Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

EwrOlwg: Sut mae eraill wedi gweld Cymru

Bwthyn Cymreig gan Onorato Carland.  Bwthyn Cymreig gan Onorato Carland.

Ydych chi erioed wedi ystyried sut mae eraill yn ein gweld?

Bydd arddangosfa gyhoeddus newydd, sydd yn defnyddio ymchwil o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, yn edrych ar sut mae ymwelwyr o Ewrop - yn cynnwys fforwyr, twristiaid a ffoaduriaid - wedi edrych ar Gymru ers canol y ddeunawfed ganrif.

Enw’r Arddangosfa yw EwrOlwg: Cymru drwy lygaid ymwelwyr o Ewrop, 1750–2015, ac mae yn Storiel newydd y ddinas o fis Ebrill hyd at 2 Gorffennaf.

Bydd yr arddangosfa’n dangos amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid o’r Swistir, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Awstria a Gwlad Pwyl o’r cyfnod Rhamantaidd hyd at y presennol.

Mae’r lluniau hyn yn dangos Cymru mewn amrywiol weddau, o dirluniau delfrydol i ganolfannau diwydiannol a phortreadau o’r bobl sy’n byw yng Nghymru.

Sail yr arddangosfa yw project ymchwil sydd yn edrych ar ddisgrifiadau o Gymru a Chymreictod mewn ysgrifau teithio Ewropeaidd rhwng 1750 a 2010.

Mae’r project yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i cyllidir gyda grant sylweddol gan yr AHRC.

Un o'r casgliad o luniau gan Karel Lek sydd yn cyd-fynd â'r Ardangosfa."Ysbyty Gwynedd" gan Karel Lek.Mae’r project tair blynedd eisoes wedi canfod dros 360 o adroddiadau taith gan ymwelwyr o dir mawr Ewrop yn disgrifio eu teithiau yng Nghymru ers canol y ddeunawfed ganrif. Mae EwrOlwg yn ategu’r adroddiadau hyn gan edrych ar weithiau celf sydd wedi’u hysbrydoli gan dirluniau, safleoedd diwydiannol a phobl Cymru.

Bu ymwelydd o'r Eidal yn 1909 cofio'i daith i Ddolwyddelan, lle daeth ar draws angladd:

“Un noson wlyb, fe gyrhaeddais yno ac roedd angladd yn cael ei gynnal. Roedd grŵp bychan o amgylch y bedd, mewn nyth o laswellt ac yn cael eu cysgodi gan goed hardd, yn canu.

Mor aml yr ydym mewn dyled fawr i bobl nad ydynt yn gwybod dim am y peth! Roeddwn i a fy nghyfaill annwyl yn ein dagrau y noson lwydaidd honno, ac ni chlywn fyth gerddoriaeth fwy argyhoeddiadol nag a glywsom y noswaith honno. Mae’r Cymry’n bobl mor gerddorol.”

Roedd ffoaduriaid yn un o’r prif grwpiau a deithiodd i Gymru yn ystod yr ugeinfed ganrif ac mae Storiel hefyd yn dangos arddangosfa Arsylwadau, gwaith yr arlunydd Karel Lek o Wlad Belg a ddaeth i ogledd Cymru fel ffoadur yn 1940.

Wrth sôn am yr arddangosfa, eglurodd prif ymchwilydd y prosiect, yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor:

Yr Athro Carol Tully, sy'n awrain y gwaith ymchwil, yn tywys Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol o amgylch yr Arddangosfa.Yr Athro Carol Tully, sy'n awrain y gwaith ymchwil, yn tywys Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol o amgylch yr Arddangosfa.“Mae hwn yn gyfle rhyfeddol i ni ddod â’n hymchwil gerbron cynulleidfa ehangach a dangos pa mor amrywiol fu’r olwg Ewropeaidd ar Gymru dros amser.”

Gan gadw at ysbryd y project, mae’r arddangosfa yn teithio drwy Gymru ac mae wedi ymweld ag Aberystwyth ac Abertawe cyn dod i Fangor.

Rita Singer, Cynorthwyydd Ymchwil y prosiect, a drefnodd yr arddangosfa gyda chymorth hael Amgueddfa Ceredigion. Wrth sôn am y casgliadau, dywedodd:

“Mae EwrOlwg yn gyfle unigryw i ymwelwyr â’r amgueddfa weld gweithiau celfyddydol o gyfandir Ewrop sydd wedi’u casglu gan amrywiol sefydliadau yma yng Nghymru ond nad ydyn nhw’n cael eu harddangos yn aml. Mae’n debygol mai dyma’r tro cyntaf a’r unig dro y caiff pobl gyfle i weld darlun o Ddolgellau yn ystod y 1770au gan artist o’r Swistir ochr yn ochr â golygfa o ysbyty o’r ugeinfed ganrif gan beintiwr o Wlad Belg. Mae’r amrywiaeth o arddulliau, pynciau a chefndiroedd cenedlaethol yn golygu bod hon yn arddangosfa gyffrous iawn.”

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2016