Newyddion: Hydref 2016

Enwebu Prifysgol Bangor am dair wobr yn dilyn cydweithio â busnesau

Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau Business and Education Awards y cwmni cyhoeddi Wales Business Insider a gynhelir yng Nghaerdydd ar 3 Tachwedd. Nod y gwobrau hyn yw tynnu sylw at y cydweithio llwyddiannus sy’n digwydd rhwng sefydliadau addysg Cymru ac economi’r wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Noson yng Nghwmni’r Prifardd Guto Dafydd

Nos Fercher, 26 Hydref, am 6.00 o’r gloch yn Narlithfa 2 Pontio – y drws nesaf i fwyty Gorad – bydd y Prifardd Guto Dafydd yn cael ei holi am ei nofel fuddugol Ymbelydredd. Hon yw’r nofel a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni fis Awst a hynny gyda chanmoliaeth uchel y beirniaid. Un o’i gyn-ddarlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Yr Athro Angharad Price, a fydd yn ei holi am ei nofel ddiweddaraf a’i yrfa lenyddol hyd yma. Bydd hon felly’n sgwrs rhwng dau nofelydd llwyddiannus. Trefnir y noson gan Ysgol y Gymraeg, mae’r mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb - gellir cael tocynnau o swyddfa docynnau Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2016

Ffair Swyddi yn lwyddiant

Cynhaliwyd Ffair Swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar (28/09/16) yn Neuadd PJ ym Mhrifysgol Bangor. Cafwyd dros 45 o stondinau gyda chyflogwyr graddedigion, cwmnïau lleol a gwasanaethau gwirfoddol yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Ffordd Pawb/ Coherent Connections- project arloesi yn dod i Fangor

Mae myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project rhyngwladol arloesol a all ddarparu atebion newydd creadigol i broblemau modern cymhleth a wynebir ym Mangor, yn ogystal â chymunedau eraill. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor

Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i  agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.   

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor

Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i  agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.   

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Creu cymunedau sy’n gefnogol i bobol â dementia yng Ngogledd Cymru

Gwahoddir pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i gefnogi pobl â dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a’r trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i’r cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd.

Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am  ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Cynnal y Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru

Daeth tua 90 o athrawon ysgol ynghyd i’r Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru a drefnwyd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad Pontio’r Brifysgol, yn canolbwyntio ar y project unigol yn y  cymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig, y mae’n rhaid i bob ysgol a choleg yng Nghymru ei  gyflwyno fel rhan o'u cwricwlwm.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Syrcas a rhythmau pres di-baid yn dod i Pontio

Ar 4 a 5 Tachwedd, bydd y cwmni syrcas o Ffrainc, Circa Tsuica, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf gyda'u sioe Opus 7, cymysgedd o acrobateg a rhythmau pres, yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor. Gan roi blas lleol i'r sioe, bydd Band Jazz Tryfan yn ymuno ag wyth cerddor acrobatig Circa Tsuica ar y llwyfan.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2016