Cyllid Israddedig

Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau ac Efrydiaethau

Mae Ysgoloriaethau , Efrydiaethau a Bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol ac ein hysgolion academaidd unigol.

Ysgoloriaeth Teilyngdod

Mae tua 40 Ysgoloriaeth Teilyngdod o hyd at £3,000 yr un ar gael i'r rheini sy'n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol y Brifysgol. (Dyddiad cau ar gyfer mynediad 2018 yw 15 Ionawr 2018)

Bwrsariaethau Bangor

Mae’r Bwrsariaethau a gynnigir yn cynnwys Bwrsariaethau Bangor o hyd at £1,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr o deuluoedd â incwm isel a £1,000 ar gyfer myfyrwyr o ofal.

Astudiaethau Cyfrnwg Cymraeg

Mae Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfleoedd Ariannol Eraill

Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau chwaraeon a bwrsariaethau i gefnogi astudiaethau cyfrwng Cymraeg.