Fy ngwlad:
Dau fyfyriwr yn eistedd yn sgwrsio yn y twyni

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Wedi’i leoli rhwng y mynyddoedd a’r môr, mae Bangor yn cynnig cefndir heb ei ail ar gyfer eich astudiaethau, gyda mynediad hawdd i rai o dirweddau harddaf y DU. (Myfyrwyr Radiograffeg yn Wrecsam, edrychwch ar ein tudalen campws Wrecsam.)

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Sicrwydd o Lety mewn Neuaddau sydd wedi ennill gwobrau

Mwynhewch fyw’n agos at y Brifysgol, y ddinas a’ch ffrindiau trwy ddewis llety’r Brifysgol. Dewiswch aros yn un o’n dau bentref myfyrwyr, a byddwch yn byw mewn llety modern ac eang o fewn pellter cerdded i brif adeiladau’r Brifysgol.

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Clybiau, Cymdeithasau, Bywyd Cymdeithasol a Chwaraeon

Mae ymuno â chlybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr yn ffordd wych o roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl newydd. Mae Canolfan Pontio, sy’n cynnwys sinema, theatr a llefydd i fwyta; Bar Uno ym mhentref myfyrwyr Ffriddoedd a Barlow’s ym mhentref myfyrwyr Santes Fair yn lleoliadau poblogaidd i fyfyrwyr gwrdd.

Dau fyfyriwr yn siarad ag aelod o staff wrth ddesg dderbynfa

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi ein myfyrwyr

O’r foment y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sydd ei angen arnoch. O reoli eich cyllideb i gyngor ar iechyd meddwl, mae tîm o staff ymroddedig yn sicrhau eich bod yn ffynnu.

Gwylio - Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor

Clawr y Fideo: Myfyrwyr yn tynnu hunlun ar draeth. Teitl y fideo 'Profiad Myfyrwyr'
Fideo: Y Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor

Sut beth ydi bywyd ym Mangor? Gadewch inni ddangos i chi!

Beth bynnag ydych chi yn astudio, mae'r amser a'r ymroddiad a ‘da chi’n cael gan eich darlithwyr yn anhygoel - dwi'n teimlo fel enw yn hytrach na rhif!

Mae’r rhan fwyaf o ‘nghwrs i yn cael ei ddysgu trwy ddarlithoedd a seminarau, mewn darlithfeydd modern fel hwn.

Dwi’n treulio lot o amser yn gweithio mewn labordai. Mae’r cyfleusterau’n anhygoel. Mae’n helpu fi i gael profiad ymarferol o bynciau bywyd go-iawn.

Dwi'n gwneud llawer o astudio annibynnol - dyma Shankland, y Llyfrgell Gymraeg, mae’n hyfryd yma.

Dwi wedi dewis i astudio rhan o fy ngradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn wych i ragolygon fy ngyrfa os byddaf yn dewis i aros yng Nghymru.

Mae digon o amser hefyd i fwynhau hefyd. Mae UMCB yn rhan o Undeb y Myfyrwyr sy'n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr.

Boed hynny’n chwaraeon - dwi'n chwarae pêl droed fel rhan o Chwaraeon y Cymric!

Ymuno ag un o’r cymdeithasau niferus - fel Aelwyd JMJ, lle cawn gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel yr Eisteddfod Rhyng-gol a’r Genedlaethol.

Neu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned trwy brojectau gwirfoddol fel yr un yma!

Dwi'n byw yn JMJ, sef y neuadd i myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a mae’r cymuned yn anhygoel yma.

Dwi’n byw adra, ond dwi’n dal yn rhan o Brofiad Bangor!

Boed yn mwynhau panad cyflym rhwng darlithoedd,

neu yn astudio yn un o’r mannau dysgu cymdeithasol.

Mae’r Cymric yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, ac mae digwyddiadau Campws Byw bob wsos.

Dwi’n cael profiad ymarferol ar leoliad gwaith gwych gyda’r Coleg Cymraeg yn trefnu digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r iaith Cymraeg.

Ac fe gymerais i flwyddyn yn astudio dramor yn wlad Belg ag yn yr Eidal a chael golwg newydd ar fywyd.

Mae’r coedwigoedd yma yn anhygoel. Dwi wrth fy modd yn beicio mynydd yn fy amser sbâr.

Os ydych chi’n gweld hi’n anodd - mae’r gwasanaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr ar gael felly fydd rhywun yma yn barod i siarad efo chi. A mae o ar gael yn ddwyieithog.

Os ydych chi’n dymuno gweithio ochr yn ochr â’ch astudiaethau yma ym Mangor, mae yna lawer o gyfleoedd ar gael.

Dwi’n llysgennad myfyrwyr, sy’n golygu fy mod i’n cael fy nhalu i weithio mewn digwyddiadau fel y diwrnodau agored a hyd yn oed creu cynnwys digidol i’r Brifysgol.

Mae’r bywyd gyda’r nos yn wych - mae’r ddinas yn fach, ac mi fyddwch bob amser yn taro i mewn i ffrindiau mewn tafarndai a chlybiau ac mae’n teimlo’n ddiogel bob tro.

Dwi wrth fy modd yn mwynhau ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant mewn cymuned bywiog Cymraeg.

Beth fydd eich profiad chi fel, yma, ym Mangor?