Ein Cyfleusterau ac Adnoddau Dysgu

Cyfleusterau yn ôl Ysgolion Academaidd/ Sefydliadau Ymchwil

Mae gan Brifysgol Bangor sylfaen ymchwil gadarn sy'n rhychwantu amrediad o ddisgyblaethau academaidd. Yma y gwneir ymchwil ar lefelau Cenedlaethol a Rhyngwladol ac mae'r Brifysgol yn dal i ddatblygu arbenigaethau academaidd sy'n cael effaith fyd-eang. Mae'r Brifysgol yn darparu cymorth cadarn ar gyfer gweithgareddau ymchwil gan gynnwys hybu cysylltiadau â chyrff masnachol a diwydiannol yn y DU a thramor. Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn ceisio ymateb i anghenion lleol a rhanbarthol ac mae'n arbennig o ymwybodol o'i swyddogaeth fel adnodd ymchwil a chanolfan hyfforddiant ar gyfer y Gogledd.

Am fwy o fanylion am y cyfleusterau yn ein ysgolion academaidd,ewch i wefannau'r Ysgol:

Gwefannau'r Ysgolion AcademaiDd

Myfyrwyr yn gweithio yn Llyfrgell Shankland, Y Prif Adeilad, gyda ffenestri gwydr lliw yn y cefndir

Library and Archive Services

Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.

Hefyd, mae gennym gronfeydd data, fideos a CDs; defnydd micro ffurf a chyfleusterau argraffu; casgliad arbennig o lawysgrifau a chatalogau ar-lein i gael mynediad at e-lyfrau, cylchgronau electronig, canllawiau i bynciau ac amryw o adnoddau dysgu eraill.

Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Cyfrifiadureg

Adnoddau Dysgu

Er mwyn eich helpu i astudio rydym yn darparu dewis eang o adnoddau dysgu sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol. Mae gwasanaethau TG yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg.

Rydym yn cynnig

  • Dros 1150 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr – mae rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
  • Blackboard (rhith-amgylchedd dysgu masnachol) i gyfrannu at brofiad dysgu cyfoethog i’r myfyrwyr. Mae’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein. Fel arfer, mae’r deunydd wedi’i rannu’n fodiwlau neu’n gyrsiau ac mae’r wybodaeth ar gael i’r myfyrwyr sydd wedi’u rhestru ar y cwrs/modiwl yn unig.
  • Mynediad i’r rhwydwaith o holl ystafelloedd en-suite ein neuaddau preswyl ac ystafelloedd cyfrifiadurol y Brifysgol

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?