Newyddion: Rhagfyr 2017

Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau

Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.  

Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

Amser bwydo’r anifeiliaid (robotaidd) yn y Sw

Mae Sw Mwytho o fath dipyn bach yn wahanol yn dod i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor rhwng 4 - 10 Rhagfyr.

Bydd hi’n amser bwydo’r anifeiliaid yn y sw - ond yn lle geifr neu wŷn bach,  robotiaid hwfro ydy’r ‘anifeiliaid’, pob un efo’i bersonoliaeth ei hun a phob un yn cwffio i gael ei ‘fwydo’ gan y cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017