Modules for course XL33 | BA/APCYM
BA Astudiaethau Plentyndod/Cymdei

These are the modules currently offered on this course in the 2018–19 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2017–18; 2019–20.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 3 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

Semester 2

  • SCS-3013: Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas (20)
    Diben y modiwl hwn yw astudio’r consensws a’r gwrthdaro o fewn cymdeithas, gan gwestiynnu’r modd y mae grymoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn codi cwestiynau ynglŷn â sut mae normau a gwerthoedd cymdeithasol yn cael ei gyfreithloni, gan gwestiynu buddiannau pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y gwerthoedd hyn. Byddwn felly yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, gan gloriannu’r dadleuon rhwng galluedd yr unigolyn a dylanwad strwythurau cymdeithas ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn gorffen drwy ystyried enghreifftiau o synthesis theoretaidd rhwng y ddau safbwynt. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i rai o theoretwyr cymdeithasegol y cyfnod modern, gan adeiladau ar ei dealltwriaeth o theory gymdeithasegol glasurol. Cychwynnir drwy astudio’r modd y datblygodd y traddodiad Marcsaidd gan dalu sylw penodol at gyfraniad Antonio Gramsci. Wrth drafod gwaith Gramsci byddwn yn canolbwyntio ar ei gysyniad o hegemoni, rheolaeth gymdeithasol a chydsyniad. Yna byddwn yn astudio damcaniaeth gwrthdaro, a chyfraniad meddylwyr yr Ysgol Frankfurt (e.e. Marcuse, Adorno, Hokenhimer, a Habermas). Fel Gramsci, roedd y theoretwyr hyn yn ysgrifennu yn y traddodiad Marcsaidd gyda diddordeb mewn pŵer a rheolaeth gymdeithasol. Astudiwn y modd yr oedd y theoretwyr amrywiol o fewn yr YF yn dehongli’r modd yr oedd y system yn tra-arglwyddi dros unigolion, yn gorchymyn, manipiwleiddio, dallu a thwyllo unigolion i gynnal ac atgynhyrchu strwythur cymdeithas. Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried cyfraniad Pierre Bourdieu a’i ymgais i gynhyrchu synthesis o alluedd yr unigolyn a dylanwad strwythur cymdeithas. Trafodir cysyniadau Bourdieu o habitus, cyfalaf, a meysydd, gan drafod y modd cudd y mae Bourdieu yn gweld pŵer yn dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol. Byddwn hefyd yn ystyried defnydd ffeministiaid o gysyniadau Bourdieu o ran theory ymgorfforiad.

Optional Modules

20 credits from:

  • XAC-3034: Iaith Plentyn a Dwyieithrwydd (20) (Semester 1 + 2)
    Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol: • datblygiad iaith plentyn, beth yw iaith, beth yw pwrpas iaith a phwrpas astudio iaith; • safbwyntiau theoretig a dulliau o astudio caffaeliad iaith; • dulliau o astudio datblygiad iaith a phwrpas profion iaith; • Datblygiad ffonetig plentyn, caffael geirfa, datblygiad cystrawennol a datblygiad sgiliau cyfathrebu • y gwahaniaeth rhwng dysgu iaith yn blentyn bach ac ar ôl y cyfnod hwnnw, anhwylderau iaith, a’r gwahaniaethau rhwng plant uniaith a dwyieithog Yn y cyd-destun dwyieithog, mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol: • ymchwilio ac asesu'n feirniadol natur ac anghenion dwyieithrwydd yn achos yr unigolyn a chymdeithas • cymysgu codau, cyfnewid codau a dyrannu ieithoedd, ac agweddau ar ddwyieithrwydd sy’n effeithio ar rieni; • paratoi ar gyfer y gymdeithas ddwyieithog, llythrennedd yn y ddwy iaith: addysgu a dysgu a dwyieithrwydd ac ymwybyddiaeth o’r byddar.
    or
    XAE-3034: Child Language & Bilingualism (20) (Semester 1 + 2)
    The module focuses on: • child’s language development, what is language, what is the purpose of language and the purpose of studying language; • theoretical perspectives and methods of studying of language acquisition; • language development study methods and the purpose of language tests; • the child’s phonetic development, the acquisition of vocabulary, syntactic development and of communication skills. • the difference between learning a language in early childhood and after that period, language disorders, and the differences between monoglot and bilingual children. In the bilingual context, the module focuses on: • critical investigation and assessment of the nature and needs of bilingualism for the individual and for society • mixing codes, code switching and language allocation, and aspects of bilingualism that affect parents; • preparing for the bilingual society, literacy in two languages: learning and teaching and bilingualism and Deaf Awareness.
  • XAC-3037: Plant a Cham-drin Sylweddau (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi’n bennaf yr agweddau cymdeithasegol ar ddibyniaeth ar sylweddau yng nghyd-destun y teulu, ond bydd hefyd yn gwneud defnydd ar theorïau seicolegol a biolegol er mwyn archwilio’r materion isod yn drylwyr: • Pam y mae pobl yn camddefnyddio sylweddau • Ysmygu, yfed a defnyddio cyffuriau yn ystod beichiogrwydd • Yr effeithiau ar blant bach a gaiff ysmygu gan rieni • Alcoholiaeth rhieni mewn perthynas â phlant • Alcoholiaeth rhieni yng nghyswllt y system ofal • Gofalwyr ifainc mewn perthynas â rhieni sy’n ddibynnol ar sylweddau • Tyfu’n blentyn i riant sy’n ddibynnol ar gyffuriau • Byw gyda brodyr a chwiorydd sy’n gaeth i sylweddau • Gofalu am blant sy’n camddefnyddio sylweddau • Defnydd ar sylweddau mewn perthynas â’r gyfundrefn gyfreithiol • Asiantaethau ac ymyriadau a all helpu
  • XAC-3038: Plant ag Anawsterau Cyfathrebu (20) (Semester 1 + 2)
    Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth beirniadol myfyrwyr o Anawsterau Iaith a Chyfathrebu, a dadansoddi effaith y cyflyrau hyn ar sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc trwy ymdriniaeth o: • Beth yw Cyfathrebu a chylch datblygiad iaith plentyn? • Fathau o Anawsterau Iaith a Chyfathrebu. • Beth mae’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig, dogfennaeth statudol ac ymchwil yn ei ddweud? • Rol rhieni a gofalwyr yr unigolion ag Anawsterau Iaith a Chyfathrebu. • Oblygiadau’r rhwystredigaeth ar blant a phobl ifanc, megis problemau ymddygiadol ac emosiynol. • Rwydwaith gefnogi broffesiynol ag asiantaethau gwirfoddol • Raglenni ymyrraeth a strategaethau cefnogi i ymateb i anghenion unigolion ifanc sydd ag Anawsterau Iaith a Chyfathrebu.
    or
    XAE-3038: Children w. Com. Difficulties (20) (Semester 1 + 2)
    This module will concentrate on the development of students’ critical understanding of Language & Communication Difficulties, and analyse the effect of such conditions on the social interaction skills and emotional and social development of children and young people by giving attention to the following: • What is Communication and the development circle of a child’s language? • Different kinds of Language & Communication Difficulties. • What does the Special Needs Code of Practice, statutory documentation and research state? • The role of parents and carers of individuals with Language & Communication Difficulties. • The implications of frustration on children and young people, such as behavioural and emotional problems. • A professional support network with voluntary agencies. • Intervention programmes and support strategies in response t the needs of young individuals with Language & Communication Difficulties.
  • XAC-3039: Anawsterau Dysgu Dwys (20) (Semester 1 + 2)
    Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ym mlynyddoedd cynnar bywyd, a sut mae ymchwil i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad, a dealltwriaeth ohonynt, yn dylanwadu ar addysg a gofal plant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl. Bydd yn cynnwys: • Dysgu Cynnar a'r Cof • Datblygiad echddygol • Datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu • Rhyngweithio rhwng babanod gydag anableddau a heb anableddau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt - goblygiadau ar gyfer y datblygiad. • Datblygiad y golwg a chanfyddiad • Materion meddygol yn ymwneud ag ADD ac ADDLl • Materion wrth ymchwilio i ddatblygiad a dysgu cynnar iawn ac ADD ac ADDLl • .Asesu plant a phobl ifanc gydag amhariadau lluosog a'u datblygiad: canfyddiadau o ymchwil. • Ymyriadau cyffredin mewn cyfathrebu a rhyngweithio a'r dystiolaeth gyfredol ar gyfer y rhain, yn cynnwys materion wrth werthuso'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau. • Darpariaeth addysg a gofal i blant a phobl ifanc gydag ADDD ac ADDLl - goblygiadau ymchwil seicolegol a dulliau damcaniaethol eraill.
    or
    XAE-3039: Profound Learning Difficulties (20) (Semester 1 + 2)
    The module will focus on typical development in the early years of life, and how research on and understandings of the factors which influence development, inform the education and care of children and young people with SLD and PMLD. Content will include: • Early Learning and Memory; • Motor development; • Development of communication and socialisation; • Interactions between infants with and without disabilities and their caregivers - implications for the development; • Development of vision and perception; • Medical issues relating to SLD and PMLD; • Issues in researching very early learning and development and SLD and PMLD; • .Assessment of and development of children and young people with multiple impairment: insights from research; • Common interventions in communication and interaction and the current evidence base for these including issues in evaluating the evidence for interventions; • Education and care provision for children and young people with SLD and PMLD - implications of psychological research and other theoretical approaches.

20 credits from:

  • SCY-3004: Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes (20) (Semester 1)
    Amcan pennaf y fodiwl yw trafod ein dealltwriaeth o'r heddlu, ac yn ehangach, eu swyddogaeth mewn cymdeithas gyfoes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r heddlu fel sefydliad wedi profi newid sylweddol a bydd y pwysau gan y Llywodraeth am ddiwygiadau pellach yn parhau. Ystyriwn polisiau ac ymarfer gwaith cyfoes yr heddlu a'r fframwaith statudol y maent yn gweithredu. Trafodir y newid yng nghyd-destun polisi cyfiawnder troseddol:- eu prif swyddogaethau; yr heddlu a'r cyfryngau; atal trosedd a gweithio mewn partneriaeth; datblygiadau mewn polisi cyffuriau; yr heddlu; trefn gyhoeddus ac iawnderau dynol; asesu cyfrifoldeb, ansawdd a pherfformiad; cyfle cyfartal a rheoli i'r dyfodol.
  • SCS-3010: Hawliau Ieithyddol (20) (Semester 2)
    Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.