Newyddion Diweddaraf

Dau yn cynrychioli Bangor yng ngystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander

Mae gan Prifysgol Bangor gynrychiolaeth dda yn rownd gynderfynol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2018, sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Strathclyde ar 26 Mehefin.

Wedi eu dethol drwy gystadleuaeth ymhlith graddedigion a myfyrwyr sydd eto i raddio o’r Brifysgol, mae Tim Hunt a Joe Perkins ymhlith 20 entrepreneur sydd eisoes wedi ennill cymal arall yn y gystadleuaeth. Bydd y ddau yn ceisio ‘gwerthu’ eu syniad busnes er mwyn ceisio lle yn y ffeinal rhanbarthol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2018