Mae Cymru ar flaen y gad lle mae diwygio'r byd addysg yn y cwestiwn ac mae ein cyrsiau newydd wedi'u cynllunio gyda'r newidiadau holistig a phedagogaidd hynny mewn golwg, sy'n golygu y byddwch yn graddio gyda set o sgiliau dysgu a sylfaen wybodaeth hynod gyfoes, a byddwch yn gyflogadwy iawn.
Rydym yn bendant o'r farn ein bod yn 'addysgu'r rhai fydd yn gwneud newidiadau yfory'. Bydd y cyrsiau hyn yn eich galluogi i fod yn rhan allweddol o addysgu o safon ble bynnag yr ewch yn eich gyrfa ym myd addysg.
- Ymysg y 5 Uchaf am ragolygon gyrfa – Guardian University Guide 2022
- Ymysg y 10 Uchaf am ansawdd ymchwil – Complete University Guide 2022
- Ymysg yr 20 uchaf drwodd a thro am Addysg (Times Good University Guide 2021)
- Mae tiwtoriaid y brifysgol a'r mentoriaid addysgu wedi eu hyfforddi'n drylwyr iawn ac maent yn ymfalchïo eu bod yn darparu cefnogaeth ac arweiniad rhagorol i chi yn ystod y cwrs TAR
- Byddwch yn cyfarfod â staff a myfyrwyr sy'n gweithio ar amrywiaeth o brojectau ac ymchwil i ddatblygu'r cwricwlwm, ac mae hynny'n ennyn awyrgylch dysgu gwirioneddol ysgogol.
- Mi wnaiff ein harbenigedd rhyngwladol a'n profiad o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ynghylch arweinyddiaeth eich paratoi ar gyfer swyddi arweinyddiaeth at y dyfodol.
- Rydym mewn lle delfrydol ar gyfer addysg awyr agored a gellir gwneud ein holl gyrsiau TAR Uwchradd hefyd ar y cyd â Gweithgareddau Awyr Agored.
- Mae ein llwybr Cynradd TAR yn eich galluogi i brofi nid yn unig y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 ond byddwch hefyd yn treulio amser mewn ysgol uwchradd
- Cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Lleoliadau ar gael ledled y gogledd mewn amrywiaeth eang o ysgolion a lleoliadau o wahanol fathau
- P'un a fyddwch yn dewis ysgol cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg (gan ddibynnu ar eich gallu ieithyddol), byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o ddysgu mewn amgylchedd dwyieithog
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod arweinyddiaeth ysgol yn effeithio ar ganlyniadau disgyblion, a hynny'n ail yn unig i ddylanwad yr athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd gennym yn yr ysgol yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon a'r datblygiadau sylweddol ledled y rhanbarth ac yn genedlaethol o ran datblygu timau arweinyddiaeth cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mi wnaiff ein cwrs BA Cynradd TAR roi dealltwriaeth drylwyr i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro creadigol ac arloesol. Mae gan ein cyrsiau rai nodweddion anarferol y mae ein myfyrwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr:
- Byddwch yn elwa o ddarlithoedd yn y brifysgol a sesiynau hyfforddi a gynhelir yn yr ysgol gan athrawon a mentoriaid profiadol
- Mae hyfforddiant athrawon yn seiliedig ar waith ymchwil diweddar mewn gwahanol agweddau ar addysg a phrofiad ymarferol mewn ysgolion gyda phlant o wahanol oedrannau, a wnaiff roi set o sgiliau dysgu cyfoes i chi
- Modiwlau sy'n ymdrin ag elfennau fel addysgeg, agweddau proffesiynol, gwerthoedd craidd addysg a modiwlau pwnc-benodol
- Mae ein model cwrs cryno yn caniatáu ichi gymhwyso'n gyflymach.