Newyddion: Ebrill 2017
Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib
Mae'r tîm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol. Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol Bangor
Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Cynhadledd PVSAT 13 (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig. Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017