Newyddion: Mawrth 2017

Gala Un Byd yn dathlu doniau

Cafodd dros 400 o fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol gyfle i flasu traddodiadau diwylliannol y byd yn nathliad blynyddol Prifysgol Bangor o amrywiaeth a doniau.

Yn y Gala Un Byd cafwyd ugain o eitemau’n cynrychioli sawl cwr o’r byd, a berfformiwyd gan fyfyrwyr unigol a chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr, ynghyd â grwpiau gwadd lleol. Cafwyd eitemau’n amrywio o ganeuon o Tonga, drymiau o Ghana, canu gwerin Cymreig a chrefft ymladd Siapaneaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. 

Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld arloesi ar waith ym Mhrifysgol Bangor

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â Phrifysgol Bangor ddydd Iau (16 Mawrth), gan fynychu Cynhadledd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ymweld ag Undeb y Myfyrwyr ac Arloesi Pontio Innovation (API) yn adeilad Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017

Cenynau a Chynffonnau

I gydfynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor poblogaidd y Brifysgol, mae  Storiel wedi dadorchuddio’i harddangosfa newydd sydd i’w gweld yng nghyntedd Storiel ar y thema o ymlusgiaid.

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Melissa Green, myfyrwraig sŵoleg wirfoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2017

Un Noson, Un Byd!

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Gala Un Byd, dathliad o amrywiaeth diwylliannol, nos Iau 16 Mawrth.

Yn cymryd rhan yn y cyngerdd fydd myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn ogystal â chynrychiolaeth o’r gymuned leol, yn arddangos eu diwylliannau trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Gellir disgwyl perfformiadau o India, Tsieina, Affrica, Siapan, ac wrth gwrs Prydain a Chymru!

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017