Person yn plannu coeden glasbren.

Cadwraeth

1af yn y DU am effaith ein hymchwil (REF 2021) ac yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).
Ar y dudalen yma:
Ein cyrsiau Cadwraeth

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

Bydd y trawsgrifiad ar gael yn fuan

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld 

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon, 

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir! 

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol 

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig. 

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.  

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod 

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor. 

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn. 

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu... 

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod. 

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio 

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Ar leoliad cwrs yn Kenya

Aeth myfyriwr Cadwraeth, Owen Eaton, ar leoliad cwrs i Kenya. Cymrerwch olwg ar ei luniau arbennig ar y dde. 

"Mae ymweld â Kenya am 8 mis fel fy lleoliad gyda'r cwrs wedi rhoi cyfle gwych i mi gymryd rhan mewn ac arwain astudiaethau yn ymwneud ag ymddygiad anifeiliaid yn y byd go iawn gyda gwyddonwyr. Rwyf wedi hogi sgiliau mewn casglu data ac arweinyddiaeth tra'n lliniaru'r gwrthdaro rhwng pobl ac anifeiliad. Ac wrth gwrs, roedd fy nghamera wrth law trwy gydol y profiad."

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • ein hamgueddfa hanes natur ein hunain 
  • gardd fotaneg
  • acwaria dŵr croyw a morol
  • casgliad o nadroedd gwenwynig
  • labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop 
  • adardai
  • llong ymchwil sy'n mynd dros y môr
  • fferm ymchwil weithredol
Tri myfyriwr yn edrych ar sgerbwd anifail wedi ei osod ar fwrdd arddangos gwydyr yn Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol yn Brambell

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

1af

yn y DU am effaith ein Hymchwil

REF 2021

Ein Hymchwil o fewn Cadwraeth

Mae ein hymchwil yn hynod ryngddisgyblaethol, gan gynnwys mewnwelediadau, arbenigedd a dulliau o fioleg, ecoleg, seicoleg, economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth, gwyddorau systemau tir, a pholisi ymhlith eraill.

Rydym yn gweithio’n fyd-eang, ym mynyddoedd Eryri a riffiau cwrel y Caribî, coedwigoedd glaw a safana a thu hwnt. Rydym yn cynnal ymchwil cymhwysol sy'n mynd i'r afael â'r bygythiadau amrywiol sy'n wynebu rhywogaethau ac ecosystemau ledled y byd.

Mwy am ein hymchwil.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?