Newyddion: Chwefror 2018

Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships

Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

Bangor yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dod â digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ôl i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018

Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor

Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina.

Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018

Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl

Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018

Dwylo’n dweud

Yn dilyn cynhadledd flynyddol Clust i wrando … (2017) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ym mis Mehefin y llynedd ac ar sail awgrymiadau’r cynadleddwyr, sefydlwyd cynllun i gyflwyno dull arwyddo’r byddar (British Sign Language) i holl blant Cylchoedd Meithrin Cymru (Y Mudiad Meithrin). Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2018