Module WMC-4103:
Cerdd mewn Cymdeithas
Cerdd mewn Cymdeithas 2023-24
WMC-4103
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Gwawr Ifan
Overview
Mae’r modiwl hwn yn archwilio nifer o ymddangosiadau cerddoriaeth mewn cymdeithas. Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn ymestyn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o faterion yn ymwneud gyda cherddoriaeth mewn cymdeithas drwy un neu fwy o astudiaethau achos yn codi o arbenigedd ymchwil staff. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddi cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth [musicking] mewn cyd-destun diwylliannol, ac yn archwilio agweddau theoretig o ymarfer cerddoriaeth cymhwysol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau fel arsylwi, gwerthuso a meddwl yn feirniadol, y gellir eu rhoi ar waith wedyn yn eu projectau ymchwil eu hunain.
Bydd pynciau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigedd ymchwil y staff a benodir i ddysgu'r modiwl ac, i ryw raddau, diddordebau'r myfyrwyr. Mae'r pynciau posibl a gynigiwyd yn cynnwys:
- Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles
- Ethnogerddoreg
- Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth
- Cerddoriaeth gynnar a chymdeithas
- Hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol
- Cerddoriaeth a Newid Hinsawdd.
Bydd pynciau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigedd ymchwil y staff a benodir i ddysgu'r modiwl ac, i ryw raddau, diddordebau'r myfyrwyr. Mae'r pynciau posibl a gynigiwyd yn cynnwys:
- Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles
- Ethnogerddoreg
- Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth
- Cerddoriaeth gynnar a chymdeithas
- Hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol
- Cerddoriaeth a Newid Hinsawdd.
Assessment Strategy
Trothwy (50-59) Gwaith sy’n dangos gafael dda ar wybodaeth ffeithiol, gyda gallu digonol i feddwl yn gysyniadol, a pheth ymwybyddiaeth o faterion methodolegol (er yn gyfyngedig), a dangos digon o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
Da (60-69) Gwaith sy'n dangos gafael cadarn ar y pwnc, gyda lefel dda o feddwl yn gysyniadol, ymwybyddiaeth o faterion methodolegol a materion eraill, ynghyd â thystiolaeth o finiogrwydd deallusol a mynegiant da.
Rhagorol (70+) Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth estynedig, meddwl yn gysyniadol a phraff, ymdriniaeth wreiddiol a medrau cyflwyno rhagorol.
Learning Outcomes
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl am bynciau penodol ym maes cerddoriaeth mewn cymdeithas
- Arddangos sgiliau beirniadol a dadansoddol o safon uchel
- Arddangos sgiliau cyfathrebu o safon
- Datblygu methodolegau addas a phriodol
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad
Weighting
30%
Due date
05/05/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
70%
Due date
08/05/2023