Newyddion: Gorffennaf 2017

Mae Gorllewin Cymru'n suo gan Sillafwyr Sydyn

Yn ddiweddar daeth 90 o ddisgyblion blwyddyn 7 o 30 o ysgolion ynghyd i gystadlu yn seithfed rownd derfynol genedlaethol flynyddol Cystadleuaeth Spelling Bee Llwybrau at Ieithoedd, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth disgyblion o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli'r holl ranbarthau sy'n ymwneud â Llwybrau at Ieithoedd, ynghyd i gystadlu am un o bedwar teitl Pencampwr Cystadleuaeth Genedlaethol Spelling Bee 2017, mewn naill ai Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Gymraeg ail iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig.

Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru

Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon

Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Syr Bryn Terfel a Hannah Stone i berfformio yn Pontio, Bangor

Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV (Ebrill 1-7 2018) ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar nos Iau, Chwefror 8fed 2018, am 7.30pm. 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Cloddfa archeolegol yn agor i'r cyhoedd ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru, ger Rhiw ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn (15-16 Gorffennaf).

Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio ‘Project Meillionydd’ (http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cyer 2010, dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, ac maent yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain (www.archaeologyfestival.org.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017

Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth

Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017

Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang

Mae dull addysgu’r brifysgol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn eu hannog i ddangos menter, wedi arwain at ddyfarnu safon Aur i’r brifysgol am addysgu. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu mewn project newydd.

Mae’r Ysgol Addysg yn cydweithio gyda Microsoft i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ddinasyddion digidol yr unfed ganrif ar hugain. Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond tair prifysgol yn y Deyrnas Unedig, i beilota defnyddio deunyddiau Microsoft Education yn un o’n cyrsiau.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017