Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes a bydd cyfle i chi weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae ein staff yn ymchwilio'n ddygn i faes Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac maent ar flaen y gad o ran yr wybodaeth sydd ganddynt mewn amryw o feysydd ymchwil sydd o bwys uniongyrchol i fywydau plant. Rydym yn rhagori yn y meysydd astudio canlynol:
Hawliau Plant: Sut mae sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed, yn enwedig yn y materion hynny sy'n effeithio arnynt? Gweler y Wefan Little Voices / Lleisau Bach.
Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu: beth yw'r ffordd orau o nodi, cefnogi a gwella sgiliau cyfathrebu'r plant?
Plant â phroblemau ymddygiadol ac emosiynol:beth yw'r ffordd orau i'r ysgolion fynd i'r afael â phroblemau ymddygiadol ac emosiynol y plant?
Rhaglenni ymyrraeth ar sail tystiolaeth: Pa mor dda y mae rhaglenni ymyrraeth amrywiol yn helpu cefnogi a datblygu datblygiad y plant?
Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol: Pa fathau o raglenni sy'n rhoi'r gefnogaeth orau i blant sydd â gwahanol fathau o Anghenion Dysgu Ychwanegol?
Profiadau Niweidiol Plentyndod: Beth ydym ni'n ei wybod am y ffactorau sy'n dylanwadu'n negyddol ar fywydau plant?
Mae holl ymchwil y meysydd yma - a mwy - yn bwydo'n uniongyrchol i'r modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio, gan gyflwyno safbwyntiau cyfoes i chi ar faterion amserol a sicrhau eich bod chi'n graddio gyda dealltwriaeth ragorol o amrywiaeth dda o faterion.