fesul haenau un medr, rhwng gwely’r môr a’r wyneb.Bydd Eigionegwyr y Brifysgol yn defnyddio dyfais AWAC Nortek i fesur cyflymder a chyfeiriad y cerrynt fesul haenau un medr, rhwng gwely’r môr a’r wyneb.Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yr angen i ddeall sut gallai tyrbinau llanw wrthsefyll cerrynt cryf iawn, roedd yn ofynnol i Nortek ddatblygu galluoedd mesur newydd.

"Rydym yn cymryd rhan ym mhob cam o brojectau ynni llanw: Mae hyn yn cynnwys y wyddoniaeth o ddeall hinsawdd y llif a'r tonnau, asesu adnoddau mewn lleoliad penodol, a hefyd monitro cerrynt yn ystod y broses gynhyrchu", ychwanegodd Lohrmann.

Gwella'r dull o fesur cynnwrf

Caiff yr astudiaeth o gynnwrf y llanw ei gweithredu fel dau broject cysylltiedig a gefnogir gan grantiau gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ac Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2).

Bydd y project cyntaf yn canolbwyntio ar gasglu data newydd am gynnwrf yn y Fenai, a hefyd ymhellach oddi ar yr arfordir i ogledd-orllewin Ynys Môn. Bydd yr ymdrech hon yn datblygu ymhellach yr arbenigedd byd-enwog mewn technegau arsylwi acwstig ac optegol a gaiff eu harloesi ym Mangor.

Bydd yr ail broject yn canolbwyntio ar wella'r dull o fesur cynnwrf mewn llif egnïol y llanw, gan weithio hefyd yn labordy naturiol y Fenai.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017