Newyddion: Tachwedd 2017

Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen

Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017).

Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017

Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion

A unique mentoring scheme, designed to encourage language learning amongst young people in Wales, has been awarded the prestigious Threlford Cup by the Chartered Institute of Linguists (CIOL).

The Modern Foreign Languages (MFL) Mentoring Scheme, which is led by Cardiff University’s School of Modern Languages, is funded by Welsh Government as part of its Global Futures plan which aims to improve and promote the take up of modern foreign languages in schools. In partnership with Swansea, Bangor and Aberystwyth Universities, the project undertakes a nationwide approach to increasing inter-cultural understanding and promoting language learning at key stages.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

‘Can the UN trump Trump?’: Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig y Deyrnas Unedig (UNA-UK) yn rhoi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor

Yng nghyd-destun byd sy'n gynyddol hollti'n garfanau gelyniaethus, ydi'r Cenhedloedd Unedig yn fwy neu'n llai pwysig?  Pa mor hanfodol yw amlochroldeb wrth wynebu materion cyfoes byd-eang?  Mewn darlith gyhoeddus ddadlennol, gaiff ei thraddodi ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, bydd yr Arglwydd Wood, Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y Deyrnas Unedig), yn trafod perthnasedd y Cenhedloedd Unedig ar adeg pan fo'r sefydliad yn cael ei ddilorni a'i gamddeall yn gynyddol.  Teitl y ddarlith yw 'Can the UN trump Trump?', ac i ddilyn ceir sesiwn holi ac ateb.  Cyflwynir y siaradwr gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Perfformiad o Chongqing yn hybu cysylltiadau Cymru-Tsieina

Er mwyn meithrin cysylltiad Cymru â Chongqing yn ne-orllewin Tsieina, fe wnaeth Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ddod â Chwmni Perfformio Chongqing i Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn gynharach yr wythnos hon (1 Tachwedd), lle buont yn cyfareddu'r gynulleidfa gyda pherfformiad syfrdanol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd. 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017

Y darlledwr Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor

Bydd y darlledwr adnabyddus Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Tachwedd.  Cynhelir darlith flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, 'Duw a'r Gin-shop: hanes cynnar capeli Cymraeg Llundain', yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio am 6pm.  Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau.  Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd.  A fyddech cystal ag archebu tocynnau a phensetiau cyfieithu drwy Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 382828.  

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017