Cyfleoedd Ôl-radd ym Mangor

Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol.

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor 2017/18

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Mwy o wybodaeth.

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Mwy o wybodaeth.

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma
Dyddiad cau: Gorffennaf 11eg 2018
Gwerth: £3,000

Disgownt teyrngarwch i raddedigion sy’n gwneud gradd Meistr 2018

Bydd graddedigion y DU/UE 2018 sy’n dechrau cwrs gradd meistr llawn amser ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi eleni yn awtomatig yn cael disgownt o £500 oddi ar ffioedd dysgu cyrsiau Meistr sy’n gymwys. Mwy o wybodaeth

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig

Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol neu’n ddi-waith cyn mynd i’r brifysgol:

  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru / Grant Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Cyfle
  • Bwrsariaeth Foyer
  • Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
  • Lwfans ceisio gwaith / Cymhorthdal Incwm

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o hyd at £500 i fyfyriwr a oedd yn derbyn y grant mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion neu roeddent yn ddi-waith.

Dyfernir £250 os oeddent yn derbyn grant rhannol pan oeddent yn israddedigion.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol.

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd

Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Ysgoloriaeth ‘Merched mewn gwyddoniaeth’

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaeth Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy’n ferched i barhau gyda’u hastudiaethau. Mae’r ysgoloriaeth hon ar gyfer gradd meistr hyfforddedig yn un o’r colegau canlynol: Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol a Gwyddorau Naturiol. Am fwy o fanylion ewch i’r tudalen Athena SWAN y Brifysgol.

Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Cysylltiadau Defnyddiol

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs: