Holl Newyddion A–Y

100 trysor Prifysgol Bangor

Gall ymwelwyr i Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, fwynhau arddangosfa newydd, 100 trysor Prifysgol Bangor, yn y cas sydd yn y dderbynfa. Defnyddir y cas arddangos hwn yn unswydd ar gyfer arddangos casgliadau’r Brifysgol, ac mae’r arddangosfa’n newid bob chwe mis.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018

2001 yn dod i Fangor

Bydd y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu hanner canfed pen blwydd y ffilm chwedlonol, 2001: A Space Odyssey yn Pontio ddydd Sadwrn, 16 Mehefin 2018.  

“Mae 2001: Beyond 50” yn ddiwrnod o sgyrsiau, cerddoriaeth a chelf sy'n dathlu'r ffilm sy'n cynnwys amrywiaeth eang o arbenigwyr a phobl a weithiodd ar y ffilm.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2018

9bach a chyfeillion i berfformio yn Pontio yn ystod wythnos yr Eisteddfod

Wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Môn agosau, mae Pontio wedi cyhoeddi y bydd 9bach a chyfeillion yn dychwelyd i Theatr Bryn Terfel i berfformio LLECHI, gwaith ar y cyd newydd sbon sy’n cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema’r chwarel a hanes Bethesda nos Lun 7fed a nos Fercher 9fed o Awst, 8pm.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Aelod o ‘Dîm Bangor’ yn ennill Medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Mae medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad newydd gael ei hennill gan aelod o dîm Prifysgol Bangor yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae Gareth (Gaz) Evans yn aelod o staff y brifysgol yn gweithio yng Nghanolfan Brailsford. Mae newydd gipio’r fedal Aur wrth godi pwysau yn y categori 69 cilogram ar gyfer dynion, gan lwyddo i godi 299 kg.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2018

Amser bwydo’r anifeiliaid (robotaidd) yn y Sw

Mae Sw Mwytho o fath dipyn bach yn wahanol yn dod i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor rhwng 4 - 10 Rhagfyr.

Bydd hi’n amser bwydo’r anifeiliaid yn y sw - ond yn lle geifr neu wŷn bach,  robotiaid hwfro ydy’r ‘anifeiliaid’, pob un efo’i bersonoliaeth ei hun a phob un yn cwffio i gael ei ‘fwydo’ gan y cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017

Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion

A unique mentoring scheme, designed to encourage language learning amongst young people in Wales, has been awarded the prestigious Threlford Cup by the Chartered Institute of Linguists (CIOL).

The Modern Foreign Languages (MFL) Mentoring Scheme, which is led by Cardiff University’s School of Modern Languages, is funded by Welsh Government as part of its Global Futures plan which aims to improve and promote the take up of modern foreign languages in schools. In partnership with Swansea, Bangor and Aberystwyth Universities, the project undertakes a nationwide approach to increasing inter-cultural understanding and promoting language learning at key stages.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Antur a Thu Hwnt: Cynhadledd Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru, 2018

Wrth i rai sy'n chwilio am wefr anelu am Ogledd Cymru, 'canolbwynt' twristiaeth antur, bydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor a Go North Wales yn cynnal cynhadledd flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn Pontio ar 6 Rhagfyr.  Teitl y gynhadledd yw "Antur a Thu Hwnt/Adventure and Beyond".

Mae'r prif siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Ellis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, y cyflwynydd teledu, Kate Humble, yr awdur a siaradwr cyhoeddus, John Thackara, yn ogystal ag Ash Dykes, o Ogledd Cymru, yr anturiaethwr ac athletwr eithafol a ddaeth i amlygrwydd drwy fynd ati i gerdded ei hun ar hyd Afon Yangtze. Bydd ef yn ymuno drwy gynhadledd fideo.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018

Arbenigeddau Bangor yn rhoi llawenydd y llais yn ôl i John

Mae arbenigeddau arloesol ym Mhrifysgol Bangor wedi golygu fod gŵr a gollodd y defnydd o’i lais yn dilyn triniaethau canser ddwy flynedd yn ôl, bellach yn gallu cyfathrebu yn ei lais synthetig ei hun.

Yn ail bennod cyfres DRYCH ar S4C nos Sul, 28 Ebrill, ceir hanes cyn-aelod staff y Brifysgol, John Wyn Jones, o Fiwmares, ac ymdrechion’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor, i greu llais synthetig ar ei gyfer.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019

Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw.

Wedi i’r Brifysgol ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae’n angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd â phlant a phobl ifanc Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Arbrawf arloesol mewn gofal sy’n pontio cenedlaethau

Gyda chynnydd ym mhoblogaeth pobl hŷn, y pwysau sydd ar arian cyhoeddus a chostau gofal plant, does ryfedd bod ymchwil cynyddol i mewn i ffyrdd newydd o ddarparu gofal.

Mae bron i 625,000 o bobl hŷn dros 65 mlwydd oed yng Nghymru. Darganfuwyd adroddiad diweddar gan The Family and Childcare Trust bod dros 6.4 miliwn o bobl 65 oed a throsodd ym Mhrydain yn byw mewn ardaloedd sydd ddim gyda digon o ofal pobl hŷn i ateb y galw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2016

Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)

Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd 'Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes', llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019

Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd

Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd.

Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor, yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019

Awr Ddaear 2018

Mae’r Brifysgol yn helpu i adeiladu dyfodol disgleiriach trwy gefnogi Awr Ddaear WWF. Mae hwn yn ddigwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau ac mae’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.

I ddathlu’r degfed Awr Ddaear yng Nghymru, bydd y Brifysgol yn diffodd y llifoleuadau ar ei Brif Adeilad am yr awr, ac yn annog staff a myfyrwyr i ymuno drwy gymryd y camau y gallant.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018

Band Jazz Tryfan yn ymuno â Circa Tsuica ar gyfer eu sioe syrcas Now or Never

Daw’r cwmni Ffrengig Circa Tsuica â'u Pabell Fawr i Fangor gan ymuno â Band Jazz Tryfan ar gyfer eu sioe syrcas ddiweddaraf, Now or Never.  

Cyflwynir gan Crying Out Loud fel rhan o Circus250, dathliad cenedlaethol i nodi pen-blwydd y syrcas fodern yn 250 oed 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018

Bangor yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dod â digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ôl i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018

Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd  yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019

Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang

Mae dull addysgu’r brifysgol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn eu hannog i ddangos menter, wedi arwain at ddyfarnu safon Aur i’r brifysgol am addysgu. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu mewn project newydd.

Mae’r Ysgol Addysg yn cydweithio gyda Microsoft i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ddinasyddion digidol yr unfed ganrif ar hugain. Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond tair prifysgol yn y Deyrnas Unedig, i beilota defnyddio deunyddiau Microsoft Education yn un o’n cyrsiau.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017

Blas ar Iaith

Cynhaliwyd Gwledd Iaith 2019 Llwybrau Cymru gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar, gyda chefnogaeth nifer o fyfyrwyr sy'n hyrwyddwyr iaith yn y brifysgol a grŵp o Lysgenhadon Iaith sy'n ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Friars. Cymerodd pedair ysgol gynradd o ogledd Cymru ran yn y digwyddiad (Ysgol Sarn Bach, Ysgol y Santes Ffraid, Ysgol Abererch ac Ysgol Tudweiliog) a bu saith deg pedwar o ddisgyblion o flynyddoedd pump a chwech yn mwynhau'r gweithgareddau a oedd ar gael yn ystod y dydd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019

Bwrlwm a Llechi: Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016

Bydd presenoldeb Prifysgol Bangor i’w weld a’i glywed ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn llenwi wythnos y brifwyl yn Sir Fynwy.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2016

Bydd seren ‘No Offence’, Joanna Scanlan, yn dod adref i Pontio i hyrwyddo ei ffilm indie newydd, ‘Pin Cushion’

Mae’n bleser gan staff Pontio groesawu’r actores a’r sgriptwraig adnabyddus, Joanne Scanlan (The Thick of It, Getting OnNo Offence) i’r Sinema ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn dangosiad o’i ffilm newydd, PIN CUSHION gan y cyfarwyddwr newydd, Deborah Haywood, ddydd Sadwrn 15 Medi am 8.15pm.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018

Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia

As the Welsh Government seeks views on its recently launched dementia strategy, Bangor University is bringing together people living with dementia, and organisations who are also working on dementia related support and research projects to share best practice in north Wales.

Living with dementia in North Wales – we’re in it together, a Conference at the University on 27 January, will hear the experiences of people living with dementia, as well as those of a number of organisations providing dementia supportive programmes and conducting dementia-related research.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017

Canolfan Bedwyr yn y Gymuned

Wedi iddynt gwblhau cwrs gloywi iaith wedi ei deilwra’n benodol ar eu cyfer gan diwtoriaid iaith Canolfan Bedwyr, cyflwynwyd tystysgrifau i aelodau staff Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Caernarfon yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016

‘Can the UN trump Trump?’: Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig y Deyrnas Unedig (UNA-UK) yn rhoi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor

Yng nghyd-destun byd sy'n gynyddol hollti'n garfanau gelyniaethus, ydi'r Cenhedloedd Unedig yn fwy neu'n llai pwysig?  Pa mor hanfodol yw amlochroldeb wrth wynebu materion cyfoes byd-eang?  Mewn darlith gyhoeddus ddadlennol, gaiff ei thraddodi ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, bydd yr Arglwydd Wood, Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y Deyrnas Unedig), yn trafod perthnasedd y Cenhedloedd Unedig ar adeg pan fo'r sefydliad yn cael ei ddilorni a'i gamddeall yn gynyddol.  Teitl y ddarlith yw 'Can the UN trump Trump?', ac i ddilyn ceir sesiwn holi ac ateb.  Cyflwynir y siaradwr gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!

Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Cefnogi'r cochion!

Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn gweithio efo partneriaid i gefnogi ail gyflwyno gwiwerod coch i Ddyffryn Ogwen, yng Ngwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017

Cemegwyr Ifainc yn mesur cynnwys halen mewn creision!

Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng ngogledd a chanolbarth Cymru a’r gororau yn chwarae rôl cemegwyr dadansoddol yn gwirio cynnwys sodiwm (halen) mewn samplau o greision tortilla wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Cemegwyr ifanc yn datgelu cyfrinachau ac ennill gwobrau mewn Gŵyl Gemeg

Roedd disgyblion o Ysgol Tryfan, Bangor ymysg wyth tîm o bobl ifanc 11-13 oed o bob rhan o Ogledd Cymru a wnaeth fwynhau diwrnod llawn hwyl yn y labordai Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Gemeg Salters eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018

Cenynau a Chynffonnau

I gydfynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor poblogaidd y Brifysgol, mae  Storiel wedi dadorchuddio’i harddangosfa newydd sydd i’w gweld yng nghyntedd Storiel ar y thema o ymlusgiaid.

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Melissa Green, myfyrwraig sŵoleg wirfoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2017

Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia

Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. 

Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Chargé d’Affaires Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor

Bu dirprwyaeth o llysgenhadaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn eu plith oedd Chargé d’Affaires y Llysgenhadaeth, Madame Marie-Louise Kafenge Nanga, a oedd yn awyddus i archwilio Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol a’u dogfennau yn ymwneud â’r Parchedig William Hughes a’r Congo Training Institute ym Mae Colwyn.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2016

Chwilio am wyddonwyr o blith y cyhoedd i ymchwilio i'n morfeydd heli

Er ein bod yn byw ar ynys, eto rydym yn gwybod ychydig ryfeddol am rannau o'n harfordir.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016

‘Climate change: hope from despair?’ – darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg

Newid hinsawdd fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 20 Tachwedd. Y siaradwr yw Kevin Anderson, Athro Ynni a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019

Cloddfa archeolegol yn agor i'r cyhoedd ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru, ger Rhiw ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn (15-16 Gorffennaf).

Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio ‘Project Meillionydd’ (http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cyer 2010, dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, ac maent yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain (www.archaeologyfestival.org.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017

Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop

Mae athletwraig leol sy’n ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o’r European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl â medal arian yn y ‘snatch lift’ a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016

Codwyr pwysau Bangor yn codi’r bar unwaith yn rhagor

Cafwyd tystiolaeth bellach o enw da Prifysgol Bangor fel cadarnle o ragoriaeth ym maes codi pwysau wrth i’w hathletwyr-fyfyrwyr dorri sawl record ym Mhencampwriaeth y Welsh Seniors yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019

Creadigrwydd hynod – cyhoeddi chwe llyfr mewn tri mis!

Rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni mae staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi cyhoeddi cyfanswm o chwe chyfrol o ysgrifennu creadigol - yn nofelau, storïau byrion a chyfrolau o farddoniaeth – gan ychwanegu at enw da’r Ysgol ym maes ysgrifennu creadigol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018

Creu cymunedau sy’n gefnogol i bobol â dementia yng Ngogledd Cymru

Gwahoddir pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i gefnogi pobl â dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a’r trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i’r cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd.

Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am  ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Croesawu myfyrwyr rhyngwladol i Fangor

Casglodd y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr rhyngwladol o Faes Awyr Manceinion fel rhan o’r gwasanaeth cludo myfyrwyr eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Cydnabod Cyfraniad Oes

Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau 2017 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017

Cyfarwyddwr Newydd i Ganolfan Gelfyddydau Pontio Bangor

Mae Osian Gwynn wedi ei gyhoeddi'n Gyfarwyddwr newydd ar Celfyddydau Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015.

Yn frodor o Lanelli, cafodd Osian Gwynn ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio i gwmni Cyfathrebu Cambrensis yng Nghaerdydd, cyn astudio gradd Feistr mewn Perfformio Lleisiol yng ngholeg y Guildhall School of Music and Drama, yn Llundain. Gweithiodd fel canwr opera yn unigol ac fel rhan o’r corws i gwmnïau megis Opera Holland Park a Grange Park Opera a theithio ledled Prydain ac Ewrop fel rhan o gynyrchiadau teithiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia

Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘World Alzheimer’s Month’ ym mis Medi (23/09/2019).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith

Mewn menter newydd, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017

Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae

Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae, sef diwrnod sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Cyflymder Sillafu Syfrdanol Disgyblion

Daeth dros 30 o ddisgyblion blwyddyn saith o un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru i Brifysgol Bangor  yn ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Spelling Bee Genedlaethol Cymru - Llwybrau at Ieithoedd, project cydweithredol rhwng pum prifysgol yng Nghymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a'r Cyngor Prydeinig i hyrwyddo dysgu iaith a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019

Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Mehefin a Medi. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2016

Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Mehefin a Medi. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Cyhoeddi Gŵyl Newid Ymddygiad o bwys

Ystyrir bod newid ymddygiad yn gyfrwng hanfodol bwysig i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau i ymateb i'r newidiadau cyfoes cymdeithasol a demograffig sylweddol rydym yn eu gweld yng Nghymru a thu hwnt. 

Cynhelir Gŵyl Newid Ymddygiad (#BehFest16) bwysig am bythefnos ym Mhrifysgol Bangor rhwng 9-20 Mai. Bydd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf ym maes newid ymddygiad i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwybod am y technegau newid ymddygiad hyn a'u rhoi ar waith er budd eu sefydliadau neu'r cyhoedd yn gyffredinol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016

Cymhwyso gwyddoniaeth!

Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017

Cyn-fyfyrwyr yn ymweld â Safle’r Santes Fair 60 mlynedd ers dechrau yno

Bu 13 o gyn-fyfyrwyr yn ymweld â phentref llety Santes Mair ar ei newydd wedd yn ddiweddar. Yn ogystal â mwynhau hel atgofion am yr hen ddyddiau, roeddent hefyd wrth eu bodd yn gweld sut mae'r safle wedi cael ei ddatblygu'n ddiweddar gan y brifysgol.

Roedd y grŵp o ffrindiau i gyd yn gyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Santes Fair, Coleg Hyfforddi Athrawon, a ddaeth yn rhan o Brifysgol Bangor yn ddiweddarach.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2017

Cyngerdd sy’n dangos cysylltiad Prifysgol Bangor gyda’r Dwyrain a gwaith arbennig perfformwyr a chyfansoddwyr

Bydd cyngerdd yn Stiwdio Pontio nos Iau yma, 11 Ebrill 7.30pm yn dod â dau ddiwylliant gwahanol at ei gilydd gan ddangos cyfoeth y dalent sydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.


Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019

Cynhadledd am Gyfieithu Barddoniaeth

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2018

Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru

Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Cynnal cystadleuaeth Sboncen Merched y PSA yn y Brifysgol am y tro cyntaf

Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, fydd y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth sboncen merched y PSA (Professional Squash Association) yr wythnos hon – y gystadleuaeth gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y Brifysgol a’r gyntaf hefyd i’w chynnal yng Nghymru. Gan ddechrau ar ddydd Mercher 20 Mehefin, bydd y brwydro dwys dros bum niwrnod yn arwain at gêm derfynol y gystadleuaeth, a gwobr o $5000, i’w chynnal ddydd Sul.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018

Cynnal y Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru

Daeth tua 90 o athrawon ysgol ynghyd i’r Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru a drefnwyd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad Pontio’r Brifysgol, yn canolbwyntio ar y project unigol yn y  cymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig, y mae’n rhaid i bob ysgol a choleg yng Nghymru ei  gyflwyno fel rhan o'u cwricwlwm.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. 

Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau

Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.  

Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Darlithydd Saesneg yn wreiddiol o’r Almaen yn derbyn tlws arbennig am ddysgu Cymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae darlithydd Saesneg o Brifysgol Bangor, Dr Karin Koehler, wedi ennill tlws Basil Davies am ei llwyddiant yn yr arholiad Cymraeg i oedolion CBAC.  Dyfarnwyd y wobr i Karin, sy’n wreiddiol o’r Almaen, ar ôl iddi hi lwyddo i dderbyn y marc uchaf trwy Gymru gyfan yn yr arholiad Canolradd CBAC.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019

Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant

Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydlu’r Early Intervention Foundation, yn traddodi darlith dan y teitl “Early Intervention - why leave it so late?” nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau), Prifysgol Bangor. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlith gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018

Dathliad Cyflogadwyedd 2019

Cynhaliwyd Dathliad Cyflogadwyedd yn Pontio ar nos Fawrth, Ebrill 30ain i longyfarch ac arddangos llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a chynlluniau interniaeth y Brifysgol, ac wedi arddangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygu eu cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019

Dathlu Diwrnod Ewrop

Ar 9 Mai, bydd Prifysgol Bangor yn dathlu Diwrnod Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018

Dathlu Diwrnod Mamiaith rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor

Ar ddydd Mercher y 21ain o Chwefror, bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu ‘Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol’.

Gyda myfyrwyr o bron 90 gwlad yn y Brifysgol, roedd y diwrnod yn dathlu’r amrywiaith ieithyddol ym Mangor, gyda myfyrwyr o draws y byd yn hyrwyddo a rhannu eu ieithoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017

Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae 2019

Gyda’r Diwrnod Shwmae Su’mae bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15).

Nod Diwrnod Shwmae Su’mae yw hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a’n myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o’r Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Dewch i ddarganfod y byd ffermio yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes

Ddydd Sul, 11 Mehefin 2017 bydd Canolfan Ymchwil Henfaes (Fferm Prifysgol Bangor) ger Abergwyngregyn (LL33 0LB) yn agor ei giatiau i ymwelwyr ar gyfer Fferm Agored LEAF i arddangos y byd ymchwil amaethyddol ochr yn ochr â'r byd ffermio defaid masnachol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2017

Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.

Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol

Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol.

Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018

Digwyddiad #ITSFORUS

Ymunwch â Myfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd a Source to Sea Productions i ddigwyddiad sy'n dathlu beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth amgylcheddol!  Yn y digwyddiad #itsforus ceir stondinau, pethau i'w rhannu am ddim, gemau llawn hwyl a dangosiad cyntaf ffilm fer sy'n sôn am y ffordd y gellwch arbed arian a'r blaned!

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2018

Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol

Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018

Disgyblion yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan mewn project Cymru gyfan

Daeth dros 150 o ddisgyblion o wyth ysgol yng ngogledd Cymru i Brifysgol Bangor i ddathlu trydedd flwyddyn lwyddiannus y project Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern. Nod y project hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u cynllun Dyfodol Byd-eang, yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru. Yr ysgolion a oedd yn bresennol oedd Tryfan, Emrys ap Iwan, Y Rhyl, Friars, Dyffryn Ogwen, Argoed, Caergybi a Glan-y-Môr.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Disgyblion yn derbyn gwobrau Ieithoedd Modern

Bu tua 150 o ddisgyblion 13-14 oed yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i dderbyn gwobrau ar ôl cymryd rhan yn y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, sy'n dangos i ddisgyblion ysgol pa mor fuddiol yw astudio ieithoedd tramor, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU.

Mae’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (Gwe), Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Bangor, Sefydliad Confucius Bangor, y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru a Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru wedi cyflwyno cyfres o areithiau ysgogol a sesiynau blasu Mandarin, Galisieg ac Iaith Arwyddion.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017

Disgyblion yn mynd ar daith Arthuraidd

Mae disgyblion o Ysgol Aberconwy wedi bod ar daith ‘Arthuraidd’, i ymchwilio’r grefft o ddweud stori.

 hithau’n ‘Flwyddyn Chwedlau’ Cymru, gwahoddwyd nifer o ddisgyblion Ysgol Aberconwy i gymryd rhan ym mhroject Cwest gan Ganolfan Astudiaethau ArthuraiddPrifysgol Bangor, er mwyn datblygu anturiaethau digidol cyfoes.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018

Disgyblion Ysgol Bro Lleu i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Bydd disgyblion yn defnyddion eu cyrff fel offerynnau i greu cyfansoddiadau eu hunain yn mewn gŵyl lwyddiannus yng Ngogledd Cymru.

Gwahoddwyd disgyblion 9 a 10 oed o Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gymryd rhan bwysgig yng Ngŵyl Gerdd Bangor fydd yn cymryd lle ar yr 8fed a 9fed o Chwefror 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2019

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo sesiynnau tynnu llun galw i mewn

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 14 o Fai rhwng 11yb i 3yp.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016

Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Draig wedi ei gweld ar Stryd Fawr Bangor!

 Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, cynhaliwyd Gorymdaith y Ddraig flynyddol ym Mangor ddydd Sadwrn. Wedi ei wneud â llaw yn Tseina, gorymdeithiodd y ddraig 14 metr o hyd, ynghyd â dawnswyr, drymwyr a disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes Bangor o Eglwys Gadeiriol Bangor ar hyd y Stryd Fawr i Gloc y Dref cyn dychwelyd i'r Eglwys Gadeiriol. Dilynwyd yr orymdaith gan Berfformiad Gala Tsieineaidd yn yr Eglwys Gadeiriol lle clywyd perfformiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol Tseineaidd amrywiol, yn ogystal â gweld dawnsfeydd traddodiadol Tseineaidd a pherfformiad gan grŵp Taekwondo Bangor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.

Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015.

Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016

Drysau Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor

There will be an opportunity for the public to visit Brambell Natural History Museum as part of the Open Doors events on Saturday 28 September 2019.

The Open Doors events gives the public the opportunity to have a look at some of Gwynedd and Conwy’s historical buildings, gardens and interesting and unusual locations all for free throughout September.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019

Drysau’n agored i Brif Adeilad Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael trosolwg ar hanes Prif Adeilad Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 14 Medi 2019.

Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2019

Drysau’n agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 24 Medi.

Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2016

Dweud eich dweud, a helpu i ffurfio degawd nesaf iechyd a llesiant yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eisiau clywed eich barn am yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i helpu pobl i osgoi salwch corfforol a meddyliol. Gwneir y gwaith hyn ar y cyd efo Prifysgol Bangor.

Mae pawb yng Nghymru’n cael eu hannog i ymweld â www.staywellinwales.com i ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw, eu ffrindiau a’u cymunedau, a’r hyn fydd, yn eu barn nhw, yn helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a hwy.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017

Dwylo’n dweud

Yn dilyn cynhadledd flynyddol Clust i wrando … (2017) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ym mis Mehefin y llynedd ac ar sail awgrymiadau’r cynadleddwyr, sefydlwyd cynllun i gyflwyno dull arwyddo’r byddar (British Sign Language) i holl blant Cylchoedd Meithrin Cymru (Y Mudiad Meithrin). Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2018

Dychwelliad y Ddraig

Ffrindiau'n trefnu gŵyl i godi arian i gefnogi darlithydd a gafodd anaf i'r ymennydd ac i'r Ardd Fotaneg sydd mor hoff ganddi.

Ar y 8fed o Fehefin, bydd gerddi botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth yn llawn cerddoriaeth wych ar dair llwyfan, bwyd llysieuol blasus, plant yn crwydro'r coetiroedd a'r dolydd hynafol, teuluoedd yn dysgu drymio a dawnsio gyda'i gilydd, a llawer mwy. Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan ffrindiau a chydweithwyr Dr Sophie Williams, cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor a gontractiodd lid yr ymennydd Japaneaidd tra oedd hi ar waith maes yn Tsieina yn 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2019

DYDDIAD NEWYDD: Dathlu dawn Dilys Elwyn Edwards yn Pontio ar Ddydd Gwyl Dewi

DIWEDDARIAD: Yn anffodus, mae’n rhaid i ni eich hysbysu o newid yn nyddiad y cyngerdd uchod oherwydd salwch. Yn anffodus, mae’n amhosib i Elin Manahan Thomas ganu oherwydd haint ddifrifol ar y frest.

Serch hynny, rydym wedi medru ail-drefnu’r gyngerdd a’r dyddiad newydd fydd Nos Sadwrn 27 Ebrill am 7.30pm.

Rydym wrthi’n cysylltu â chwsmeriaid i gyfathrebu’r wybodaeth uchod. Bydd tocynnau yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd.  Os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus, bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad a dylech ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019

Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen

Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017).

Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017

Dyfodol ffermio mynydd tu hwnt i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfleoedd yn ogystal â sialensiau i ffermwyr mynydd Cymreig. Dyna neges trefnwyr cynhadledd lle bydd ffermwyr, academyddion, cyrff cadwriaethol a swyddogion o'r llywodraeth yn dod at ei gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol polisi defnydd tir yn ucheldiroedd eiconig Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2017

Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth

Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017

Dysgwyr Cymraeg yn cyrraedd y brig

Mae tair o ddysgwyr darpariaeth Dysgu Cymraeg y Gogledd Orllewin wedi ennill gwobr goffa Basil Davies mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Llwyddodd Daniela Schlick, Rebecca Bateson a Karin Koehler i gael y marciau uchaf trwy Gymru gyfan yn eu arholiadau dysgu Cymraeg dros yr Haf.   

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2018

E-goeden gyda dail solar yn teithio i ŵyl Glastonbury

Bydd y rhai sy’n mynd i ŵyl Glastonbury eleni yn cael cyfle i weld e-goeden yn y  stondin ‘Rhyfeddodau Cudd y Goedwig’.

Cynhyrchwyd yr ‘e-goeden’ gan Dr Andy Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Nigel Fisher, Ceidwad Coedydd Wytham, a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen. Bydd yr e-goeden yn ffurfio rhan o’r sioe deithiol ‘Sex & Bugs & Rock 'n Roll’  a grëwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Lancaster, ac a hyrwyddir gan y British Ecological Society, fel ffordd o ddod â gwyddoniaeth i’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2017

Enwebu Prifysgol Bangor am dair wobr yn dilyn cydweithio â busnesau

Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau Business and Education Awards y cwmni cyhoeddi Wales Business Insider a gynhelir yng Nghaerdydd ar 3 Tachwedd. Nod y gwobrau hyn yw tynnu sylw at y cydweithio llwyddiannus sy’n digwydd rhwng sefydliadau addysg Cymru ac economi’r wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Estyn cymhellion ariannol i ddenu athrawon newydd

Mae staff yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i flwyddyn academaidd 2019-20.

Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019

EwrOlwg: Sut mae eraill wedi gweld Cymru

Ydych chi erioed wedi ystyried sut mae eraill yn ein gweld?

Bydd arddangosfa gyhoeddus newydd, sydd yn defnyddio ymchwil o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, yn edrych ar sut mae ymwelwyr o Ewrop - yn cynnwys fforwyr, twristiaid a ffoaduriaid - wedi edrych ar Gymru ers canol y ddeunawfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2016

Ffair Swyddi yn lwyddiant

Cynhaliwyd Ffair Swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar (28/09/16) yn Neuadd PJ ym Mhrifysgol Bangor. Cafwyd dros 45 o stondinau gyda chyflogwyr graddedigion, cwmnïau lleol a gwasanaethau gwirfoddol yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl

Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

FFIT Cymru yn ôl am ail gyfres – a Mared yn arwain y ffordd!

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019

Ffordd Pawb/ Coherent Connections- project arloesi yn dod i Fangor

Mae myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project rhyngwladol arloesol a all ddarparu atebion newydd creadigol i broblemau modern cymhleth a wynebir ym Mangor, yn ogystal â chymunedau eraill. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Gala Un Byd yn dathlu doniau

Cafodd dros 400 o fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol gyfle i flasu traddodiadau diwylliannol y byd yn nathliad blynyddol Prifysgol Bangor o amrywiaeth a doniau.

Yn y Gala Un Byd cafwyd ugain o eitemau’n cynrychioli sawl cwr o’r byd, a berfformiwyd gan fyfyrwyr unigol a chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr, ynghyd â grwpiau gwadd lleol. Cafwyd eitemau’n amrywio o ganeuon o Tonga, drymiau o Ghana, canu gwerin Cymreig a chrefft ymladd Siapaneaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Gavin yn cael ei ddewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru

Wrth i baratoadau Bale, Ramsey, Hennessey a gweddill carfan bêl-droed Cymru fynd rhagddynt ar gyfer pencampwriaeth UEFA Ewro 2016 yn Ffrainc eleni, bydd un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Gavin Lloyd-Jones, hefyd yn awyddus i ganfod cefn y rhwyd fel aelod o dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2016

Grant gan Academi Frenhinol ar gyfer y ‘Photo-Electric Light Orchestra’

Mae project arloesol gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chanolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol wedi sicrhau grant gwerth £30,000 gan y Royal Academy of Engineering fel rhan raglen 'Ingenious' yr Academi - rhaglen sy'n mynd ati i ymgysylltu'r cyhoedd gyda pheirianneg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019

Gwaith yn dechrau ar gae 3G bob-tywydd

Mae’r gwaith wedi dechrau ar greu cae 3G bob-tywydd newydd ar safle Prifysgol Bangor yn Nhreborth.

Bydd y cae yn darparu cyfleusterau rygbi a phêl-droed drwy gydol y flwyddyn i dimau myfyrwyr yn ogystal â bod ar gael i'w llogi gan y gymuned leol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019

Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor

Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr.

Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol.

Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019

Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor

Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i  agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.   

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor

Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i  agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.   

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

Gwnewch bopeth – gan gynnwys nofio â siarcod ‘rhithwir’ – yn Gymraeg!

Mae’n debyg mai "Ocean Rift", un o raglenni Profiad Realiti Rhithwir (VR) mwyaf poblogaidd y byd, yw’r rhaglen gyntaf i fod ar gael yn y Gymraeg ar gyfer unrhyw benwisg Profiad Realiti Rhithwir (VR).

Ocean Rift, a grëwyd gan Dr Llŷr Ap Cenydd, Darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, oedd un o’r rhaglenni cyntaf i’w ryddhau a’i lansio ochr yn ochr â dyfais symudol Samsung Gear VR, ac mae wedi datblygu i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, gydag oodeutu 2.5 miliwn o lawrlwythiadau ers 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Gwobrau'r Uchel Siryf i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn y gymuned

Cyflwynwyd Gwobrau'r Uchel Siryf i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor am eu hymroddiad eithriadol i wirfoddoli dros eu cyfnod yn y Brifysgol. Cynhaliwyd y seremoni fawreddog ym mhresenoldeb y Canghellor, yr Is-Ganghellor a Chyngor y Brifysgol dan arweiniad Peter Harlech Jones, Uchel Siryf Ynys Môn a Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016

Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor

Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina.

Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC

Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC yn ôl ym Mangor am ei hail flwyddyn. Mae’r wythnos o ddathlu gwyddoniaeth gymdeithasol yn digwydd yn flynyddol ar draws y DU. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd, mae Prifysgol Bangor eto eleni yn cynnal dau ddigwyddiad  er mwyn ymuno â’r dathliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Gŵyl Hanes yn dod i Fangor

Bydd yr haneswyr blaenllaw David Starkey, Lucy Worsley, David Olusoga a Trevor Fishlock a welir yn rheolaidd ar y teledu yn ymuno ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac o ledled y DU i gymryd rhan yn yr Ŵyl Hanes gyntaf a gynhelir ym Mangor ar 25 a 26  Hydref 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019

Gŵyl Treborth yn codi dros £17,000 i Sophie

Croesawodd Gardd Fotaneg Treborth Ŵyl Gerdd Draig Beats yn ddiweddar, er mwyn codi arian ar gyfer addasiadau angenrheidiol i gartref Sophie Williams. Roedd Sophie yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn gadwraethwr angerddol, ond mae hi wedi’i pharlysu ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, dair blynedd yn ôl wrth gynnal ymchwil yn Tsieina.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018

Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai

Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi.

Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru.  Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Bangor.  Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Hanesion Cudd

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol archebu lle mewn ysgol undydd Hanesion Cudd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd. 

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Prifysgol Bangor.   

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats

Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl.

Eu syniad ar gyfer codi arian yw cynnal gŵyl undydd, Draig Beats, gan roi cyfle i bawb oedd eisiau bod o gymorth i gydweithio.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Hwb ariannol i brosiect mentora iaith

Mae prosiect i godi proffil ieithoedd tramor modern wedi derbyn arian estynedig gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd disgyblion mewn mannau gwledig yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2017

Hwyluso'r ffordd o wneud ewyllys

Ddydd Llun, 9 Hydref, bydd Comisiwn y Gyfraith Lloegr a Chymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor i ymgynghori â'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru sut orau y dylid mynd ati i ddiwygio'r gyfraith ar wneud ewyllys.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017

#IWD2019 ym Mhrifysgol Bangor

Ar 8 Mawrth, ymunodd Prifysgol Bangor yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 (#IWD2019) trwy gynnal digwyddiad cyffrous a oedd yn amlygu gyrfaoedd a chyfraniadau menywod mewn swyddi arweinyddiaeth ym Mangor a'r cyffiniau, yn ogystal â darparu fforwm ledled y Brifysgol ar gyfer trafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb rhyw sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor

Mae Athro o Brifysgol Bangor yn Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig BangorCaiff yr arddangosfa, map ac ap sy'n olrhain hanes Iddewig Bangor ei lansio y mis yma.

Teitl yr arddangosfa a'r map yw Hanes Iddewig Bangor, ac mae'n dathlu hanes yr Iddewon ym Mangor o'r canoloesoedd hyd at yr Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019

Llwyddiannau ein llenorion yn Eisteddfod Sir Conwy

Bu’n wythnos i’w chofio i Brifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod eleni gyda rhai o brif wobrau llenyddol yr ŵyl yn cael eu cipio gan uniogolion sydd â chyswllt agos â’r sefydliad.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2019

Llwyddiant a chynabyddiaeth i Aelwyd JMJ

Mae Aelwyd John Morris-Jones, cymdeithas gorawl neuadd breswyl myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, wedi ennill gwobr genedlaethol yng ngwobrau’r National Societies Awards 2019. Dyfarnwyd tlws y ‘Best Arts Society’ i’r gymdeithas mewn seremoni ym Manceinion yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2019

Mae Gorllewin Cymru'n suo gan Sillafwyr Sydyn

Yn ddiweddar daeth 90 o ddisgyblion blwyddyn 7 o 30 o ysgolion ynghyd i gystadlu yn seithfed rownd derfynol genedlaethol flynyddol Cystadleuaeth Spelling Bee Llwybrau at Ieithoedd, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth disgyblion o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli'r holl ranbarthau sy'n ymwneud â Llwybrau at Ieithoedd, ynghyd i gystadlu am un o bedwar teitl Pencampwr Cystadleuaeth Genedlaethol Spelling Bee 2017, mewn naill ai Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Gymraeg ail iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017

Medal Efydd i Tesni!

Mae Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, wedi ychwanegu medal Efydd at gyfanswm cyfredol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, drwy drechu Nicol David o Malaysia mewn gornest wefreiddiol ar yr Arfordir Aur.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018

Modernists & Mavericks’: darlith gyhoeddus gan feirniad celf blaenllaw

Bydd y beirniad celf blaenllaw, Martin Gayford, yn trafod Bacon, Freud, Hockney ac arlunwyr Llundain ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 12 Mehefin am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac mae croeso i bawb ddod i'r ddarlith, 'Modernists and Mavericks: Bacon, Freud, Hockney and the London Painters'.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019

M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’

Sefydlwyd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.  Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae’r cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y lôn!

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd yn Amlwch

Wrth i ni edrych ymlaen at Bencampwriaeth Euro 2016, mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi bod yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd sbon yn Amlwch mewn cyfres newydd ar S4C.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2016

Myfyrwyr rhyngwladol yn troi’n wyrdd- Glanhau’r Traeth 2018

Bu tîm o 50 o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn glanhau’r traeth yng Nghricieth yn ddiweddar. Trefnwyd y fenter gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor ar y cyd efo  Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, fel rhan o broject cynaliadwyedd y Swyddfa Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018

Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl

Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018

Mynd i’r afael â thlodi bwyd

Bu tri aelod o staff Prifysgol Bangor yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru (NWFPA) yng Nghanolfan OpTIC  Llanelwy yn ddiweddar.

Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd yn ford gron a nifer o sectorau’n aelodau o dan gadeiryddiaeth Cyngor Sir Fflint. Nod y Gynghrair yw mynd i’r afael â’r heriau lu sydd o ran tlodi bwyd yn y gogledd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018

Noson yng Nghwmni’r Prifardd Guto Dafydd

Nos Fercher, 26 Hydref, am 6.00 o’r gloch yn Narlithfa 2 Pontio – y drws nesaf i fwyty Gorad – bydd y Prifardd Guto Dafydd yn cael ei holi am ei nofel fuddugol Ymbelydredd. Hon yw’r nofel a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni fis Awst a hynny gyda chanmoliaeth uchel y beirniaid. Un o’i gyn-ddarlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Yr Athro Angharad Price, a fydd yn ei holi am ei nofel ddiweddaraf a’i yrfa lenyddol hyd yma. Bydd hon felly’n sgwrs rhwng dau nofelydd llwyddiannus. Trefnir y noson gan Ysgol y Gymraeg, mae’r mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb - gellir cael tocynnau o swyddfa docynnau Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2016

Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’

Bydd syniadau arloesol ar sut i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned yn cael eu rhannu mewn Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’ nos Fercher 25ain o Hydref, 6.30-8yh, yng Nghanolfan Popdy Menter Iaith Bangor, Lôn Bopty, Bangor.

Yn ystod y drafodaeth bydd arbenigwyr sydd yn ymwneud â hybu’r Gymraeg yn gymunedol, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn rhannu syniadau newydd sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol a busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017

Pedwar allan o bedwar i Brifysgol Bangor yn Rownd Derfynol y Gwobrau Green Gown

Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Green Gown 2016 gyda phob un o'i phedwar cynnig.   Hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r brifysgol ymgeisio am y gwobrau pwysig hyn, a gynhelir gan The Environmental Association for Universities and Colleges (EAUC).  Mae'r Brifysgol yn ymuno â dros 100 o sefydliadau eraill yn y rownd derfynol, yn cynrychioli oddeutu 1.5 miliwn o fyfyrwyr a bron chwarter miliwn o aelodau staff, sy'n manteisio ar gynlluniau cynaliadwyedd arloesol mewn addysgu, arweinyddiaeth, ymchwil a bywyd myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016

Pen-blwydd Ymgyrch Common Voice Cymraeg yn Un Oed

Heddiw (dydd Gwener 7 Mehefin, 2019) mae’n flwyddyn gyfan ers lansio’r ymgyrch Common Voice Cymraeg ( http://voice.mozilla.cy). Mae Common Voice yn llwyfan torfoli a ddatblygwyd gan gwmni meddalwedd rhyngwladol Mozilla, ac yn ymdrech i gasglu recordiadau llais o nifer o ieithoedd y byd ar gyfer creu technoleg lleferydd cod agored yn yr ieithoedd hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin

Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol Bangor sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018

Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018

Penrhos: darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar deulu Stanley o Gaergybi

Bydd teulu Stanley o Benrhos, Caergybi yn ganolbwynt darlith gyhoeddus ddiddorol ym Mhrifysgol Bangor gan yr hanesydd lleol amlwg, Dr Gareth Huws.  Yn dwyn y teitl 'Penrhos: powerful women and the curious tale of a knight, a lord and an “honourable"’, cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 9 Hydref am 5.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2019

Perfformiad o Chongqing yn hybu cysylltiadau Cymru-Tsieina

Er mwyn meithrin cysylltiad Cymru â Chongqing yn ne-orllewin Tsieina, fe wnaeth Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ddod â Chwmni Perfformio Chongqing i Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn gynharach yr wythnos hon (1 Tachwedd), lle buont yn cyfareddu'r gynulleidfa gyda pherfformiad syfrdanol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd. 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017

Pob Can yn Cyfri ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor am wella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr 11,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff drwy ymuno â “Pob Can yn Cyfri”.

Cyflwynodd y Brifysgol finiau ailgylchu ‘Pob Can yn Cyfri’ mewn wyth lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ailgylchu caniau diod tra eu bod ‘ar fynd’. 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2019

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig.

Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Poorer children priced out of learning instruments but school music programmes benefit the wider community

Dyma erthygl yn Saesneg gan Eira Winrow, Myfyrwraig PhD a Swyddog Cefnogi Ymchwil  a Rhiannon Tudor Edwards, Athro Economeg Iechyd yng Nghalonfal Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2018

Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru

Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru.

Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2019

Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth

Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd

Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes. Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016

Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon

Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn cyhoeddi enwau’r unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol eleni.

Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i’w meysydd penodol.

Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio’r Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Prifysgol Bangor yn cynorthwyo gydag adolygu Lefel A Addysg Gorfforol

Daeth 25 o ddisgyblion lefel A o  Ysgolion Ynys Môn, Ysgol Tryfan, Ysgol Friars, Ysgol y Berwyn ac Ysgol Syr Hugh Owen at ei gilydd i gymryd rhan mewn diwrnod adolygu Addysg Gorfforol ddwyieithog ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016

Prifysgol Bangor yn Dathlu Diwrnod Ewrop 2019

Ar 9 Mai bydd y Brifysgol, ynghyd â llawer iawn o sefydliadau eraill ar draws y DU ac Ewrop, yn nodi Diwrnod Ewrop gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn dathlu’r diwrnod hwn i nodi cyhoeddi Datganiad Schumann a wnaed yn 1950, sy’n cael ei ystyried fel un o’r camau cyntaf swyddogol yng nghreadigaeth yr Undeb fel y mae hi heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Brydeinig

Prifysgol Bangor  yw’r orau ym Mhrydain am ei darpariaeth o Glybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr a’r drydedd Brifysgol orau ym Mhrydain yn ôl gwobrau Student Choice Awards 2017, gyda’r enwebiadau’n seiliedig ar adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017

Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Rhif 6

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner. Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn lansio Ystafelloedd Dosbarth Confucius

Bu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu lansiad swyddogol pum ystafell ddosbarth Confucius newydd yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru a'r Llysgenhadaeth Tsieineaidd yn bresennol ynghyd â phlant ysgol lleol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017

Prifysgol Bangor yn sicrhau cyllid ar gyfer pum Ystafell Dosbarth Confucius

Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill grant ar gyfer pum Ystafell Ddosbarth Confucius mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Dim ond cyllid ar gyfer cyfanswm o 60 ystafell ddosbarth a ddyfarnwyd ledled y byd eleni.

Menter gan Hanban, asiantaeth ddiwylliannol Tsieina, yw Ystafelloedd Dosbarth Confucius ac maent wedi eu lleoli mewn ysgolion a cholegau ar draws y byd. Eu bwriad yw bod yn ganolfannau lleol i ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu arloesol ym maes iaith a diwylliant Tsieina ar draws cymunedau. 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2016

Prifysgol Bangor yn Taflu Goleuni ar Ferched mewn Cerddoriaeth

Eleni bydd Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth. Cynhelir y Gynhadledd ar 4 - 6 Medi, a bydd y Brifysgol yn croesawu siaradwyr a cherddorion blaenllaw, gan gynnwys ysgolheigion, ymarferwyr, cyllidwyr, darlledwyr, newyddiadurwyr a bobl broffesiynol o'r maes cerddorol o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019

Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet, y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019

Project arloesol Prifysgol Bangor yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle

Mae project arloesol a luniwyd ar y cyd gan Ganolfan Bedwyr ac ymchwilwyr Newid Ymddygiad yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle wedi derbyn sylw arbennig gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2018

Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017

Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau

Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project  yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi  arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi  a fu’n  cymryd rhan.

Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI)  a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME),  gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1  a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018

Project Profi ar Restr Fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru

Mae Profi, project dysgu drwy brofiad a mentora sy'n rhoi cefnogaeth i ddisgyblion blwyddyn 12 ysgolion uwchradd Ynys Môn a Gwynedd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru.

Mae Profi yn rhoi hwb i hyder ac yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy a hunan-barch drwy gyfrwng cyfres o weithdai wythnosol gyda'r nod o gynnig nifer o brofiadau gwahanol i'w helpu i ehangu eu gorwelion.  Mae'r project wedi bod yn cael ei redeg yn llwyddiannus am bum mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2018

Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl

Mewn byd lle mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o'n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy'n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno.  Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno.  Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016

Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2018

Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc

Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018

Rhaglen arloesol i helpu pobl oedrannus i gael mynediad at ofal arbenigol yn derbyn canmoliaeth uchel mewn wobrau gofal iechyd

Mae rhaglen arloesol sy'n defnyddio technoleg fideo i helpu pobl fregus ac oedrannus mewn cymunedau gwledig i gael mynediad at apwyntiadau gydag ymgynghorwyr wedi derbyn canmoliaeth uchel mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2016

Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd

Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Rhoi amlygrwydd i gyfleoedd gyrfa ym maes Gwyddorau Môr ym Mhrifysgol Bangor

Cynhaliodd Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor ei ffair yrfaoedd flynyddol i dynnu sylw at y potensial enfawr o swyddi yn y sector môr, un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn economi'r Deyrnas Unedig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2018

Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd.

Bydd ‘Poverty: Local, National and International’ yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut  mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas sy’n digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

Rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithio ar lannau o amgylch gwledydd Prydain yn yr haf eleni

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau arbennig y mis nesaf gydag aelodau o'r cyhoedd yn dod ynghyd i lunio darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.

Bydd gwyddonwyr yn gweithio gyda byddin hyfforddedig o 'wyddonwyr lleyg' yn ystod penwythnos "CoCoast Unite" a gynhelir rhwng Diwrnod Cefnfor y Byd, ddydd Iau 8 Mehefin a dydd Sul 11 Mehefin mewn lleoliadau ledled gwledydd Prydain. Bydd yr alwad hon i'r gad yn casglu gwybodaeth hanfodol am amrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau rhynglanwol sy'n byw ar ein glannau môr creigiog. Traeth Moelfre yn un o'r lleoliadau ledled gogledd Cymru a gwledydd Prydain lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn project "gwyddoniaeth leyg" er mwyn creu darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2017

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017

Sefydliad Confucius yn ymuno â Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia

Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod.

Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019

Staff a myfyrwyr Bangor yn cael profiad o Hyfforddiant Sgiliau Niwclear

Horizon Nuclear Power (a wholly owned subsidiary of Hitachi Ltd), is currently looking to invest over £10bn in a new nuclear power station at their Wylfa Newydd site, Northern Anglesey.  It will provide 2,700MW of new power station capacity to the UK, enough to power around 5 million homes. Given its proximity to the University, Bangor University and Horizon have signed a Memorandum of Understanding which will enable both organizations to collaborate and work more closely together in future years.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016

Staff a myfyrwyr yn dangos brwdfrydedd dros ymuno â chyrsiau iaith arwyddo

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ymuno â chyrsiau iaith arwyddo sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol.

Gwnaed y penderfyniad i gyflwyno nifer o gyrsiau Ymwybyddiaeth Byddardod a Chyflwyniad i Iaith Arwyddo Prydain (BSL) 10 wythnos o hyd i staff a myfyrwyr gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2016

SYMUD - Rhoi Ymchwil ar Waith

Bellach gall cleifion hemodialysis wneud mwy o ymarfer corff wrth dderbyn triniaeth i achub bywyd, diolch i wefan newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ymarfer corff.

Mae'r Ffisiolegwyr Ymarfer, Dr Jennifer Cooney a Dr Jamie Macdonald o Ganolfan PAWB Prifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi eu hymchwil ar waith drwy greu SYMUD, gwefan ac adnoddau sy'n helpu pobl sydd â chlefyd yr arennau deimlo'n well trwy symud mwy, er eu bod yn gorfod treulio llawer iawn o amser ar eu heistedd tra maent yn derbyn triniaeth hanfodol i achub bywyd. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019

Syniadau Mawr myfyrwyr Bangor

Mae chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol sy’n hybu a dathlu mentergarwch ymhlith pobl ifanc, a hynny gydag amrywiaeth eang (iawn!) o syniadau busnes. Yn eu plith, busnes darparu clytiau o ddeunydd bambŵ ar gyfer babanod a menter gymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar greu ‘gwestai’ bach i ddraenogod!

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018

Syr Bryn Terfel a Hannah Stone i berfformio yn Pontio, Bangor

Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV (Ebrill 1-7 2018) ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar nos Iau, Chwefror 8fed 2018, am 7.30pm. 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Syrcas a rhythmau pres di-baid yn dod i Pontio

Ar 4 a 5 Tachwedd, bydd y cwmni syrcas o Ffrainc, Circa Tsuica, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf gyda'u sioe Opus 7, cymysgedd o acrobateg a rhythmau pres, yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor. Gan roi blas lleol i'r sioe, bydd Band Jazz Tryfan yn ymuno ag wyth cerddor acrobatig Circa Tsuica ar y llwyfan.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2016

Taflu Goleuni ar ‘Arlunydd Gorau’ Cymru

Eleni, bydd darlith gelf flynyddol T Rowland Hughes Prifysgol Bangor yn dathlu canmlwyddiant geni Syr Kyffin Williams, Cymrawd er Anrhydedd y Brifysgol ac un sy’n cael ei ystyried gan nifer yn bennaf arlunydd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2018

Taith Hanes Hudolus

Dewch am 'Daith Hanes Hudolus' yn Ynys Môn yng nghwmni haneswyr o Brifysgol Bangor ddydd Sul 7 Gorffennaf.

Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn arwain taith wedi ei thywys trwy dirwedd hanesyddol yr Ynys. Dyma gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth yr hanes sydd i'w gael dafliad carreg o'r brifysgol.  Bydd y daith yn mynd â chi i amryw o safleoedd, o feddrodau Neolithig i dai crwn Brythonig-Rufeinig a myntiau canoloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019

‘Taith i’r Gorffennol’ yn rhoi gwedd wahanol ar Gymru i dwristiaid cyfoes

Lansiwyd gwefan newydd sy’n cynnig gwedd anghyffredin ar Gymru gan dwristiaid y gorffennol o’r Almaen a Ffrainc ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Iau 24 Mai).

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2018

Tanio Uchelgais ledled Gogledd Orllewin Cymru - Parc Gwyddoniaeth Menai yn derbyn caniatâd cynllunio llawn

Ar ôl i’r cais cynllunio amlinellol gael ei gymeradwyo’n unfrydol ym mis Mai 2015, mae Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf bellach wedi sicrhau caniatâd cynllunio llawn ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arbennig cyntaf Cymru, a hynny ar Ynys Môn.   Drwy weithio gyda’r Penseiri, FaulknerBrowns Architects a’r prif gontractwyr sydd wedi’u penodi’n ddiweddar, bydd modd cwblhau'r prosiect cyffrous hwn gan Brifysgol Bangor.   Mae M-SParc yn bwriadu gorffen y gwaith adeiladu yn 2017/18.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2016

Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Guided tours of Bangor University’s Art and Ceramic Collections will be held February to April. The aim is to raise awareness of these important collections, with highlights including a mural by Edward Povey in Powis Hall, art and ceramics in the University’s Council Chamber Corridor and a chance to see and learn about works of arts by other renowned artists such as Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast and Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2019

Teithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor ar Dydd Sadwrn 23 o Fehefin. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2018

Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships

Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

The Toddlers who took on Dementia

Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae'n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy'n byw gyda Dementia'n dod ynghyd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018

Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso

Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd.

Er mwyn derbyn preswylwyr newydd i safle Pentref Myfyrwyr y Santes Fair, gweithredir ar y cyd â’r cyngor lleol a’r heddlu system unffordd dros dro ar gyfer traffig sy’n cyrraedd Pentref Myfyrwyr y Santes Fair o gyfeiriad Lôn Bobty.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018

Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso

Gwybodaeth ynghylch llwybrau teithio ar gyger myfyrwyr newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2016

Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol

Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan.

Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth

Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Twf yn nifer y dysgwyr yn y Gogledd-Orllewin

Mae nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn y gogledd-orllewin ar ei fyny gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn cofnodi eu niferoedd uchaf erioed yn 2015/16 – cyfanswm o 3043 o ddysgwyr, sy’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2016

Un Byd ym Mangor

Dychmygwch noson o offerynnau traddodiadol, dawnsfeydd bywiog a lleisiau hyfryd o bob cwr o'r byd.

Dyna a gafwyd yn ddiweddar wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei Gala Un Byd blynyddol, lle mae myfyrwyr a pherfformwyr o’r gymuned leol yn arddangos eu diwylliannau ar gân, dawns a chyda pherfformiadau offerynnol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019

Un Noson, Un Byd!

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Gala Un Byd, dathliad o amrywiaeth diwylliannol, nos Iau 16 Mawrth.

Yn cymryd rhan yn y cyngerdd fydd myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn ogystal â chynrychiolaeth o’r gymuned leol, yn arddangos eu diwylliannau trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Gellir disgwyl perfformiadau o India, Tsieina, Affrica, Siapan, ac wrth gwrs Prydain a Chymru!

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017

Wedi ei ganslo: Sgwrs yn rhagflaenu creu’r mynydd iâ mwyaf erioed

Mae'r sgwrs wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld.

Wrth i arbenigwyr ym meysydd rhewlifoedd, hinsawdd ac eigioneg ddisgwyl am y foment y rhagwelir y bydd silff iâ Antarctig yn torri ac yn creu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd – tua chwarter maint Cymru – mae staff a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarlith ar yr union bwnc hwn gan aelod o'r British Antarctic Survey (BAS).

Bydd yr Athro Hilmar Gudmundsson o’r BAS yn trafod “Ocean-induced thinning of Antarctic Ice Shelves and the impact on the ice flow of the Antarctic Ice Sheet” am 6.00 ar Chwefror 2 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Gall y ddarlith hon, sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr ac academyddion y Brifysgol, fod o ddiddordeb i'r cyhoedd hefyd, o ystyried tynged bresennol y silff iâ Larsen C, sydd o fewn 20 cilomedr o dorri’n rhydd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

‘Why write the history of Wales – then and now?’: darlith gyhoeddus gan hanesydd blaenllaw

Ar adeg pan fo'r cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn bwnc trafod cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amserol ystyried dulliau o ysgrifennu hanes Cymru, yn y gorffennol pell ac yn fwy diweddar.  Bydd yr hanesydd blaenllaw o Gymro, yr Athro Huw Pryce, yn trafod y pwnc hwn ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 25 Mawrth am 6pm, yn Ystafell Ddarlithio 4 Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae croeso i bawb i'r ddarlith, sy'n dwyn y teitl 'Why write the history of Wales – then and now?'.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2019

Wythnos Am Wastraff #WAW18

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.

Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws BywNeuaddau PreswylTai Myfyrwyr, Arlwyo, y Swyddfa RyngwladolCyngor GwyneddSefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff(CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018

Wythnos i’w chofio i Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eleni, gyda’r Gadair, y Goron a gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2018

Y berthynas rhwng Tseina a Chymru yn blodeuo ar lan y Fenai

Ar ei hymweliad â Bangor yn ddiweddar, cafodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AC, gyfle i ddysgu mwy am waith y Sefydliad Confucius yn hyrwyddo iaith a diwylliant Tseina o fewn cymunedau gogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019

Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben

Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Y darlledwr Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor

Bydd y darlledwr adnabyddus Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Tachwedd.  Cynhelir darlith flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, 'Duw a'r Gin-shop: hanes cynnar capeli Cymraeg Llundain', yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio am 6pm.  Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau.  Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd.  A fyddech cystal ag archebu tocynnau a phensetiau cyfieithu drwy Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 382828.  

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017

Y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu ei 10fed Pen-blwydd

Mae’r Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor, a grëwyd drwy brosiect 15m a chyllid Ewropeaidd sylweddol a chyllid allanol arall, yn dathlu ei Phen-blwydd yn 10 mlwydd oed eleni.

Ers ei lansio yn 2008, mae’r Ganolfan wedi perfformio yn well na’r holl dargedau dysgu a swyddi a osodwyd arni gan ei harianwyr Ewropeaidd ac mae gan y Ganolfan weithlu o 71 o staff ar hyn o bryd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2018

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd

Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON

Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon (11 Mai 2016 BBC 2 8.00).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016

Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion.    Fe wnaeth addysgwyrseicolegwyrgwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Ymgais 2019

Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Ymwelydd o Dŷ'r Cyffredin yn dysgu mwy am Ymchwil Bangor

On Friday 15 February Dr Rhinannon Williams, Wales Affairs Specialist for the House of Commons, visited Bangor University and addressed a packed audience of academics and researchers. Dr Williams’ role is to co-ordinate the collection and submission of evidence to the Welsh Affairs Select Committee.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019

Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Yr Arglwydd Mostyn yn ymweld â labordai ymchwil cancr ac elusen yn ymrwymo i gyfrannu cyllid o £400,000

Mae'r Arglwydd Mostyn wedi cyfarfod ag ymchwilwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr blaenllaw yng Ngogledd Cymru sy'n arloesi â datblygiadau ym maes ymchwil a thriniaeth cancr.

Ymwelodd Gregory Mostyn â Sefydliad Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor yr wythnos hon a chyfarfod â Chadeirydd y Sefydliad Dr Edgar Hartsuiker, a'i tywysodd o gwmpas y labordai ymchwil sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016

Ysgolion lleol yn rhannu ‘Straeon Coll’ Bangor mewn gorymdaith syrcas

Bydd pum ysgol leol yn dod at ei gilydd mewn gorymdaith liwgar drwy Stryd Fawr Bangor am 1pm, ddydd Iau 20 Gorffennaf wrth i Pontio agor eu Gwledd Syrcas 2017, sef pob math o weithgareddau syrcas gyfoes dros 9 diwrnod ar ddechrau gwyliau’r haf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Ysgol St Gerard's ar Ben y Fainc!

Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Pen y Fainc eleni, a gynhelir gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.

Caiff y Gystadleuaeth Genedlaethol i rai 14-16 oed ei rhedeg gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad.

Curodd  tîm Ysgol St Gerrard’s naw Tîm arall  i ennill y cyfle i ymweld â'r Adran Cemeg ym Mhrifysgol Loughborough i gymryd rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir ar 29 Ebrill 2017.  

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld arloesi ar waith ym Mhrifysgol Bangor

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â Phrifysgol Bangor ddydd Iau (16 Mawrth), gan fynychu Cynhadledd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ymweld ag Undeb y Myfyrwyr ac Arloesi Pontio Innovation (API) yn adeilad Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017

Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor

Ymwelodd Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth Cabinet Llywodraeth Cymru â Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor yn ddiweddar, i weld enghreifftiau o waith ymchwil cydweithredol y ganolfan.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2018