Beth yw TEF?
Am y tro cyntaf erioed, mae ansawdd addysgu mewn Prifysgolion wedi cael ei fesur ledled y wlad. Cynlluniwyd y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) i gydnabod, gwobrwyo a gwella rhagoriaeth addysgu mewn darparwyr Addysg Uwch ledled y DU.
Nod TEF yw rhoi gwybodaeth glir, ddealladwy i fyfyrwyr ynglŷn â lle mae'r addysgu gorau ar gael, gan eu helpu i wneud penderfyniadau am ble i ddewis.
Mae sefydliadau wedi ennill graddau Aur, Arian neu Efydd am eu haddysgu.
Sut mae'r TEF wedi'i asesu?
Mae tri maen prawf asesu yn y TEF:
- Ansawdd addysgu
- Yr amgylchedd dysgu
- Deilliannau myfyrwyr a chynnydd dysgu
Mae prifysgolion wedi cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf hyn trwy chwe mesuriad craidd a Chyflwyniad Darparwr 15 tudalen sy'n dangos effaith ac effeithiolrwydd mentrau addysgu ar draws y brifysgol.
Yn dilyn ein cyflwyniad, mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf bosibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (TEF).