Newyddion: Tachwedd 2016

Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl

Mewn byd lle mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o'n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy'n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno.  Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno.  Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016

Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd

Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes. Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016

Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.

Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015.

Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016