Nadolig 2019
P’un ai eich bod yn bwriadu dathlu’r ŵyl mewn steil, cael parti drwy’r nos neu giniawa’n foethus mewn awyrgylch glyd gallwn ateb eich union ofynion.
Rydym yn arlwyo ar gyfer 2 - 200 ac mae ein hamrywiaeth o leoliadau yn cynnig rhywbeth at chwaeth pawb sy’n siŵr o ysgogi hwyl yr ŵyl.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein bwyd sy’n cael ei baratoi gan ein tîm o gogyddion yn defnyddio’r cynhwysion gorau posib, a rheiny, lle bo modd, yn rhai lleol.
E-bost – reservations@bangor.ac.uk
Ffôn – 01248 382558
Ciniawa mewn steil yn Lolfa Teras
Trwy gydol mis Rhagfyr
Os hoffech fwyta mewn awyrgylch clyd a hamddenol ac yn chwilio am fwyd amheuthun bydd y trysor cudd hwn yn berffaith i chi. Mae gennym brydau 2 a 3 chwrs ar gael o £18.50 a chewch goffi a mintys am ddim gyda phob pryd!
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Dawnsiwch tan berfeddion nos yn Far Uno
13eg a 14eg o Ragfyr
Ymunwch â ni am noson o hwyl ym Mar Uno lle bydd ein DJ yn chwarae cerddoriaeth trwy gydol y noson! Mae ein noson parti yn cynnwys pryd 3 chwrs am £22.50, ychwanegwch un o’n pecynnau diodydd yn cychwyn o £2.50!
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Nadolig gyda’r holl addurniadau yn Neuadd Reichel
Trwy gydol mis Rhagfyr
Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i’r rheiny ohonoch sydd eisiau dathlu’r ŵyl gyda chydweithwyr a ffrindiau. Mwynhewch hwyl a miri’r parti Nadolig perffaith heb y drafferth o wneud cynlluniau a pharatoi. Cewch pryd 3 chwrs am £22.50 a gwydraid o Bucks Fizz am ddim gyda phob pryd!
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.