Newyddion: Ionawr 2019

Estyn cymhellion ariannol i ddenu athrawon newydd

Mae staff yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i flwyddyn academaidd 2019-20.

Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019

Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd

Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru

Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru.

Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2019

Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd  yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019

Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor

Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr.

Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol.

Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019

Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)

Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd 'Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes', llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019