Bywyd myfyrwyr ym Mangor
Rhagoriaeth academaidd mewn prifysgol cyfeillgar
Wedi ei henwi ymysg y 10 prifysgol uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr,* mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas ei hun.
Bywyd Cymdeithasol
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau Cymraeg a drefnir.
Mae eich cyfnod yn y brifysgol yn amser delfrydol i chi roi tro ar rywbeth newydd neu ymuno â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau a hobiau â chi. Mae dros 200 o glybiau a chymdeithasau yma ym Mangor a chewch ymaelodi am ddim.
Am fwy o wybodaeth am beth sydd ymlaen i fyfyrwyr, ewch i’r tudalennau bywyd cymdeithasol a chwaraeon.
Lleoliad anhygoel
Mae bod yn Gymraes ym Mangor yn anhygoel. Mae modd astudio llawer o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae bod yn rhan o neuadd JMJ yn brofiad bythgofiadwy, ac mae’r gymuned yn un gartrefol iawn.
Llio Wyn Owen
Athroniaeth a Chrefydd
Mae’r lleoliad a’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Mon yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i fwynhau eich hunain yn ymlacio. Mae’r Brifysgol hefyd o fewn cyrraedd hawdd i Landudno, Caer, Lerpwl a Manceinion.
Cefnogaeth a chymorth i fyfyrwyr
I bwy bynnag sydd yn bwriadu astudio trwy’r Gymraeg - cerwch amdani, mae digon o help ar gael, arian i helpu gyda’r cwrs a chymorth academaidd.
Erin Jones
Nyrsio Oedolion
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r gwasanaethau ar gael yn amrywio o gyngor ar lles i gyngor ariannol, hwb gyda sgiliau astudio, dyslecsia a chynghori.
Mae hefyd tim Anabledd arbenigol sy’n cynnig arweiniad ar ystod eang o faterion anabledd.
Costau byw rhad
Mae byw ym Mangor yn cymharu’n rhad o gymharu â chostau byw mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill ac mae gwahanol arolygon costau byw yn gyson yn barnu mai Bangor ydi un o’r llefydd mwyaf economaidd i astudio.
Cymorth ariannol
I’ch cefnogi chi yn ystod eich cyfnod ym Mangor, mae gan y Brifysgol dros £3.4m o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig. Ewch i’n gwefan Cyllid Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
Dewch i ddarganfod Prifysgol Bangor
I wylio mwy o fideos am fyw ac astudio ym Mangor, ewch i BangorTV.
* yn ôl arolwg y Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, 2019 (Heb gyfrif sefydliadau arbenigol)