Cwestiynau Cyffredinol am y Brifysgol
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael ar gymorth lle bynnag y mae nhw, bydd yr holl Wasanaethau Myfyrwyr ar gael ar-lein. Yn ogystal, bydd myfyrwyr ar y campws yn gallu gwneud apwyntiad wyneb yn wyneb ag Ymgynghorwyr Anabledd, Cynghorwyr Iechyd Meddwl, Cynghorwyr ac ystod o staff Cymorth Myfyrwyr eraill.
Bydd mannau astudio yn parhau i fod ar agor i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad at fannau astudio addas yn eu llety. Cewch ragor o wybodaeth yma
Er nad yw bellach yn ofynnol yn gyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell eich bod yn gwisgo mwgwd mewn lleoliadau gofal iechyd, ac mewn llawer o achosion, mae’n rhaid gwneud hynny. Trwy wisgo mwgwd byddwch yn helpu i ddiogelu pobl eraill o'ch cwmpas, yn enwedig pobl fregus.
Efallai y byddwch hefyd eisiau ystyried gwisgo mwgwd mewn mannau eraill, ac efallai y gofynnir i chi wneud hynny. Byddwch yn barchus o ddewisiadau pobl eraill, p'un a ydynt yn dewis gwisgo mwgwd ai peidio. Mae'r brifysgol yn cefnogi eich dymuniad i wisgo mwgwd.
Os oes angen i chi hunan-ynysu byddwch yn gallu defnyddio’r adnoddau ar-lein i barhau â’ch cwrs nes eich bod chi’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau wyneb yn wyneb eto.
Na, mae’n ddrwg gennym, nid yw hwn yn opsiwn.
Mae cryfderau allweddol Prifysgol Bangor o amgylch ein cymuned a’r ystod eang o weithgareddau a chefnogaeth a gynigiwn.
Felly, byddwn yn disgwyl ichi sicrhau eich bod ar gael i gymryd rhan mewn cymaint o’r cymorth, y ddarpariaeth a’r gweithgareddau ar y campws â phosib.