Gwobr aur i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA).
Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Yn 2017, Prifysgol Bangor oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur, a golyga hyn bod ein dysgu o’r radd flaenaf.
Canfu rhai o'n hardaloedd cryfaf i fod;
- Ennyn diddordeb myfyrwyr
- Arferion addysgu ac asesu
- Cymorth wedi ei bersonoli
- Ein gwaith yn gwella cyflogadwyedd y myfyrwyr
Rhagoriaeth Addysgu ac Ymchwil
Caiff rhagoriaeth addysgu Prifysgol Bangor ei adlewyrchu gan ganlyniadau y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, a ganfu fod mwy na thri chwarter o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n arwyddocaol yn rhyngwladol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr ymysg y gorau yn y DU
Mae llwyddianau eraill y Brifysgol yn cynnwys canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019. Mae’r canlyniadau yn gosod Bangor ymysg y 10 uchaf o brifysgolion y DU am foddhad myfyrwyr.
Cafodd ein clybiau a chymdeithasau eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau What Uni 2019. Cafodd ein llety hefyd eu henwi y gorau ym Mhrydain yng ngwobrau What Uni 2018.