Bwrsariaeth Cyfrifiadureg £1,500 ar gyfer Medi 2019
Mae ein hisraddedigion yn ganolog i bopeth yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, ac rydym yn awyddus i barhau i dyfu a helpu rhagor o raddedigion i fynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus a chyffroes ym maes peirianneg. Fel rhan o’r twf hwn rydym yn cynnig bwrsariaeth Cyfrifiadureg arbennig o £1,500 ar gyfer myfyrwyr a wnaeth cais cyn dyddiad cau UCAS i astudio ar y cwrs cyfrifiadureg i israddedigion ym mis Medi 2019.
Mae’r telerau ac amodau llawn ar gyfer y fwrsariaeth Cyfrifiadureg ar gyfer mynediad yn 2019 wedi eu nodi isod:
I fod yn gymwys am fwrsariaeth Cyfrifiadureg gwerth £1,500 mae’n rhaid eich bod
- yn fyfyrwyr newydd, blwyddyn gyntaf o’r Deyrnas Unedig sy’n gwneud cais am gwrs cymwys llawn-amser o fewn Cyfrifiadureg ar gyfer mis Medi 2019
- wedi gwneud cais am gwrs cymwys o fewn Cyfrifiadureg erbyn dyddiad cau UCAS ar 15 Ionawr, 2019.
- wedi dewis cwrs o fewn Cyfrifiadureg ym Mangor fel eich dewis pendant drwy UCAS erbyn 8 Mehefin 2019, fan bellaf.
- wedi cael eich derbyn ar gwrs cymwys o fewn Cyfrifiadureg ar gyfer mis Medi 2019.
* Yr unig gwrs NAD yw'n gymwys ar gyfer bwrsariaeth Cyfrifiadureg yw'r cwrs BSc Technolegau Creadigol.
I dderbyn y Fwrsariaeth Cyfrifiadureg o £1,500 ar gyfer 2019, mae’n rhaid eich bod
- yn cyflawni pob un o’r meini prawf uchod.
- yn cofrestru ar gwrs cymwys israddedig llawn-amser o fewn Cyfrifiadureg ar gyfer Medi 2019, a
- yn mynd ymlaen gyda eich astudiaeth ar gwrs cymwys llawn-amser o fewn Cyfrifiadureg yn ystod y flwyddyn academaidd 2019/20.
Sylwer:
- Nid oes angen i chi wneud cais am y Fwrsariaeth – byddwch yn ei derbyn yn awtomatig cyn belled â’ch bod yn cyflawni’r meini prawf uchod.
- Telir y Fwrsariaeth Cyfrifiadureg £1,500 dim ond yn y flwyddyn gyntaf.
- Mae myfyrwyr sy’n derbyn y Fwrsariaeth Peirianneg Cyfrifiadureg £1,500 yn dal yn gymwys i dderbyn taliadau bwrsariaeth perthnasol eraill, er enghraifft bwrsariaeth Bangor a roddir trwy brawf modd.
- Mawrth 1, 2020 fydd dyddiad talu’r Fwrsariaeth Cyfrifiadureg; telir y fwrsariaeth mewn un taliad.
- Rhaid bod wedi cofrestru o hyd ac yn astudio cwrs cymwys israddedig llawn-amser o fewn Cyfrifiadureg i dderbyn y taliad bwrsariaeth. Ni fydd myfyrwyr sydd wedi rhoi gorau i'w hastudiaethau neu wedi newid i gwrs arall yn derbyn y taliad bwrsariaeth.
- Ni fydd y rhai sy’n dewis gohirio mynediad tan fis Medi 2019 yn gymwys i dderbyn y Fwrsariaeth Cyfrifiadureg £1,500 ar gyfer mynediad yn 2019.
- Yr unig gwrs NAD yw'n gymwys ar gyfer bwrsariaeth Cyfrifiadureg yw'r cwrs BSc Technolegau Creadigol.