Newyddion: Awst 2017
Datblygu paciau cefn bychain i wenyn
Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy’r tirlun yn datblygu’n dda yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi drônau bach i’w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Deall ein Moroedd
Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion , Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2 , yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017
Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017