Newyddion: Ebrill 2018

Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion.    Fe wnaeth addysgwyrseicolegwyrgwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Digwyddiad #ITSFORUS

Ymunwch â Myfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd a Source to Sea Productions i ddigwyddiad sy'n dathlu beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth amgylcheddol!  Yn y digwyddiad #itsforus ceir stondinau, pethau i'w rhannu am ddim, gemau llawn hwyl a dangosiad cyntaf ffilm fer sy'n sôn am y ffordd y gellwch arbed arian a'r blaned!

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2018

FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl

Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

Medal Efydd i Tesni!

Mae Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, wedi ychwanegu medal Efydd at gyfanswm cyfredol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, drwy drechu Nicol David o Malaysia mewn gornest wefreiddiol ar yr Arfordir Aur.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018

Myfyrwyr rhyngwladol yn troi’n wyrdd- Glanhau’r Traeth 2018

Bu tîm o 50 o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn glanhau’r traeth yng Nghricieth yn ddiweddar. Trefnwyd y fenter gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor ar y cyd efo  Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, fel rhan o broject cynaliadwyedd y Swyddfa Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018

Aelod o ‘Dîm Bangor’ yn ennill Medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Mae medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad newydd gael ei hennill gan aelod o dîm Prifysgol Bangor yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae Gareth (Gaz) Evans yn aelod o staff y brifysgol yn gweithio yng Nghanolfan Brailsford. Mae newydd gipio’r fedal Aur wrth godi pwysau yn y categori 69 cilogram ar gyfer dynion, gan lwyddo i godi 299 kg.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2018