Rwy'n cynnwys y cefndir sydd gen i mewn busnes a seicoleg ym mhopeth a wnaf.
Sonja Milano
Rheolwr Marchnata a Gweinyddu yn Dr Zigs
Astudiodd: BSc Seicoleg, 2018; MSc mewn Seicoleg Defnyddwyr a Busnes, 2019
“Gadewais yr Eidal pan oeddwn yn 18 oed, a chafodd adran Seicoleg Prifysgol Bangor ei hargymell i mi tra oeddwn yn gwneud cwrs sylfaen yn EF Cambridge."
"Wnes i fwynhau popeth am fy nghyfnod ym Mangor, o'r ddinas ei hun, i leoliad y brifysgol; i'r athrawon; y cwrs; fy ffrindiau; y neuaddau; roedd popeth mor berffaith!
“Yr hyn a wnaeth argraff fawr arnaf oedd y dull hollol wahanol o addysgu, gan gynnwys yr holl gymorth gan y darlithwyr a hefyd gan fy nghyd-fyfyrwyr. Y ffordd y gallem ryngweithio gyda'r darlithwyr mor hawdd; y ffordd y gallem ofyn unrhyw gwestiynau a byddent mor barod i helpu. Roeddwn yn synnu i weld gymaint o waith ymarferol oedd yna, nid ydoedd yn golygu astudio gyda llyfrau yn unig, roedd hefyd yn ymwneud â chymhwyso ein dysgu i fywyd go iawn.
"Rwy'n dod o ynys fechan yn Tuscany lle mae awyrgylch clos iawn, a chefais fy hun yn teimlo'n gartrefol ym Mangor ar unwaith, gan ei bod yn gymuned mor gyfeillgar ac yn lle gwych i fod.
“Cefais fy nghyflwyno i Dr Zigs wrth i mi gwblhau lleoliad gwaith chwe wythnos yno pan oeddwn yn gwneud fy ngradd Meistr. Mae Dr Zigs yn gwneud teganau swigod anferth eco-gyfeillgar; rydym yn angerddol am gynaliadwyedd a lleihau gwastraff plastig; mae ein holl gynhyrchion yn yn isel mewn plastig a ddim yn cynnwys olew palmwydd, ac rydym yn allforio ledled y byd. Gwnaeth ein sylfaenydd, Paola Dyboski-Bryant, hefyd raddio ym Mangor!
"Rwyf yn awr yn rheolwr yn Dr Zigs; rwy'n gofalu am sawl agwedd ar y busnes gan gynnwys marchnata a gweinyddu cyffredinol, ac rwy'n cynnwys y cefndir sydd gen i mewn busnes a seicoleg ym mhopeth a wnaf. Drwy astudio ar leoliad a gwneud ymyraethau bywyd go iawn, cefais hyd i fy swydd ddelfrydol, diolch i Brifysgol Bangor."