Newyddion: Awst 2016
Mynd am dro'r penwythnos hwn?
Y penwythnos gŵyl y banc hwn, beth am fynd allan i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o henebion hynafol? Mae llwybrau gwych ar draws Cymru, a gallwch weld ein treftadaeth hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016
Sidan pryf cop: Uwchlens Natur Wyllt
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Bangor a Rhydychen wedi llwyddo i gyflawni camp nas gwelwyd o'r blaen: defnyddio sidan pryf cop fel uwchlens i gynyddu potensial microsgop.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Gweld yr anweledig: defnyddio gleiniau nano i wneud uwchlensys
Mae papur yn Science Advances (12 Awst) yn rhoi prawf o gysyniad newydd, gan ddefnyddio uwchlensys 3D solid newydd i dorri drwy raddfa pethau a oedd ond i'w gweld yn flaenorol drwy ficrosgop. Gan ddangos cryfder yr uwchlensys newydd, mae'r gwyddonwyr yn disgrifio gweld, am y tro cyntaf, y wybodaeth ei hun ar arwyneb DVD Blue Ray. Nid yw'r wyneb sgleiniog hwnnw mor llyfn ag rydym yn ei ddychmygu. Ni all microsgopau presennol weld yr hiciau sy'n cynnwys y data - ond nawr datgelir hyd yn oed y data ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2016