Module PPT-4012:
Addysgu'r Gwydd Dynol mewn AU
Addysgu’r Gwyddorau Dynol mewn Addysg Uwch Portffolio 2023-24
PPT-4012
2023-24
School Of Human And Behavioural Sciences
Module - Semester 1 & 2
10 credits
Module Organiser:
Caroline Bowman
Overview
Mae'r cwrs hwn yn rhan o gyfres o fodiwlau (PPT4010 a PPT4011) ac iddynt y nod yn y pen draw o ddatblygu a gwella sgiliau addysgu, dealltwriaeth o faterion yn ymwneud ag addysgu mewn Addysg Uwch, a'r mecanweithiau sy'n gysylltiedig â rhedeg a datblygu cyrsiau Gwyddorau Dynol mewn Addysg Uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio fel aelod o dîm addysgu i gwblhau eu Hymarfer Addysgu.
Mae'r cyrsiau hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar yr elfen ymarferol o addysgu, yn hytrach na theori bedagogaidd. Nod y cwrs yw helpu myfyrwyr i fod yn addysgwyr cymwys a hyblyg, sy'n gallu hwyluso a chefnogi dysgu myfyrwyr. Yn ogystal, cânt brofiad o’r mecanweithiau 'cudd' sy’n hwyluso addysgu mewn Addysg Uwch (e.e., sicrhau ansawdd, cymedroli ac ati). Bydd y sgiliau hyn yn amhrisiadwy ar gyfer eu datblygiad academaidd a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Assessment Strategy
-trothwy -(D) Portffolio cyflawn a'r lleiafswm o dystiolaeth ar gyfer pob un o'r elfennau gofynnoloGwybodaeth ddigonol yn unig o gysyniadau allweddol addysgu mewn Addysg Uwch. oRhywfaint o ddealltwriaeth o faterion pedagogaidd gyda nifer o wallau ffeithiol. oTystiolaeth gyfyngedig o greu adnoddau addysgu yn annibynnol. oCyflwyniadau ysgrifenedig a llafar gwan gyda pheth tystiolaeth o fynegiant cydlynol. oRhywfaint o ystyriaeth i sgiliau addysgu gydag adfyfyrdod gonest ar eich gallu eich hun.
-da -(B) Portffolio cyflawn a thystiolaeth fanwl ar gyfer pob un o'r elfennau gofynnoloGwybodaeth gref o gysyniadau allweddol addysgu mewn Addysg Uwch. oDealltwriaeth gadarn o faterion pedagogaidd gyda dim ond mymryn o wallau ffeithiol. oRhywfaint o dystiolaeth o greu adnoddau addysgu yn annibynnol. oCyflwyniad ysgrifenedig a llafar ac iddynt strwythur da sy’n dangos ffocws o ran mynegiant.oRhywfaint o fewnwelediad i sgiliau addysgu gydag adfyfyrdod gonest ar eich gallu eich hun.
-ardderchog -(A) Portffolio cyflawn gyda thystiolaeth fanwl wedi'i chynnwys ar gyfer yr holl gydrannau gofynnol ynghyd â thystiolaeth ychwanegol yn dangos ymgysylltiad ychwanegol. oGwybodaeth gynhwysfawr a manwl o addysgu mewn Addysg Uwch. oDealltwriaeth ragorol a dehongliad gwreiddiol o faterion pedagogaidd heb unrhyw wallau ffeithiol. oTystiolaeth glir o greu adnoddau addysgu yn annibynnol. oCyflwyniad ysgrifenedig a llafar ac iddynt strwythur da sy’n dangos ffocws ac eglurder o ran mynegiant.oMewnwelediad dwfn i sgiliau addysgu gydag adfyfyrdod gonest ar eich gallu eich hun.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o’r ystyriaethau sydd ynghlwm â pharatoi asesiadau ym maes Gwyddorau Dynol, marcio gwaith ar lefel israddedig yn briodol, a rhoi adborth effeithiol i fyfyrwyr
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o brif agweddau Sicrhau Ansawdd mewn modiwl
- Dylunio a datblygu deunyddiau dosbarth ar gyfer cyrsiau Gwyddorau Dynol ar lefel israddedig
- Gwerthuso arferion addysgu pobl eraill ac ymateb yn adeiladol i werthusiadau o'ch addysgu eich hun
- Rhyngweithio'n briodol gyda myfyrwyr ar lefel israddedig er mwyn cynnig profiad cadarnhaol ac addysgiadol i’r myfyrwyr
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Portffolio
Weighting
0%
Due date
15/05/2023