Newyddion: Mehefin 2018

Gŵyl Treborth yn codi dros £17,000 i Sophie

Croesawodd Gardd Fotaneg Treborth Ŵyl Gerdd Draig Beats yn ddiweddar, er mwyn codi arian ar gyfer addasiadau angenrheidiol i gartref Sophie Williams. Roedd Sophie yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn gadwraethwr angerddol, ond mae hi wedi’i pharlysu ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, dair blynedd yn ôl wrth gynnal ymchwil yn Tsieina.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018

Cynnal cystadleuaeth Sboncen Merched y PSA yn y Brifysgol am y tro cyntaf

Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, fydd y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth sboncen merched y PSA (Professional Squash Association) yr wythnos hon – y gystadleuaeth gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y Brifysgol a’r gyntaf hefyd i’w chynnal yng Nghymru. Gan ddechrau ar ddydd Mercher 20 Mehefin, bydd y brwydro dwys dros bum niwrnod yn arwain at gêm derfynol y gystadleuaeth, a gwobr o $5000, i’w chynnal ddydd Sul.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018

Teithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor ar Dydd Sadwrn 23 o Fehefin. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2018

Cemegwyr Ifainc yn mesur cynnwys halen mewn creision!

Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng ngogledd a chanolbarth Cymru a’r gororau yn chwarae rôl cemegwyr dadansoddol yn gwirio cynnwys sodiwm (halen) mewn samplau o greision tortilla wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Disgyblion yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan mewn project Cymru gyfan

Daeth dros 150 o ddisgyblion o wyth ysgol yng ngogledd Cymru i Brifysgol Bangor i ddathlu trydedd flwyddyn lwyddiannus y project Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern. Nod y project hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u cynllun Dyfodol Byd-eang, yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru. Yr ysgolion a oedd yn bresennol oedd Tryfan, Emrys ap Iwan, Y Rhyl, Friars, Dyffryn Ogwen, Argoed, Caergybi a Glan-y-Môr.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Prifysgol Bangor yn cyhoeddi enwau’r unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol eleni.

Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i’w meysydd penodol.

Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio’r Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats

Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl.

Eu syniad ar gyfer codi arian yw cynnal gŵyl undydd, Draig Beats, gan roi cyfle i bawb oedd eisiau bod o gymorth i gydweithio.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Wythnos i’w chofio i Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eleni, gyda’r Gadair, y Goron a gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2018

Cemegwyr ifanc yn datgelu cyfrinachau ac ennill gwobrau mewn Gŵyl Gemeg

Roedd disgyblion o Ysgol Tryfan, Bangor ymysg wyth tîm o bobl ifanc 11-13 oed o bob rhan o Ogledd Cymru a wnaeth fwynhau diwrnod llawn hwyl yn y labordai Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Gemeg Salters eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018