Astudio gyda ni yn 2021
Fel rheol, dyma'r adeg o'r flwyddyn y byddech chi'n dechrau ymchwilio i brifysgolion, mynychu ffeiriau UCAS a chofrestru ar gyfer dyddiau agored. Er nad ydych chi'n gallu ymweld â ni'n bersonol ar hyn o bryd, rydyn ni dal yma i'ch helpu chi.
Edrychwch trwy ein gwefan i weld gwybodaeth am ein cyrsiau, ein campws a'n llety. Gallwch hefyd wylio fideos a sgwrsio gyda'n myfyrwyr presennol i weld sut beth yw bywyd ym Mangor.

Dyddiau Agored Ar-lein
Rydym yn cynnal sawl Diwrnod Agored Ar-lein er mwyn i chi ddod i wybod mwy amdanom ni.
Cofrestrwch nawr ar gyfer digwyddiadau 11 Hydref, 7 Tachwedd a 6 Rhagfyr.

Ein Cyrsiau
Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau yn y gwyddorau, celfyddydau, dyniaethau, busnes a'r gyfraith.

Llety
Mae ein neuaddau o'r safon uchaf ac oll o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas a phrif adeiladau'r Brifysgol.

Fideos a Theithiau 360
Ewch ar daith o amgylch ein campws a gwyliwch ein fideos.

Sgwrsiwch gydag ein myfyrwyr
Eisiau gwybod mwy am fyw ac astudio ym Mangor? Holwch ein myfyrwyr!

Myfyrwyr Rhyngwladol
Os ydych o du allan i'r DU, cewch wybodaeth berthnasol ar ein tudalennau Rhyngwladol.