Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Chwefror 2016
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Hydref 2018
Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.
Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018
Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae
Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae, sef diwrnod sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018
Wythnos Am Wastraff #WAW18
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.
Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws Byw, Neuaddau Preswyl, Tai Myfyrwyr, Arlwyo, y Swyddfa Ryngwladol, Cyngor Gwynedd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff(CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018
Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth
Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018
Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd
Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018