Newyddion: Tachwedd 2019

Cefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr

Mae Prifysgol Bangor wedi dewis Diwrnod cenedlaethol Hawliau Gofalwyr (21 Tachwedd) i lansio’r unig Bolisi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru a thrwy hynn bwysleisio eu cefnogaeth i fyfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr.

Bydd gofalwyr ifanc ac eraill yn siarad am eu profiadau, a’r cymorth sydd ar gael iddynt, mewn digwyddiad ar hawliau gofalwyr yn y brifysgol. Cynhelir hwn mewn partneriaeth ag Action for Children, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Chyngor Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019

Pontio yn agor drysau i bobl ifanc leol trwy grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae project arloesol sy'n rhoi rhywbeth i bobl ifanc leol yn eu harddegau ei wneud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol ym Mhontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi Bangor, wedi derbyn tair blynedd o gyllid gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o'i Chronfa Gymunedol.

Gan weithio mewn ffordd ddeinamig sy’n ymateb i anghenion, mae'r project, o'r enw 'Yn y Foment' yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dod i mewn i adeilad Pontio gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o'u dewis, gan gynnwys cerddoriaeth ac ysgrifennu, dawns, sgiliau syrcas a chyfleoedd i weithio gyda'r nifer fawr o berfformwyr proffesiynol ac ymarferwyr lleol sy'n ymweld â Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019

Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing.

Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona.

Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd

Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd.

Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor, yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019