Newyddion: Ionawr 2018

Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc

Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018

Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant

Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydlu’r Early Intervention Foundation, yn traddodi darlith dan y teitl “Early Intervention - why leave it so late?” nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau), Prifysgol Bangor. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlith gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018

Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018

Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2018

Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol

Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan.

Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018