Newyddion: Hydref 2019

Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

‘Climate change: hope from despair?’ – darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg

Newid hinsawdd fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 20 Tachwedd. Y siaradwr yw Kevin Anderson, Athro Ynni a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’

Sefydlwyd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.  Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae’r cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y lôn!

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth

Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae 2019

Gyda’r Diwrnod Shwmae Su’mae bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15).

Nod Diwrnod Shwmae Su’mae yw hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a’n myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o’r Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019