Oes arnoch chi eisiau dechrau yn y brifysgol ym mis Medi ond heb benderfynu ble i fynd? Efallai nad yw eich graddau gystal ag yr oeddech wedi ei obeithio? Peidiwch â phoeni! Dyma rai awgrymiadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r we, apiau a’r cyfryngau cymdeithasol i’ch helpu i ddod o hyd i’ch lle yn y brifysgol drwy’r system glirio.
Defnyddiwch wefan UCAS i edrych ar y cyrsiau sy’n cael eu rhestru
Yn y nodwedd chwilio caiff yr holl gyrsiau sydd ar gael trwy'r system glirio eu rhestru, a gallwch chwilio yn ôl prifysgol, pwnc neu leoliad. I gael gwybodaeth fwy personol sydd wedi ei theilwra, defnyddiwch y ganolfan UCAS i gadw canlyniadau gwahanol chwiliadau.

Edrychwch ar wefannau prifysgolion
Fel arfer bydd gan brifysgolion dudalennau gwe penodol gyda gwybodaeth am y drefn clirio. Gallwch ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael trwy’r drefn clirio a chael gwybodaeth fanwl am y cwrs, y modiwlau y gallwch eu hastudio ac opsiynau eraill y gallant fod yn eu cynnig megis blwyddyn ar leoliad gwaith neu gynlluniau astudio dramor.
Os nad yw eich canlyniadau gystal ag yr oeddech wedi ei ddisgwyl, ac yn enwedig os na wnaethoch gystal yn eich hoff bwnc, mae'n werth edrych ar Gyrsiau Blwyddyn Sylfaen. Mae'r rhain yn aml yn darparu llwybr amgen i gael mynediad i'ch maes pwnc a'r cymhwyster o’ch dewis.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig digwyddiadau ar y campws a digwyddiadau rhithwir. Mae digwyddiadau ar y campws yn rhoi’r cyfle i chi weld cyfleusterau ac adnoddau cwrs-benodol, cyfarfod â staff addysgu a myfyrwyr presennol, ymweld â’r llety myfyrwyr ac ymgyfarwyddo ag adeiladau’r brifysgol a’r dref neu’r ddinas. Mae digwyddiadau rhithwir hefyd yn ffordd wych i chi gysylltu â darlithwyr a staff eraill a dyma'r dewis gorau os na allwch fynychu diwrnod agored yn y cnawd. Bydd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau rhithwir yn cynnwys fideos, teithiau 360 a Sgyrsiau Byw gyda staff a myfyrwyr, yn ymdrin â'r holl bynciau y byddech eisiau gwybod amdanynt ar Ddiwrnod Agored go iawn, pethau megis Bywyd Myfyrwyr, Cyllid Myfyrwyr a Llety.
Sgwrsiwch gyda myfyrwyr ar-lein
Mae llawer o brifysgolion yn caniatáu ichi gysylltu â myfyrwyr ar-lein, naill ai ar eu gwefan eu hunain neu drwy lwyfan Unibuddy ar wefan UCAS. Mae myfyrwyr presennol wedi bod yn yr union sefyllfa yr ydych chi ynddi nawr a gallant gynnig cyngor gwych am astudio, bywyd myfyriwr, llety a llawer mwy. Mae hefyd yn syniad da chwilio am gynnwys sydd wedi'i greu gan fyfyrwyr, er mwyn i chi gael gwell dealltwriaeth o'r cwrs a'r brifysgol rydych chi'n ei hystyried.

Chwiliwch am brifysgolion ar y cyfryngau cymdeithasol
Gallwch gael y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar unrhyw wybodaeth bwysig, megis pryd mae llinellau cymorth clirio ar agor a pha ddigwyddiadau rhithwir sydd ar y gweill trwy edrych ar dudalennau’r prifysgolion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae sianeli Instagram a YouTube hefyd yn ffynhonnell wych o bob math o fideos – o fideos myfyrwyr i fideos am gyrsiau penodol. Chwiliwch am luniau a fideos o’r lleoliad fel y gallwch weld sut le yw’r campws a’r ardal gyfagos.
Dewch â'ch holl ymchwil ynghyd
Unwaith y byddwch wedi gorffen eich ymchwil ac yn hapus gyda'r brifysgol a'ch dewisiadau cwrs, bydd angen i chi eu ffonio i weld a allant gynnig lle i chi drwy'r system Glirio.
Byddwch yn barod
Byddwch angen eich rhif ymgeisio UCAS, eich rhif Clirio, cod y cwrs, eich canlyniadau Lefel A ac unrhyw ganlyniadau TGAU perthnasol gan y bydd staff ar y Llinell Gymorth yn gofyn amdanynt. Byddem hefyd angen eich manylion cyswllt a chyfeiriad e-bost i anfon eich cynnig Clirio atoch.
Pob hwyl i chi gyda'r chwilio!