Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Modiwlau Sengl Addysg Weithredol

Modiwlau 15 Credyd

Dadansoddi Ariannol er Mantais Cystadleuol

Rheoli Risg Sefydliadau Ariannol

Cyllid Cynaliadwy a Gwyrdd

Taith y Cwsmer mewn Gwasanaethau Ariannol

Ymddygiad Sefydliadol a Phobl

Cyfarwyddwr y Modiwl: Dr Rick Audas

Trosolwg ar y Modiwl

Nod cyffredinol y modiwl hwn yw dysgu myfyrwyr am ddulliau ymchwil y gellir eu defnyddio wrth astudio modiwlau eraill ac yn eu projectau bach. Mae'r cwrs hefyd yn sylfaen ar gyfer astudio dulliau ymchwil uwch i’r myfyrwyr hynny sy'n dymuno astudio am raddau uwch. Mae'r modiwl yn dechrau gyda chyflwyniad i fethodoleg ymchwil ac adnoddau technoleg gwybodaeth. Mae prif ran y modiwl yn cynnwys cyflwyniad i dechnegau disgrifio a chrynhoi data; elfennau o fodelu data; egwyddorion tebygolrwydd a chasgliad; dadansoddiad atchweliad, dadansoddiad cyfres amser a methodoleg arolygon.

Modiwlau 30 Credyd

Cyfarwyddwr y Modiwl: Mrs Deborah Mitchell

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o wyngalchu arian, a theipoleg cyffredin ymddygiad o’r fath. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol, asesiad risg rheoleiddio a'r lefelau diwydrwydd ac adrodd sy'n ofynnol i rwystro gwyngalchu arian. Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, cyflwynir myfyrwyr i agweddau ar feddwl yn feirniadol fel sail i dasgau diwydrwydd dyladwy a datrys problemau at ddibenion deallusrwydd ariannol. Maent yn datblygu'r gallu i ymchwilio i lenyddiaeth academaidd a phroffesiynol, cyflwyno gwybodaeth mewn modd priodol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (rheoleiddiol, corfforaethol yn ogystal ag academaidd).

Nodau ac Amcanion y Modiwl

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i'r rhaglen ehangach, ac yn darparu sylfaen addysg i ystyried atal gwyngalchu arian. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i faterion gwyngalchu arian a rheoleiddio, a'r angen i feddwl yn feirniadol ac adfyfyrio mewn ymchwiliadau ariannol. Mae'r modiwl hefyd yn adolygu'r hanfodion a'r safonau sydd eu hangen i gynhyrchu gwybodaeth mewn modd cryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i gynhyrchu adroddiadau llawn gwybodaeth ar wybodaeth ariannol i wahanol randdeiliaid sydd â diddordeb mewn craffu ar 'gydymffurfiaeth'.

Testun Allweddol

Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio'r cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ar hanfodion atal gwyngalchu arian, meddwl yn feirniadol a chyflwyno gwybodaeth i gyflwyno ystod eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Critical Thinking
Uned 2 - FIU Connect Fundamental AML
Uned 3 - FIU Connect Report Writing

Bydd uned FIU Connect Financial Investigations hefyd yn cael ei ddarparu fel rhywbeth cyffredinol i’w ddarllen ar draws y rhaglen, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y modiwl Cyflwyniad i Droseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth.

Dulliau Asesu

Asesir y modiwl yn ôl dwy elfen:

  1. Adroddiad yn mynd i’r afael â’r pwnc a osodwyd ar ‘Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian’, gan gynnwys adfyfyrio ar y broses ymchwil a pharatoi adroddiadau (4000 o eiriau)
  2. Paratoi a recordio cyflwyniad yn ymwneud ag elfen Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian yr adroddiad (10 munud o hyd)

Trosolwg o’r Modiwl
Trafodir y ddeddfwriaeth a'r amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddio ehangach ar gyfer diffinio, nodi a gwrthsefyll ymddygiad troseddol yng nghyd-destun masnachu pobl, ymddygiad llwgr a chryptoasedau. Mae’r modiwl hefyd yn ystyried technegau a dulliau o ganfod y troseddau hyn a dulliau priodol o fonitro ac adrodd am ymddygiad o’r fath – o drafodion amheus unigol i ymchwiliadau cynhwysfawr gan asiantaethau gweithredu'r gyfraith.

Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried ymddygiad dynol mewn tri maes cyfoes o droseddu ariannol sy’n tyfu – ymddygiad llwgr, masnachu pobl, a chryptoasedau. Ar gyfer pob un o'r meysydd hyn o droseddu ariannol, bydd y modiwl yn amlinellu sut mae trosedd o'r fath yn datblygu, yn gallu ffynnu, yn gallu cael ei ganfod a sut y gellir atal troseddau o'r fath a brwydro yn eu herbyn. Mae'r modiwl yn trafod ymatebion priodol i sefydliadau a rheolwyr pan fyddant yn wynebu ymddygiad o'r fath.

Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ymddygiad llwgr, masnachu pobl a chryptoasedau i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Corruption
Uned 2 - FIU Connect Human Trafficking
Uned 3 - FIU Connect Cryptoassets

Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-

  1. Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
  2. Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).

Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n diffinio ac yn ceisio rheoli troseddau ariannol sy'n gysylltiedig â chamfanteisio amhriodol ar yr amgylchedd ffisegol, a gwyngalchu arian yn seiliedig ar fasnach. Asesir y sancsiynau economaidd a ddefnyddir yn aml i annog cydymffurfiaeth. Amlinellir y cymhellion ar gyfer datblygiad cychwynnol a pharhad pob trosedd a sut y gellir eu canfod. Cyflwynir ymatebion polisi priodol i rwystro a brwydro yn erbyn troseddau o'r fath.

Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried cyd-destun sefydliadol ehangach cymdeithasau o gwmpas y byd sy’n pwysleisio fwyfwy eu pryder ynghylch difrod i’r amgylchedd ffisegol – i genedlaethau o ddinasyddion heddiw ac yfory. Mae troseddau amgylcheddol yn amrywio o lygredd in situ i fasnachu adnoddau amgylcheddol rhwng cenhedloedd. Mae llywodraethau sofran yn aml yn cyflwyno sancsiynau economaidd ar genhedloedd eraill neu sefydliadau unigol (gan gynnwys banciau) i gyfyngu ar fasnach o'r fath. Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ariannol werthfawrogi'r mathau hyn o droseddau er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r agenda cynaliadwyedd.

Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol troseddau’n seiliedig ar fasnach a throseddau amgylcheddol a sancsiynau economaidd i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Economic Sanctions
Uned 2 - FIU Connect Trade-Based Money Laundering
Uned 3 - FIU Environmental Crime

Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-

  1. Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
  2. Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).

Dulliau Dysgu

Mae Modiwlau Sengl yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng dysgu o bell ac yn rhan amser, lle gallwch chi astudio ar eich cyflymder eich hun, ni waeth ble rydych chi yn y byd. Darperir cyfuniad o ddosbarthiadau rhyngweithiol a darlithoedd wedi'u recordio trwy gydol y semester 6 mis, gan roi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i gyfranogwyr.

Blackboard yw'r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) a ddefnyddir gan Brifysgol Bangor lle mae pob modiwl yn elwa o faes pwrpasol yn y platfform lle cedwir yr holl adnoddau astudio. Mae adnoddau'n cynnwys canllawiau astudio, e-werslyfrau a mynediad i'r llyfrgell ar-lein. 

Ffioedd Modiwlau Sengl

Dechrau yn Ebrill 2024

Modiwlau 15 credyd: £2,250
Modiwlau 30 credyd: £3,050 
 
Gallwch dalu fesul modiwl neu bob mis. Cysylltwch â ni am fanylion pellach executiveeducation@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?